Cadw cymunedau’n ddiogel yn brif flaenoriaeth i’r Drindod Dewi Sant


14.09.2020

Wrth inni groesawu myfyrwyr ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, ein blaenoriaeth yw iechyd a lles ein staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach. 

montage images of UWTSD Swansea, Lampeter and Carmarthen

Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru, a phartneriaid eraill, dyma rhai o’r camau rydyn ni eu cymryd:

  • Cwtogi ar y nifer o bobl sy’n mynychu ei campysau ar yr un pryd.
  • Cyflwyno dull cyflenwi cyfunol sy’n cyfuno dysgu ac addysgu ar-lein ac ar y campws.
  • Croesawu myfyrwyr yn ôl i’r campws cam wrth gam a gosod y rheini sy’n byw ar y campws mewn aelwydydd.
  • Trefnu amserlenni i hwyluso addysgu mewn grwpiau bach a chyfyngu ar y nifer o bobl yn ein mannau addysgu.
  • Darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar-lein.
  • Cyflwyno modiwl ar-lein Dychwelyd i’r Campws gorfodol i’r holl staff a myfyrwyr ei gwblhau cyn dod i’r campws er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion iechyd a diogelwch coronafeirws y Brifysgol.

Rydyn ni wedi aildrefnu ein campysau i sicrhau bod modd cynnal 2m o bellhau cymdeithasol a darparu systemau un ffordd drwy ein holl adeiladau. Rydym ni wedi gosod cyfleusterau hylendid a dwysau’r trefniadau glanhau sy’n cynnwys anweddu mannau mawr gyda diheintydd. Mae ein ffreuturau yn caniatáu pellhau cymdeithasol ac yn defnyddio gwasanaethau clicio a chasglu i leihau ciwio.

Mae’r Brifysgol yn rhoi gorchuddion wyneb i staff a myfyrwyr ac mae'n ei gwneud yn orfodol i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr ddefnyddio gorchuddion wynebau mewn mannau cyhoeddus dan do ac mewn mannau awyr agored lle mae cadw pellhau cymdeithasol yn anodd.

Yn ogystal, rydym ni’n gosod system gofrestru ddigyffwrdd i gynorthwyo ymdrechion olrhain cysylltiadau’r llywodraeth ac mae protocolau ar waith pe bai unrhyw un yn datblygu symptomau.

Bydd y Brifysgol yn croesawu nifer fach iawn o fyfyrwyr rhyngwladol dros yr wythnosau nesaf.  Bydd gweithredwyr teithio a benodir gan Brifysgol yn cwrdd â'r myfyrwyr yn y maes awyr a byddant yn mynd gyda hwy i'w llety lle bydd yn ofynnol i'r rhai sy'n cyrraedd o wledydd neu diriogaethau nad ydynt wedi'u heithrio o fewn Rheoliadau Teithio Llywodraeth Cymru yn hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Mae rhaglen groeso a sefydlu myfyrwyr y Brifysgol a digwyddiadau cymdeithasol a rhwydweithio'r Undeb Myfyrwyr yn cael eu darparu ar-lein ar y cyfan.

Dywedodd llywydd grŵp Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, James Mills: “Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r Brifysgol i sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr a’r gymuned leol. Credwn fod y mesurau a gymerwyd gan y Brifysgol yn gadarn ac yn angenrheidiol i amddiffyn ein cymunedau ac er mwyn ein cynorthwyo i ddychwelyd i normalrwydd pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

“Byddwn yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol sydd ar-lein ac mewn personol, wrth ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol perthnasol. Gobeithiwn, trwy ddarparu'r digwyddiadau hyn, er eu bod yn gyfyngedig, na fydd myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi colli allan ar agwedd bwysig ar eu bywyd prifysgol.

"Mae iechyd a lles ein cymuned o'r pwys mwyaf yn ogystal â'r angen i ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel i'n myfyrwyr" meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Llambed a Chaerfyrddin.

"Mae sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â chyfarwyddebau Llywodraeth Cymru a chanllawiau iechyd y cyhoedd i gynnal ymbellhau cymdeithasol a hylendid dwylo, yn allweddol er mwyn osgoi lledaeniad coronafeirws.  Ry ni’n pwysleisio hyn yn ein cyfathrebu â myfyrwyr ac rydym wedi adolygu ein Cod Ymddygiad Myfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr yn deall eu cyfrifoldebau”.

Dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd y Brifysgol: “Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu a'r berthynas agos o ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd rydyn ni wedi'u datblygu dros nifer o flynyddoedd. I'r perwyl hwnnw, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu sicrwydd i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn lleoliadau ein campysau o'r mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith i amddiffyn rhag lledaeniad y Coronafeirws. ”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Tel: 01792 483695

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk