Brwdfrydedd un o raddedigion y Drindod Dewi Sant am feddwl creadigol arloesol yn arwain at swydd dylunydd yn asiantaeth farchnata Apple


03.11.2020

“Roedd creadigrwydd yn ei ystyr academaidd yn rhywbeth roedd fy rhieni bob amser yn ei annog yn fy mlynyddoedd cynharaf - mwy o ddarllen, ysgrifennu ac adeiladu,” meddai Patrick Edem Glavee, a anwyd yn Ghana yn 2000 ac a fagwyd yn Iwerddon.  

With his passion nurtured at home and enhanced at school, Patrick decided to expand that creativity further by enrolling at University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) at just 17 and three years later, just weeks after graduating from his Graphic Design degree course at the University’s Swansea College of Art, he’s moved to London to start a career as a junior designer with Media Arts Lab, App

Gyda’i frwdfrydedd yn cael ei feithrin gartref a’i gyfoethogi yn yr ysgol, penderfynodd Patrick ehangu’r creadigrwydd hwnnw ymhellach drwy gofrestru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yntau ond yn 17 oed. A thair blynedd yn ddiweddarach, wythnosau’n unig ar ôl graddio o’i gwrs gradd Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Brifysgol, mae wedi symud i Lundain i ddechrau gyrfa fel dylunydd iau gyda Media Arts Lab, asiantaeth farchnata Apple.

Meddai: “Ganwyd fy mrwdfrydedd gartref.  Roedd gen i’r ddawn o dynnu teganau’n ddarnau, ymchwilio a thorri eu cylchedau mewn ymgais ofer i adeiladu tegan newydd.  Oherwydd fy nghreadigrwydd dinistriol ynghyd â fy nghariad at fanwl gywirdeb, a feithrinwyd drwy Lego, ces i f’arwain at astudio pwnc oedd yn cyfuno dylunio cynnyrch â phensaernïaeth yn yr ysgol uwchradd.  

“Roeddwn i’n hyderus yn y ffaith fy mod i eisiau creu, nid un peth yn unig, ond unrhyw beth a phopeth.  I dorri’r stori’n fyr, cefais fy nghyflwyno i ddylunio graffig gan ei weld ar unwaith fel y pwnc cyffredinol sy’n cwmpasu pob sail greadigol.  Ymlaen wedyn i’r Drindod Dewi Sant.  Des i Abertawe am y traeth ac arhosais am y cwrs.

“A minnau wedi datblygu ymdeimlad ‘academaidd’ o ddylunio, roedd angen i mi ehangu fy nghreadigrwydd mewn ystyr ehangach.  Roedd penderfynu mynd i’r brifysgol yn 17 oed yn benderfyniad bywyd enfawr, a’r gefnogaeth o’r brifysgol yw’r hyn a’m helpodd i drwyddi.  Roedd symud allan mor ifanc a dod yn hunan-gynhaliol wedi f’aeddfedu i’n gyflym.  Ehangodd y cwrs fy meddwl creadigol gan fy nghyflwyno i ffurfiau celf chwedlonol y gorffennol, a chaniatáu rhyddid creadigol i archwilio a fy natblygu fy hun fel artist.  

“Oherwydd y cyfleusterau oedd yn hawdd eu defnyddio, dosbarthiadau clos â ffocws cymdeithasol a fy rôl fel cynrychiolydd dosbarth, datblygais i sgiliau mewn gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau wrth i mi gario draw graffter busnes fy nheulu.  Mewn dim o dro roeddwn i’n chwilio am y cyfle nesaf i brofi fy sgiliau creadigol. Fe’m harweiniwyd gan y dyhead hwn at greu dillad, rhedeg digwyddiadau clybiau, gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a Chyngor Abertawe, yn rhoi gweithdai a lansio busnesau.  

“Wedyn daeth y cyfyngiadau symud ac fe’m gorfodwyd gan Covid-19 i ailfeddwl fy methodoleg dylunio a chynlluniau i’r dyfodol.  Gan symud tuag at ddyddiadau terfynol, ac wedi alaru ar natur flinedig fy mhortffolio, adeiladais ef o’r newydd gan ddefnyddio arddull ddylunio roeddwn i wedi bod yn ei meithrin yn dechnegol yn y cefndir, wedi’i seilio’n syml ar yr ymadrodd “haniaethol ond ymarferol.”

“Ail-daniais fy awch am fanwl gywirdeb gan weithio’n galed i greu dyluniadau effeithiol.  Ar ôl graddio, teithiais i Lundain ond gan ganfod fy mod i’n ei chael hi’n anodd sicrhau swydd, gyda’r holl brif asiantaethau’n cau eu drysau recriwtio tan fis Hydref, oherwydd pryderon ynghylch y cyfyngiadau symud.  Ond wedi nifer o gyfarfodydd digidol, rwy’n hapus i gyhoeddi fy mod wedi cael cynnig swydd dylunydd iau gydag Apple.  Yn y diwedd symudais i Lundain gan ddechrau gweithio ym mis Medi.  Rwy’n gallu fy ngweld fy hun yn datblygu’n fawr fel dylunydd yma.  Rwy’n anfon fy niolchiadau i’r adran graffeg yn y Drindod Dewi Sant a oedd bob amser yn caniatáu rhyddid i archwilio.  I Donna, Gavin, Harry a Phil, a fyddai’n fy ngoddef i’n ailwampio prosiectau ar y funud olaf yn gyson ac a fyddai’n meithrin fy natblygiad creadigol.  Ac eto, i Donna, am fod yn warcheidwad i mi tra oeddwn yn 17 ar hyd fy mlwyddyn gyntaf, ac yn ffrind.”

Dywedodd Donna Williams, Rheolwr Rhaglen Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant nad oed llwyddiant Patrick wedi bod yn syndod.

Meddai “Mae Patrick wedi bod yn fyfyriwr rhagorol ac o’r funud gyntaf, pan gwrddon ni i gyd yn ei gyfweliad, (a oedd yn cynnwys sgwrs dda â’i Dad) roedden ni’n gwybod bod Patrick yn mynd i fod yn fyfyriwr gweithgar, creadigol a brwdfrydig.  “Rwy’n siarad ar ran yr holl dîm addysgu Graffeg wrth ddweud cymaint o bleser rydym ni’n ei gael pan fydd ein graddedigion yn sicrhau gyrfaoedd maent yn wir yn dymuno eu cael.  Mae hyn yn cymryd ymrwymiad a phenderfyniad personol, ac rydym ni wrth ein boddau dros Patrick.  Mewn cyfnod mor heriol, roedd yn eiliad neis darllen stori Patrick.  Rwy’n meddwl bod mynegiant o ddiolchgarwch sydd mor onest, caredig a dilys yn tystio’n bwerus i Patrick, ac rydym ni’n wir yn dymuno’n dda iddo yn ei yrfa yn y dyfodol.” 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk