Camu ‘Mlaen yn gynt gyda’r Drindod Dewi Sant


25.09.2020

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfle i bobl ledled De Cymru ennill cymhwyster Tystysgrif Addysg Uwch mewn 12 mis - neu lai mewn rhai achosion – drwy ddarparu ystod eang o gyrsiau carlam newydd.

Camu Mlaen yn Gynt

Mae Tystysgrif Addysg Uwch (Tystysgrif AU) yn gymhwyster Lefel 4 ac mae'n cyfateb i flwyddyn gyntaf rhaglen gradd anrhydedd amser llawn. I gyflawni'r cymhwyster, rhaid i fyfyrwyr ennill o leiaf 120 credyd. Gall cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain at ail flwyddyn Gradd Sylfaen briodol neu raglen gradd anrhydedd.

Mae'r cyrsiau wedi'u cynllunio i helpu myfyrwyr i gynyddu’u hyder; i feithrin sgiliau newydd ac i ddatblygu’u gwybodaeth.

Gan ddechrau ym mis Hydref, mae Tystysgrifau Addysg Uwch ar gael ym meysydd Eiriolaeth, Cwnsela ac Iechyd Meddwl; Busnes a Rheoli; Celf a Dylunio; Celfyddydau Perfformio; Cyfrifiadureg, Peirianneg ac Adeiladu; Iechyd a Ffordd o Fyw; Y Gyfraith; Addysgu a Thwristiaeth a Lletygarwch.

Mae’r cymwysterau dilysedig Prifysgol hyn yn amrywio rhwng 7 mis a blwyddyn ac fe'u cyflwynir trwy gyfuniad o ddarparu ar-lein ac ar y campws.

Wedi'u cynllunio i alluogi myfyrwyr i gydbwyso ymrwymiadau teuluol a gwaith ochr yn ochr â'u hastudiaethau, mae llawer o'r cyrsiau'n cael eu cyflwyno mewn sawl lleoliad ledled De Cymru.

Mae cyllid ar gael hefyd trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ogystal â bwrsariaethau Prifysgol ar gael gan gynnwys cymorth gydag offer TG a chysylltedd.

Graddiodd Kelly Lewis-Bennett gyda Thystysgrif Addysg Uwch (Tystysgrif AU) mewn Rheoli Mentrau Cymdeithasol yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yr haf hwn.

Ar ôl defnyddio’i hastudiaethau er budd ei gwaith gyda menter gymdeithasol, mae Kelly bellach wedi dychwelyd i'r Brifysgol ym mis Medi i gychwyn ar gwrs arall. Mae hwn yn gam mawr i fyfyriwr nad oedd ganddi lawer o hyder o'r blaen yn ei gallu academaidd.

"Penderfynais astudio Menter Gymdeithasol a Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn cael gwybodaeth i'm helpu yn fy rôl gyda'r fenter gymdeithasol dwi’n rhan ohoni," meddai. "Roedd yn risg enfawr i mi gan nad oeddwn i’n mwynhau'r ysgol pan oeddwn i’n iau ac yn gadael heb unrhyw gymwysterau, felly doeddwn i ddim yn siŵr y byddwn i’n gallu rheoli neu ymdopi yn academaidd yn y brifysgol.

“Wedi dweud hynny,  hwn oedd un o'r penderfyniadau gorau dwi wedi'i wneud, a doeddwn i ddim yn sylweddoli tan hynny faint dwi'n caru dysgu. Mae astudio yn Ysgol Busnes Caerfyrddin wedi gweddnewid fy ffordd o feddwl; mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi ac mae’r clod am hynny yn mynd i’r gefnogaeth dwi wedi'i chael gan fy narlithwyr a'm cyd-fyfyrwyr drwy gydol y flwyddyn."

Os hoffech ddysgu mwy am y cyrsiau Tystysgrif Addysg Uwch a gynigir yn Y Drindod Dewi Sant, ewch i'n gwefan

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@pcydds.ac.uk