Ail-ddychmygu cwricwlwm y brifysgol


14.09.2020

Ymatebodd Prifysgolion ar draws y DU yn gyflym i’r pandemig Coronafeirws drwy symud eu rhaglenni ar-lein a pharhau i gyflwyno a chefnogi dysgu ac addysgu o bell.

Like most other universities, the transformation at UWTSD happened almost overnight with staff and students pulling together to adapt the way they worked to an online environment.  Their sterling efforts ensured that students could graduate or progress to the next level of their studies.

Fel y mwyafrif o brifysgolion, digwyddodd y trawsnewid yn Y Drindod Dewi Sant fwy neu lai dros nos gyda staff a myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd i addasu eu ffordd o weithio ar gyfer amgylchedd ar-lein. Sicrhaodd eu hymdrechion glew fod myfyrwyr yn gallu graddio neu symud ymlaen i lefel nesaf eu hastudiaethau.

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant roedd y daith trawsnewid digidol eisoes wedi dechrau. Roedd y Brifysgol wedi nodi bod angen sicrhau cyfle i’r myfyrwyr gaffael set benodol o sgiliau a galluoedd ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Cyflymwyd yr adolygiad hwn gydag effaith Coronafeirws, ond mae’r profiad wedi dod ag academyddion at ei gilydd i gynllunio portffolio o fodiwlau i’w cyflwyno ar draws y rhan fwyaf o raglenni’r Brifysgol. Mae ffocws y modiwlau cyffredin hyn ar ddatblygu galluoedd proffesiynol ond hefyd ar nodweddion personol fydd yn helpu myfyrwyr mewn byd ar ôl COVID-19.

Fel yr eglura Barry Liles, OBE, Pro-Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes: “Fel Prifysgol rydym ni’n ymrwymo i ddarparu’r sylfaen gorau bosibl i’n holl fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

 “Mae pandemig COVID-19 wedi dylanwadu arnom i adolygu sut rydym ni’n paratoi ein graddedigion ar gyfer byd gwaith a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd y pandemig yn cael effaith ddifrifol ar gyflogaeth am flynyddoedd lawer.

Rydym ni hefyd wedi ystyried tueddiadau cyffredinol mewn cyflogaeth. Fe wyddom y bydd graddedigion, yn y dyfodol, yn cael 12 gyrfa neu fwy a bod technolegau newydd sy’n ymddangos yn mynd i effeithio ar ddyfodol y gweithle. Er mwyn gwella cynhyrchedd bydd rhaid i gyflogwyr ddefnyddio awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. Mae angen i’n graddedigion allu cyfrannu a chefnogi’r datblygiadau hyn. Mae angen symudiad radical yn yr hyn rydym ni’n ei gyflwyno i ymdrin â’r sefyllfa hon.”

Cred y Brifysgol mai rhan o’i dyletswydd i’w graddedigion yw’r angen i ddatblygu eu gwydnwch er mwyn iddyn nhw ddatblygu’n ddysgwyr gydol oes hyblyg, sy’n gallu addasu ac sy’n llythrennog yn ddigidol.

Bu’r Brifysgol yn gweithio gydag amrywiol gyflogwyr i ganfod y galluoedd craidd sydd eu hangen ar weithwyr newydd, gan ddadansoddi pa sgiliau sydd eu hangen ar entrepreneuriaid a gwrando ar fyfyrwyr ynghylch yr hyn maen nhw am ei gyflawni yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.

Ychwanegodd Barry Liles: “Rydym ni’n newid ein cwricwlwm i adlewyrchu anghenion cyflogwyr a’n graddedigion. Yn y rhan fwyaf o’n rhaglenni, rydym ni’n gwreiddio datblygu nodweddion sy’n allweddol i raddedigion, nodweddion fydd yn sicrhau’r dechrau gorau bosibl i’n graddedigion yn eu gyrfaoedd.

“Byddwn yn datblygu myfyrwyr cymwys drwy dair Nodwedd Graddedigion sef Cyflogadwyedd, Caffael Sgiliau Digidol a dod yn Ddysgwyr Gydol Oes.

Dywedodd Dr Christine Jones, Pennaeth Dros Dro yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau a Chadeirydd y Bwrdd Datblygu Rhaglen: “Mae datblygu set newydd o fodiwlau cyffredin, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, yn cynnig profiad prifysgol i’n myfyrwyr sy’n gwbl drawsnewidiol, ac sy’n eu paratoi ar gyfer taith o ddysgu gydol oes ac yn eu harfogi ar gyfer y cyfleoedd cyflogaeth gorau bosibl ym mha bynnag ffordd y bydd hyn yn digwydd. Bydd y modiwlau cyffredin yn caniatáu ar gyfer datblygu galluoedd sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd a chânt eu strwythuro drwy fframwaith llythrennedd ddigidol cyffrous. Mae’r tair Nodwedd Graddedigion yn seiliedig ar 33 o alluoedd sy’n berthnasol i bob rhaglen astudio.”

Ceir 40 credyd modiwlau cyffredin allan o 120 credyd ar bob un o’r tair lefel mewn rhaglen israddedig lawn amser i alluogi myfyrwyr i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau proffesiynol a phersonol yn eu disgyblaethau pwnc ac ar draws disgyblaethau.

Yn ôl y darlithydd Rheolaeth Julie Hayward sy’n un o’r awduron arweiniol: “Uchelgais y modiwlau cyffredin yw creu ymagwedd ryngddisgyblaethol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ehangu eu persbectif a deall pwysigrwydd meddwl amrywiol wrth greu syniadau a datrys problemau. Bydd un o’r modiwlau, er enghraifft, yn cyflwyno’r myfyrwyr i gysyniad ‘Problemau Drwg’ fel anghydraddoldeb, gordewdra, tlodi a chynaladwyedd a sut, drwy brosiect cymwysedig, y gallan nhw gynllunio datrysiadau posibl, gan weithio ar draws meysydd disgyblaeth. Mae cael y myfyrwyr i ddeall pa mor bwysig yw gweithio ar draws disgyblaethau’n ddeilliant dysgu allweddol i’r modiwlau, sydd hefyd yn cynnwys gwaith tîm effeithiol, cynllunio prosiectau a sut i sicrhau adnoddau ar gyfer prosiectau.”

Ychwanegodd Julie: “Deilliant dysgu allweddol arall yw datblygu creadigrwydd gan fod angen i bawb allu meddwl yn greadigol. Yr unigolyn sy’n gallu dod â meddwl a syniadau newydd yw’r un a fydd yn cynnal cyflogaeth yn y dyfodol. Mae ymchwil yn dweud wrthym hefyd bod creadigrwydd yn tueddu i fod yn gryfach mewn timau rhyngddisgyblaethol neu lle ceir gwell dealltwriaeth o safbwyntiau gwahanol.”

Drwy ddefnyddio dull hybrid o gyflwyno’r modiwlau gyda chyfuniad o sesiynau ar-lein annibynnol a sesiynau ar-lein wyneb yn wyneb gyda darlithydd, mae modd teilwra’r dysgu i anghenion myfyrwyr unigol, a gallan nhw weithio drwy’r deunydd yn eu pwysau. Bydd myfyrwyr a allai fod wedi cael anhawster yn y dosbarth, ac oedd yn amharod i ofyn am gael ail-wneud rhywbeth, nawr yn gallu mynd yn ôl ac edrych ar y gwaith mor aml ag sydd ei angen, tra bo eraill yn gallu symud ymlaen ar gyflymder sy’n gweddu iddyn nhw. Buom ni hefyd yn ystyried amgylchiadau gwahanol fyfyrwyr wrth ddechrau, fel rhai sy’n dychwelyd i addysg a sut y gallem ni wneud rhywfaint o’r dysgu’n bersonol i fodloni anghenion gwahanol. Mae hyn yn llawer mwy ymarferol mewn dysgu ar-lein na mewn rhai sefyllfaoedd yn y dosbarth gan fod myfyrwyr yn gallu dewis gweithgareddau perthnasol a hepgor elfennau lle maen nhw eisoes yn fedrus.”

Dywedodd y darlithydd Astudiaethau Addysg Caroline Lewis, awdur arweiniol modiwl cyffredin y flwyddyn olaf: “Mae’r Modiwl Prosiect Annibynnol newydd yn gyfle gwirioneddol i fyfyrwyr weithio ar y cyd gyda staff a myfyrwyr eraill ar draws y brifysgol i greu un darn mawr olaf o waith sy’n dangos y sgiliau maen nhw wedi’u datblygu drwy eu hastudiaethau israddedig. Mae’n gosod datrys problemau, datblygu personol, adfyfyrio beirniadol a blaengynllunio yng nghanol y profiad gan adael i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer bod yn raddedigion gwydn yn yr 21ain ganrif.  Rydym ni’n llawn cyffro am y modiwl hwn ac yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn rhannu’r brwdfrydedd wrth i ni eu paratoi ar gyfer camau nesaf eu gyrfa, ble bynnag y bydd hynny”

Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu myfyrwyr yn ôl ym mis Medi ac eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn cynnig dull cyflwyno cyfunol sy’n golygu addysgu ar y campws gyda chymaint o gyswllt wyneb yn wyneb ag sy’n briodol, ynghyd â phrofiad ar-lein ansawdd uchel.

Dr Maggie Inman, Deon Cynorthwyol Rheoli ac Iechyd sydd â’r gair olaf: “Rydym ni’n ymrwymo i sicrhau y bydd gan ein myfyrwyr sgiliau, nodweddion a gwybodaeth i lwyddo mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol gystadleuol. Drwy’r datblygiadau newydd hyn i’r cwricwlwm, rydym ni’n credu’n gryf y bydd hyn yn cynorthwyo i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer dyfodol llwyddiannus, beth bynnag yw eu dyheadau.” 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk