Academydd o’r Drindod Dewi Sant yn croesawu Bil y Senedd i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau
06.10.2020
Mae academydd o’r Drindod Dewi Sant, Dr Rebekah Humphreys, wedi croesawu’r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) newydd sy’n ceisio gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Yr Athro Ron Beadle, Michael Radford a Dr Rebekah Humphreys yn cyflwyno tystiolaeth yn ystod Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn y Senedd ym mis Medi 2019
Cyflwynwyd y Bil ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn dilyn ymgynghoriad a welodd filoedd o aelodau’r cyhoedd yn lleisio’u barn. Cafwyd dros 6,500 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil drafft, gyda 97% o’r ymatebwyr o blaid cyflwyno gwaharddiad.
Yn rhan o’r broses ymgynghori, gwahoddwyd Dr Humphreys i gyflwyno tystiolaeth mewn sesiwn tystiolaeth lafar ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Bydd y gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru yn dod i rym ar 1 Rhagfyr eleni. Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Dr Humphreys, Darlithydd mewn Athroniaeth ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed:
“Roeddwn wrth fy modd i gael y cyfle i fynychu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gyflwyno tystiolaeth ar fater sy’n agos iawn at fy nghalon. Rwy wedi bod yn ymgyrchu ac yn lobïo am Ddeddf o’r fath ers 30 mlynedd ac yn cyhoeddi papurau ar foeseg anifeiliaid am y 12 mlynedd diwethaf. Mae cyflwyno’r ddeddf hon yn ddigwyddiad arloesol ac yn ddatganiad pwysig iawn.
Mae hefyd yn dangos yr effaith sydd wedi treiddio drwodd o ymchwil Athroniaeth. Nid oes unrhyw gyfiawnhad moesol dros ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac mae’r bil hwn yn cydnabod yr anifeiliaid hyn, nid yn unig fel unigolion o werth ynddynt eu hunain nad oes modd iddynt arfer eu tueddiadau greddfol yn amgylchedd y syrcas, ond fel creaduriaid y gellir tarfu ar eu hurddas.
Ni fydd yr anifeiliaid hyn bellach yn cael eu hystyried fel eiddo y gellir ei ‘arddangos’ os oes gan rywun drwydded i wneud hynny. Yn hytrach bydd y ddeddfwriaeth drwyddedu’n cael ei disodli gan waharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.”
I gael gwybodaeth am y cyrsiau Athroniaeth ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/ba-philosophy/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076