Ydds Hafan  -  Ystafell Newyddion  -  Newyddion y Brifysgol  -  Datganiadau i'r Wasg 2019

Cynhadledd NEXUS Cymru 2019


25.07.2019

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru Gynhadledd NEXUS Cymru, y gynhadledd flynyddol ar ddysgu ac addysgu, yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe ar 10 ac 11 Gorffennaf.

Cadeiriwyd y Gynhadledd gan yr Athro Simon Haslett, Pro Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am weithgareddau cyfoethogi a rhyngwladol.  Meddai: “Hon oedd pedwaredd Gynhadledd Nexus Cymru i gael ei chynnal ar y cyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru. Er mai’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru sy’n trefnu’r gynhadledd, mae’n agored i’r holl staff a myfyrwyr addysg uwch o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ac mae'n cynnig cyfle i ledaenu syniadau a rhwydweithio â chydweithwyr ynglŷn ag ymchwil seiliedig ar ddisgyblaeth sy’n hysbysu’r cwricwlwm, yn ogystal ag ymchwil ac ysgolheictod sy’n hysbysu dysgu ac addysgu.  Hefyd y Gynhadledd yw cynulliad blynyddol y clwstwr ymchwil mwyaf o staff o fewn y Brifysgol ar ei newydd wedd.”

Mae’r gynhadledd flynyddol yn darparu platfform cyffrous i ddatblygu ymhellach y cysylltiadau rhwng ymchwil, arfer proffesiynol ac addysgu mewn Addysg Uwch.  Diffinnir y cysylltiadau rhwng ymchwil ac addysgu'n eang i gynnwys ysgolheictod dysgu ac addysgu, addysgu seiliedig ar ymchwil, cyfoethogi profiadau myfyrwyr, a rhoi sylw i ymchwil myfyrwyr.  Yn ogystal â darparu fforwm ar gyfer ymchwil ac ysgolheictod yn y maes hwn, mae hefyd yn darparu cyfle am ddatblygiad proffesiynol drwy roi ffocws i ddatblygiad proffesiynol ar themâu cyfoethogi a gytunwyd, gan ganiatáu i staff unigol gadw'n gyfredol â datblygiadau newydd, adnewyddu sgiliau presennol a datblygu rhai newydd, ac adfyfyrio ar eu harfer proffesiynol yn gyffredinol.

Un o blith y niferoedd lawer o gynadleddwyr oedd Sylfaenydd Emergent Thinkers: Felicity Healey-Benson, sydd wedi llunio’r blog isod am ei phrofiad.

Nexus: sbardun cyd-drawsffurfio

Deffroad

Es i Gynhadledd Nexus Cymru 2019 i gyflwyno 2 bapur.  Nid oedd yn ddigwyddiad cyffredin.  Roedd hon yn arbennig.  Â diben rhyng-ddisgyblaethol, ond â’r gallu i hwyluso y tu hwnt i syniadau’n gorgyffwrdd ar ffiniau disgyblaethau.  Ar adeg pryd rydym yn cael ein cau i mewn gan gysylltiadau ar-lein, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol, llwyth gwaith a phryderon cynyddol ynghylch ochr dywyllach datblygiadau technolegol, cynigiodd y gynhadledd seibiant ar gyfer mynediad i fudiad personol iawn a diriaethol dros alluoged dynol ar y cyd.

Rwyf bob amser wedi canfod ‘addysg’ i fod yn ddisgyblaeth gyfansawdd, ond yma profais wefr cyd-gynhyrchu syniadau ar draws disgyblaethau ar lefel llawr gwlad.  Unigolion a thimau â phwrpas, nid yn unig yn arbenigwyr yn eu meysydd priodol, ond yn ymgorfforiad o ryddid mynegiant, creadigrwydd, a chariad at fywyd.  

Arweinwyr, ymchwilwyr ac addysgwyr, wedi ymrwymo â brwdfrydedd i ‘wneud’ pethau’n wahanol ac i ‘fynd i’r afael’ yn benben â phryderon addysg ôl-fodernaidd. Deillia’r gair “Nexus” o’r Lladin “nectere”, “rhwymo”, gyda’r un gwreiddyn Lladin a roddodd fod i’r geiriau Saesneg “connect” ac “annex”.   Gadawodd cryn nifer ohonom Gynhadledd NEXUS Cymru 2019 wedi ein rhwymo gan reidrwydd cyffredin, â safbwyntiau wedi’u lledu, a’r addewid o gyfleoedd cydweithredol ‘byw’ i hwyluso newid trawsffurfiol.

Ymchwil Cydweithredol a Chysylltiedig

Rwyf wedi dadlau’n flaenorol y bydd ‘addysgwyr’ yn chwarae rôl hollbwysig o ran atal dyfodol dystopaidd o ddeallusrwydd artiffisial.  Mae arbenigwyr o bob cwr o’r byd yn rhagweld y bydd deallusrwydd artiffisial rhwydweithiol yn cryfhau effeithiolrwydd dynol, ond ei fod yn bygwth ymreolaeth, galluoged a galluoedd dynol (Anderson et al., 2018).  Felly, ni allwn eistedd yn ôl a gwylio tranc perthnasedd bodau dynol dros gyfnod o amser.  Yn hytrach, rhaid i ni weithio’n gydweithredol i aildrefnu’r system economaidd a gwleidyddol a fydd yn ehangu medrau a galluoedd dynol.  

Yn y byd addysg, ar unrhyw lefel, mae hyn yn gofyn am ymgysylltu gweithredol gan bob disgyblaeth, ac mae’n gofyn am ffocws ar frys, nawr.  Bydd yr ymgyrch yn gofyn am alw ar nid yn unig egni brwdfrydig, ond hefyd strategaethau ac ymyriadau a seilir ar ymchwil a fydd yn parhau y tu hwnt i ddiwygiadau’r eiliad, a fydd yn cynnal ac yn ymestyn gallu bodau dynol.  Bydd ailenedigaeth ‘Addysg’ fel y’i hadwaenwn, yn seiliedig ar ymchwil rhagorol, yn allweddol i’r ymgyrch ddynol fyd-eang hon.  Ond rhaid i addysgwyr gael y lle a’r annibyniaeth rhag eu llwyth gwaith a’i bwysau cynyddol, i ymchwilio, i feddwl, i gyfnewid, i hwyluso, i ailgynnau cysylltiadau dynol, ac i gyd-greu.

Iaith, creadigrwydd a meddwl yn feirniadol

Arddangosai cyfranwyr i Gynhadledd Nexus Cymru 2019 archwaeth sylweddol am gydweithio ac effaith; ymrwymiad i fynd i’r afael ar y cyd â phryderon addysg ôl-fodernaidd.  Nid oedd unrhyw ddatgelu o’r newydd bod sefydliadau byd-eang, rhai economaidd ac fel arall, yn cytuno ar y sgiliau craidd sydd eu hangen i oroesi, hyd yn oed i ffynnu yn yr 21ain ganrif, ond yn hytrach gydnabyddiaeth na fydd angen na dyhead ar eu pennau eu hun yn gwarantu cyflawni hynny.  Ond mae cytundeb bod rhaid croesawu technoleg a’i defnyddio’n bwrpasol, nid yn syml ei hwpo i mewn i’r gwaith o ddylunio dysgu.

Yn nodedig hefyd oedd y defnydd cyson ac ymwybodol o derminoleg ar draws nifer o ddisgyblaethau (busnes, economeg, technoleg, cynhwysiant cymdeithasol, iaith a’r celfyddydau) a oedd yn hyrwyddo iaith, creadigrwydd, a meddwl yn feirniadol.  Heblaw hynny, gan dynnu’r haenau’n ôl at y syniadau a’r symbyliadau creiddiol, datgelwyd “geirfa dragwyddol anymwybyddiaeth gydweithredol” (Brenner, 2013) o storfa o fewn arbenigedd, profiadau ac atgofion unigol, a oedd bellach yn dihuno i gynnig awgrymiadau, cliwiau ac atebion i gyfyng-gyngor cyffredin.  

Dymuniad i gyfoeth, iechyd a hapusrwydd gael eu dosbarthu’n fwy teg ac am blaned gynaliadwy.  Rhaid i addysgwyr fod yn hwyluswyr arweiniol creadigrwydd, cydymdeimlad a chydweithredu, ond gan gydnabod eu bod hwythau’n cael eu llunio a’u cyfarwyddo gan fethiannau eu system eu hun.  Mae angen i sefydliadau addysg esblygu y tu hwnt i fod yn gynhyrchwyr tystysgrifau neu’n weinyddwyr asesiadau perfformiad sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gynhyrchu gweithwyr effeithlon, gan arddel diben cymdeithasol uwch yn fwy brwd.

Trysori dyfnderoedd iaith

Cynigiodd Cynhadledd Nexus Cymru 2019 gymysgedd llesmeiriol o gelfyddyd, iaith, athroniaeth, addysgeg ac arfer. Fe'i hagorwyd mewn modd hyfryd gan yr Athro Mererid Hopwood, a drochodd y gynulleidfa yn nyfnderoedd iaith. Sgriblais gyfeiriad at J.R. Jones ar Wittgenstein, ‘terfynau fy iaith yw terfynau fy myd’.  Y datganiad hwn, ynghyd â’n hatgoffa bod gwrando bob amser yn gam gweithredol, a bod gwrando mewn iaith nad ydych yn ei deall yn mynnu hyd yn oed fwy o gyfranogiad, a osododd naws y digwyddiad i mi.   Doethineb yn llawn treiddgarwch anhygoel i chwistrellu cyfranogiad i mewn i gynhadledd amlddisgyblaethol.    Gwahoddiad i edrych y tu hwnt i’ch arbenigedd eich hun a’r cyfarwydd, a mynd i mewn i gylchoedd meddwl newydd. Yn ôl fy meddwl i, tu hwnt i ddwyieithrwydd iaith, ond yn gyfle i fanteisio ar amlieithrwydd ysgolheigaidd.

Noda’r diffiniad o ymchwil rhyngddisgyblaethol ei fod yn fodd i “dimau neu unigolion integreiddio gwybodaeth, data, technegau, offer, safbwyntiau, cysyniadau, a/neu ddamcaniaethau o ddwy neu fwy o ddisgyblaethau neu gasgliadau o wybodaeth arbenigol er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth sylfaenol neu ddatrys problemau y mae atebion iddynt y tu hwnt i gwmpas disgyblaeth neu faes arfer ymchwil unigol” (CFIR et al., 2004, t2).  

Yn y byd addysg, nid yw’n wir nad ydym wedi pontio myfyrwyr a syniadau o barthau gwahanol ar draws modylau, ac wedi hwyluso prosiectau neu heriau a gyd-gynhyrchwyd.  Yn lle hynny, tybed a ydym yn wir, a ninnau’n ddiffygiol o ran amser neu adnoddau, yn manteisio ar gyfleoedd i feddiannu safbwyntiau amlddisgyblaethol. Mae’r iaith ei hun, ymhob pwnc, yn bwysig, ac eto gellir cael cynifer o arlliwiau coll rhwng cysyniadau, haniaethau a chyd-destunau.  Mae gan fodau dynol duedd naturiol i gysylltu â ffeithiau neu syniadau a allai fod yn ddefnyddiol i’n safbwyntiau disgyblaethol ein hun.  

Mae camu i’r anghyfarwydd, gwisgo sbectol ag ‘arlliw’ newydd, ceisio gweld y byd o’r newydd o lygad/safbwynt disgyblaeth hollol newydd yn anghyfforddus, ac eto’n llawer mwy grymus.  Mae’n bosibl bod hwn yn un allwedd i ddyfodol llai dystopaidd.  Yn y byd sydd ohoni dywedir wrthym am allu deallusrwydd artiffisial i ymyrryd â’n cyfieithiadau a’n cyfathrebu; y gallwn hyd yn oed wneud heb gyfieithwyr dynol, oherwydd efallai gall algorithmau ail-greu iaith yn fwy effeithlon bellach.  Eto, rhaid i ni ymladd i gadw’r dyfnder o fewn ein hieithoedd, er mwyn sicrhau na chollir hanes, diwylliant, ystyr a chreadigrwydd i effeithlonrwydd cyfrifiadurol oer y peiriannau sy’n creu allbwn â dyfrnod ‘galluogrwydd Google’.

Cyfrifoldeb Mawr

Mae cynifer o gyfranogwyr i ddiolch iddynt, ac fel cyfranogwr unigol ar fy mhen fy hun, ni allaf ond adrodd yn ôl ar gyfran a brofais yn gorfforol, o ystyried maint y gynhadledd a gynhwysai gyflogadwyedd, dysgu a moeseg mewn addysgu ac arfer.   Felly mae’r isod yn rhoi ciplun yn unig ar f’adfyfyrio personol fy hun:

Rhannodd Neil Hapgood dystiolaeth gref am effaith y cyfryngau cymdeithasol ar ddatblygiad yr i-genhedlaeth. Roedd hwn yn bwynt canolog i lawer o gynadleddwyr, am ei fod wedi peri i’r dystopaidd syrthio’n glatsh i mewn i’r ystafell. Mae pobl ifanc, ar hyn o bryd, yn dioddef.  Nid ymdrinnir â chaethiwed i dechnoleg a’r gofidiau sy’n deillio ohono drwy roi tragwyddol heol i ymhelaethu technolegol dilyffethair.  Mae angen taer am ryngweithio dynol, a defnydd mwy doeth o dechnoleg.

Offeryn yw technoleg, nid ffordd o fyw neu ‘feddwl’. Boed i ni wneud y defnydd gorau ohoni i hyrwyddo ein dysgu, a chaniatáu iddi ychwanegu at werth dynol ac nid cymryd ei le (Christian Stevens, Dr Christine Davies, Fred Okpala).

Roedd Dr Nisa Omar ar ymweliad o Brifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru a darparodd enghraifft wych o dechnoleg yn rhyddhau’r addysgwr ar gyfer ymdrechion dynol mwy gwerthfawr gyda’i phrototeip o Asesiad a Chyfarwyddiadau Metrig Gweithredol.

Boed i ni lenwi unrhyw le sy’n agor yn ein portffolios gorlawn â dysgu gweithredol (Dr Nik Whitehead, Sue Maw, Stacey Coleman, Paul Darby a Dawn Jones, a Julie Hayward, Beth Cummings a Gareth Hughes) ac ymchwil a phrosiectau allanol.  Dylai fod yn hysbys bod dysgu seiliedig ar ymchwil yn bwysig ar gyfer datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, mewn addysgwyr a dysgwyr (Dr Nichola Welton a Dr Caroline Lohmann-Hancock).

Gan gyflwyno y tu hwnt i bregeth yn erbyn y model economaidd cyfalafol cyfredol, cynigiodd Dr Sandra Dettmer, Shellie Holden a Katherine Clewett ‘Fan Profi Creadigol’ sy’n ymgorffori’r economi gylchol, gyda’r nod o leihau gwastraff.  Gan gynrychioli economeg, busnes a’r celfyddydau roeddynt yn arddangos dyfnder a phŵer dull rhyngddisgyblaethol ar y cyd ar gyfer eu myfyrwyr er mwyn hwyluso symud i system gymdeithasol-dechnegol fwy cynaliadwy.

A hithau’n cynrychioli’r Athrofa Addysg, rhannodd Alison Evans gynlluniau ar gyfer ymgorffori creadigrwydd, arloesi a menter yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, gan honni na fyddai llwyddiant yn gysylltiedig â manteisio ar un addysgeg yn benodol, ond yn hytrach ag ymrwymiad â rhestr o egwyddorion.  Roedd hyn yn f’atgoffa o’r cysyniad o ‘groesfeddwl’ (Mercer, 2000) ac yn cryfhau fy marn bod angen i ni, fel addysgwyr, gymryd mwy o gydgyfrifoldeb i hwyluso’r ffordd y gall ein dysgwyr feddwl a siarad ar y cyd, heb ystyried arbenigedd annibynnol a golwg fyd-eang.  Bod angen i addysgwyr gymryd cyfrifoldeb wrth ddatblygu beirniadaeth ynghylch eu haddysgeg a’u cymunedau arfer eu hun, beth bynnag fo’u disgyblaeth.

Cafwyd rhai eiliadau dwys ac emosiynol, gallu Seicoddaearyddiaeth i ddatgloi’r enaid o’r tu fewn i fannau ffisegol (Paul Duerinckx).  Gollyngwyd dagrau.

Er gwaethaf y ffaith bod y rhain yn ystod symposiwm olaf y dydd, byddai’r papurau terfynol i’w cyflwyno gan Gyfadran Celf a Dylunio’r Drindod Dewi Sant yn sicr o dreiddio i’m synhwyrau, ail-fywiogi a heintio fy modolaeth.  Cyflwynodd Dr Julia Lockheart, Gwenllian Beynon a Martin Bush offer a chyngor ymarferol a ddylai gael eu lledaenu’n fuan ar draws cyfadrannau. Fe’n cyflwynwyd ni gan Rob Jones i ddelweddu a seiniau’r aruchel yn dechnolegol, gan ennyn braw ac ofn; offeryn y gallwn ei ddefnyddio i archwilio’r farn sefydledig am alluogedd fel y’i rheolir gan strwythurau llywodraethol.

Neges graidd o’r symposiwm hwn am brydferthwch a photensial y bod dynol i oresgyn dystopia, wedi’i hamseru mor ffortunus ar adeg dyngedfennol i’n hil, ein bod ninnau’n llunio neu’n cael ein llunio gan ddatblygiadau technoleg a’r blwtocratiaeth gyfredol.  Yn lle hynny boed i ni geryddu hunanfodlonrwydd a niwtraliaeth fel Gustav Metzger, fel y rhannwyd gan Jeremy Gluck. Pwnc Gweledogrwydd, fel y’i cyflwynwyd gan yr Athro Emeritws Howard Riley, a ddaeth â’r symposiwm i ben, gyda’r alwad i ailfywiogi uchafiaeth ymholi canfyddiadol, a’i botensial am addysg fwy trawsffurfiol.

Gadewais gyda theimlad eglur y bydd angen i gydweithredu dilys sy’n cael effaith ennyn a thynnu o bawb yr ymdeimlad o’r hyn ydyw bod yn ‘ddynol’.

“Celfyddyd yw clywed sŵn curo o’ch enaid - a chithau’n ei ateb.” Terri Guillemet

Y byd yw’r hyn a wnawn ohono.

Ar ôl Nexus, rwy’n fwy ymwybodol o’r angen i addysgwyr gael y lle i wneud y pethau iawn ac ystyrlon yn dda. Nawr byddaf yn mynnu ychydig yn fwy. Mae’r hyn y mae gennym y potensial i’w gyflawni yn bwerus, os cawn y lle a’r adnoddau i gyfuno, newid ac uno, i fod yn ymchwilwyr beirniadol, gan fodelu rôl y dinesydd ymholgar sy’n meddwl yn feirniadol yr hoffem ei fatriciwleiddio a’i ddatblygu yn ein hamgylcheddau dysgu.

Credaf yn gryf y gallwn godi ar y cyd a llywio llwybr ein dyfodol.  Bydd addysg yn ein helpu i ddarparu o’r newydd ar gyfer cymdeithas fwy cadarnhaol, ond rhaid iddi adolygu’i safle yn y byd, ei lle yn y dyfodol.  Ni fydd yn dŷ cynhyrchu ar gyfer y system economaidd bellach.  Er mwyn taflu byd plwtocrataidd, sy’n gorchymyn tynged cymdeithas ranedig â’i sylw ar dechnoleg, oddi ar lwybr dinistriol, mae gofyn cael system addysg sy’n magu ac yn meithrin meddylwyr creadigol a beirniadol.  Ni chaiff y system ein llunio ni, ni yw’r system.

Yn olaf diolch i’r Athro Simon Haslett, Pro Is-Ganghellor yn y Drindod Dewi Sant a Victoria Watkins am eu gwaith caled a’u huchelgais wrth hwyluso Cynadleddau Nexus Cymru.  Diolch i Dr Antje Cockrill, am gadair ei Symposiwm ac am ysbrydoli’n gyffredinol.

Dyma un o ddyfyniadau fy hoff awdur sy’n dal hanfod y digwyddiad.

“Mae natur y bydysawd ynddi’i hun yn eich gwahodd i deithio a’i darganfod.  Mae’r byd yn dymuno i’n meddyliau wrando’n astud a syllu’n ddoeth er mwyn i ni ddysgu’i gyfrinachau a’u henwi.  Ni yw drychau atseiniol Natur fyfyriol.  Un o’n dyletswyddau mwyaf cysegredig yw bod yn agored ac yn ffyddlon i leisiau cynnil y bydysawd sy’n dod yn fyw yn ein dyheu... Naill ai rydym yn y bydysawd i breswylio yn nhragwyddoldeb hyfryd ein heneidiau a thyfu’n real, neu man a man i ni gysegru ein dyddiau i siopa a lladd amser drwy wylio rhaglenni trafod... Yn ddelfrydol, dylai bywyd dynol fod yn bererindod gyson o ddarganfod.  Mae’r darganfyddiadau mwyaf cyffrous yn digwydd wrth y ffiniau.  Pan fyddwch yn darganfod rhywbeth, byddwch yn gweddnewid peth o anghyfanedd-dra’r byd.  Daw Natur i adnabod ei hun o’r newydd yn eich darganfyddiadau.  Mae meddyliau dynol creadigol yn ychwanegu at ddisgleirdeb y byd.”

Darnau gan John O’Donohue (2011)

Credyd Llun o’r Byd Rhwydweithiol: Gerd Altmann gan Pixabay

Cyfeiriadau

Gellir dod o hyd i’r holl gyflwynwyr/crynodebau a nodwyd, ynghyd â’r rhaglen lawn yn https://www.uwtsd.ac.uk/cy/cynhadledd-nexus-cymru-2019/

Anderson, J., Raine, L. & Luchsinger, A. (2018) ‘Artificial Intelligence and The Future of Humans, Pew Research Centre [ar-lein]. Ar gael yn: https://www.pewinternet.org/2018/12/10/artificial-intelligence-and-the-future-of-humans/ [Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019].

Brenner, A. (2013) ‘The Inner Language of the Subconscious’, Psychology Today [ar-lein]. Ar gael yn: https://www.psychologytoday.com/gb/blog/in-flux/201301/the-inner-language-the-subconscious [Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019].

Committee on Facilitating Interdisciplinary Research, Committee on Science, Engineering, and Public Policy (2004) Facilitating interdisciplinary research, National Academies, National Academy Press: Washington.

Mercer, N. (2000) ‘Words and Minds – How we use language to think together’, Routledge: Oxford.

O’Donohue, J. (2000) ‘Eternal Echoes: Exploring Our Hunger To Belong’, Bantam Press: Great Britain.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk