Ydds Hafan  -  Ystafell Newyddion  -  Archif Newyddion  -  Datganiadau i'r Wasg 2019

Lansio Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CEPRA) gan Yr Athrofa yn Y Drindod Dewi Sant


20.05.2019

Mae canolfan newydd sy’n anelu at gyfrannu’n ystyrlon i ddatblygu a thrafod polisïau addysg yng Nghymru wedi ei lansio gan Yr Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  

‘Cyfaill beirniadol’ fydd rôl CEPRA - Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg, o dan arweiniad yr arbenigwr addysg a'r sylwebydd uchel ei barch, Gareth Evans, er mwyn cefnogi llunwyr polisi a’r rheini sy’n ymwneud â byd addysg Cymru.  Cynigia lwyfan ar gyfer trafod a dadansoddi ym maes polisïau addysg, heria arferion a thybiaethau presennol, gan fyfyrio ar yr amgylchedd lle gweithreda addysgwyr ar bob lefel o ddydd i ddydd.

Mae CEPRA yn edrych ymlaen at chwarae rôl ganolog yng Nghenhadaeth Genedlaethol Cymru i godi safonau i bawb.

Cyfarchodd Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams y gynulleidfa adeg y lansio yn TramShed, Caerdydd, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan ysgolion partner yn ogystal â thrafodaeth ar ffurf ddrafft Cwricwlwm Cymru  2022 Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth y Gweinidog y sylw: “Mae’n braf gen i fod yn bresennol ar gyfer lansio CEPRA. Rwy’n sylwi mai nod CEPRA yw bod yn gyfaill beirniadol a chefnogi Llywodraeth Cymru a’r gwaith o lunio polisïau.  Wrth i ni gyrraedd cerrig milltir pwysig ar ein taith ddiwygio, bydd eisiau digon o drafod a thafoli, yn ddi-os, ac mae gan brifysgolion ran hanfodol yn hyn o beth. Fel llywodraeth, ac fel sector addysg, bydd dadansoddi a deall yn fanylach bolisi a gafodd ei greu yng Nghymru, sy’n effeithio ac sy’n dylanwadu ar Gymru, o fudd i bawb. Ar sail mwy o werthfawrogiad a dealltwriaeth o’r pethau hyn gallwn ni ehangu ein cyfeillion beirniadol sy'n gallu ac a ddylai ein cwestiynu a’n herio ni. Mae gennym ni ymrwymiad cyffredin i lunio polisïau, a’r rheini’n anelu at godi safonau a chreu disgwyliadau uchel ar gyfer pawb dan sylw ym myd addysg Cymru ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda CEPRA wrth iddi fynd o nerth i nerth.”

Meddai Cyfarwyddwr CEPRA, Gareth Evans: “Rydyn ni’n lansio CEPRA ar adeg allweddol ar y daith i ddiwygio addysg yng Nghymru.  Fe’i sefydlwyd am nifer o resymau, ac yn enwedig yr angen mawr i graffu, dadansoddi a herio polisi addysg yng Nghymru.

 “Ond nid yw CEPRA yn ceisio herio am resymau hunanol neu fasnachol. Rydyn ni’n gwneud hynny i herio cam argraffiadau, rhoi prawf ar feddwl uwch a chyfrannu’n adeiladol i ddylunio, datblygu a gweithredu polisi a fydd yn llunio addysg yng Nghymru am genedlaethau.

“Yn fwy nag erioed erbyn hyn, mae’n bwysig rhoi prawf ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud er mwyn cael gwared ar faglau posibl a chryfhau ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.

 “Dyw hi ddim yn bosibl datblygu na gweithredu polisi addysg ar ei ben ei hun, ac er mwyn newid system gyfan mae angen arfarnu’n onest a chael mewnbwn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae angen ymdrech gydweithredol i ddarparu Dyfodol Llwyddiannus.

 “Mae CEPRA yn cynnig llwyfan ar gyfer adolygu a dadansoddi polisïau addysg; lle diogel ar gyfer sylwadau a beirniadu materion cyfoes y mae addysgwyr yn eu hwynebu ledled Cymru.”

Manteisia CEPRA ar arbenigedd academyddion gyda’r Athrofa yn Y Drindod Dewi Sant ac mae hyn yn esgor ar nifer o wahanol ddeilliannau. Mae’r gwaith ymchwil a’r dadansoddi ar y cwrs ar hyn o bryd yn cynnwys yr hyn sydd i’w gael yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang, gyda chymorth Cyngor Prydeinig Cymru; ymchwil sy’n cefnogi’r Dull Cenedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol, datblygu cylchoedd o ymholi proffesiynol mewn ysgolion; yn ogystal ag astudiaeth ryngwladol, pum gwlad o ddysgu a chynhwysiant cydweithredol”.

Aeth Gareth Evans yn ei flaen: “Mae drafft cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru wedi cael ei gyhoeddi ac yn ddiweddar lansiwyd ymgynghoriad ar ei ddogfennau ategol.

Ni fydd yn syndod i neb, felly, ein bod ni wedi dewis defnyddio digwyddiad lansio heddiw i ganolbwyntio ar y datblygiadau hynny – a rhoi cyfle i rai o’r rheini sy’n arwain y camau gweithredu sôn wrthym am rai o’u canfyddiadau cynnar”.

Dwy o’r ysgolion sydd wedi cofleidio her y cwricwlwm yw Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff ym Mro Morgannwg, un o 16 ‘ysgol arloesi’ a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y cwricwlwm drafft yn ei gyfanrwydd, ac Ysgol Llanhari yn Rhondda Cynon Taf, ysgol pob oed arloesol sy’n darparu ar gyfer plant rhwng 3 a 19 oed. Yn ystod lansio CEPRA, cafodd Gareth Rein o Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, a Rhian Phillips a Meinir Thomas o Ysgol Llanhari gyfle i ddangos sut yr oedd y naill ysgol a’r llall wedi mynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd mewn gwahanol ffyrdd a sut mae eu hagwedd yn crisialu i’r dim egwyddor cyfrifolaeth sydd wrth wraidd ein cwricwlwm newydd.

Meddai Gareth eto: “Rhaid sicrhau bod pawb yn cael cyfle i roi mewnbwn ar ein cwricwlwm cenedlaethol newydd – ac mae’n hollbwysig bod pawb sy’n cyfrannu i’r drafodaeth yn cael llais.

 “O ran faint o le sydd i amrywio ar gyfer cyd-destunau penodol, rwy’n credu bod dadl gref dros gynnwys yn ein cwricwlwm restr o elfennau anhepgor; y dylai pob plentyn eu cael, ni waeth ble y bo’n astudio yng Nghymru. Gallai’r rhain fod yn themâu bras, neu eitemau a gasglwyd ynghyd yn glystyrau o dan y Meysydd Dysgu a Phrofiad priodol.  Wrth reswm, bydd hi’n amhosibl sicrhau cydraddoldeb dysgu ac addysgu byth a bydd gwahaniaethau o hyd oddi mewn i ysgolion ac ar draws ysgolion, ond, yn sicr, mae rhywfaint o le ar gyfer ystyried pa mor wag y bydd y cynfas y caiff athrawon i beintio arno.

Yn y pen draw, wrth i bob un ohonom bori trwy’r dogfennau cwricwlwm drafft, mae’n sicr y bydd rhai pethau at ein dant, rhai na fydd, a phethau, fwy na thebyg, y byddem ni wedi eu gwneud yn wahanol.

Ond rhaid i bawb ym myd addysg barchu’r amser a’r egni a dreuliwyd gan lu o Ysgolion Arloesi i ddod â ni i’r fan hon heddiw.

Yn wir, nid hwn yw’r amser i ddiystyru dehongliad neb o ble rydyn ni arni, ond yn hytrach mae’n gyfle i loywi, ac os bydd angen, ailffurfio’r fframwaith llac sydd wedi ei sefydlu.

 “Nid gwiw i ni laesu dwylo a cholli’r cyfle i fwydo i mewn i Ddyfodol Llwyddiannus. Fel addysgwyr, mae rheidrwydd mawr arnom ni i helpu i ofalu bod hyn yn cael ei wneud yn iawn.”

Nodyn i'r Golygydd

Symud y drafodaeth ar addysg yng Nghymru

Sefydlwyd y Ganolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CEPRA) gan Yr Athrofa ym mis Awst 2018 i gyfrannu’n ystyrlon i ddatblygu a thrafod polisi addysg yng Nghymru.

O dan arweiniad yr arbenigwr addysg a'r sylwebydd uchel ei barch, Gareth Evans, ‘cyfaill beirniadol’ fydd rôl y Ganolfan a’i diben yw cefnogi llunwyr polisi phawb sy’n ymwneud â byd addysg Cymru.

Cynigia’r Ganolfan lwyfan ar gyfer trafod a dadansoddi ym maes polisïau addysg. Heria arferion a thybiaethau presennol, gan fyfyrio ar yr amgylchedd lle gall addysgwyr ar bob lefel weithredu o ddydd i ddydd.

Gan fanteisio ar arbenigedd gartref a thramor, gweithia’r Ganolfan gyda phartneriaid ar draws y sbectrwm addysgol gan addo syniadau newydd ar themâu polisi o ddiwygio’r cwricwlwm i addysgu mewn prifysgolion.

Mae ein sylwebaeth ystyrlon ac adeiladol yn pwyso ar waith ymchwil ac ymgynghori a gomisiynwyd ar amrywiaeth o bynciau, a gyda’i gilydd, mae gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth y Ganolfan yn ychwanegu dyfnder newydd at y drafodaeth ynghylch addysg yng Nghymru.

‘Mae pobl yn dweud yn aml ei bod hi’n adeg gyffrous i fod yn rhan o addysg Cymru – ac mae’r doreth o eitemau ym mewnflwch Ysgrifennydd y Cabinet yn brawf bod newidiadau pwysig ar droed.

 ‘Dyw hi ddim yn bosibl datblygu na gweithredu polisi addysg ar ei ben ei hun, ac er mwyn newid system gyfan mae angen arfarnu’n onest a chael mewnbwn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.

 ‘Mae sylwadau a beirniadaeth adeiladau ar faterion cyfoes yn iach ac rydyn ni’n falch o’r cyfle i gyfrannu’n gadarnhaol i esblygiad system addysg Cymru.

 ‘Yn fwy nag erioed erbyn hyn, mae’n bwysig rhoi prawf ar yr hyn rydyn ni yn ei wneud er mwyn cael gwared ar faglau posibl a chryfhau ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae angen ymdrech gydweithredol i ddarparu Dyfodol Llwyddiannus.

 ‘Mae Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg yn edrych ymlaen at chwarae rôl ganolog yng Nghenhadaeth Genedlaethol Cymru i godi safonau i bawb.

Mae CEPRA (y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg) yn ymwneud â nifer o brosiectau ar hyn o bryd, gan gynnwys:

 

  • Astudiaeth ryngwladol, gan y brifysgol gyfan, ar ddysgu cydweithredol a chynhwysiant 
  • Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang yng Nghymru
  • Ymchwil yn cefnogi’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
  • Atebolrwydd mewn addysg
  • Datblygu cylchoedd ymholi mewn ysgolio 

    Daw cyfraniadau i CEPRA oddi wrth staff ar draws Yr Athrofa gan arwain at nifer o wahanol ganlyniadau, ynghylch amrywiaeth o ddisgyblaethau.

    Gareth Evans, Cyfarwyddwr CEPRA

    Ein Cyfarwyddwr

    Yn gyn-newyddiadurwr, roedd Gareth yn Olygydd Addysg yn y Western Mail am bron 10 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn, ef oedd yr unig arbenigwr i weithio gyda phedwar gwahanol Weinidog Addysg.

    Daw cyfraniadau i CEPRA oddi wrth staff ar draws Yr Athrofa gan arwain at nifer o wahanol ganlyniadau, ynghylch amrywiaeth o ddisgyblaethau.

    Yn ei rôl newydd, mae’n rhoi ar waith bopeth a ddysgodd dros y cyfnod hwnnw – yn ogystal â dadansoddi, craffu a chyfrannu i bolisi addysg yng Nghymru, bellach mae’n gweithio gydag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i’w gweithredu’n llwyddiannus.

    Mae Gareth yn sylwebydd rheolaidd yn y cyfryngau print a darlledu cenedlaethol, cyhoeddwyd ei lyfr diweddar A Class Apart: Learning the Lessons of Education in Post-Devolution Wales yn 2015 gan Welsh Academic Press. Cyfranna i nifer o gynadleddau addysg ar amrywiaeth eang o bynciau, ac mae ei weithgarwch ymchwil ar hyn o bryd yn ymwneud â dysgu proffesiynol y gweithlu addysg ac atebolrwydd mewn ysgolion.

    I wybod rhagor am CEPRA ewch i: http://cepra.wales/en/

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk