Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS yn lansio partneriaeth i ddarparu hyfforddiant mewn Academi Sgaffaldio £1.5m newydd


14.10.2020

Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS (CWIC) yn cydweithio gydag Alpha Safety o Dde Cymru i ddarparu hyfforddiant yn ei Academi Sgaffaldio £1.5m newydd yn Abertawe a Chaerdydd.

UWTSD’s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) is collaborating with South Wales-based Alpha Safety to deliver training at its new £1.5m Scaffolding Academy in Swansea and Cardiff.

Yn cael ei arwain gan CWIC mewn partneriaeth ag Alpha Training a Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru (CITB), bydd yr academi newydd yn agor yn nes ymlaen y mis yma.  

Bydd y bartneriaeth ag Alpha Safety yn galluogi ystod o gyrsiau i gael eu darparu’n lleol er mwyn cwrdd ag anghenion y diwydiant adeiladu. Bu Alpha Safety yn un o’r prif hyfforddwyr adeiladwaith ar draws Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd myfyrwyr a leolir yng Nghymru sy’n dymuno cael hyfforddiant sgaffaldio helaeth yn gorfod teithio i Loegr neu’r tu hwnt i ennill yr ystod lawn o sgiliau.

Mae’r Academi Sgaffaldio yn gyfleuster pwrpasol a leolir yn Ffordd Fabian ym Mae Abertawe.  Ynghyd â safle llai yng Nghaerdydd bydd ein partneriaeth yn gwasanaethu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru gyda siop un stop ar gyfer hyfforddiant mynediad a rigio.

Bydd y grŵp cyntaf o ddysgwyr yr Academi yn cychwyn ar Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Mynediad i Weithrediadau a Rigio (Adeiladwaith) – Sgaffaldio.  Bu’r diwydiant Cymreig yn aros yn hir am gwrs prentisiaeth yng Nghymru ac mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n dymuno ennill cymhwyster mewn sgaffaldio a gydnabyddir gan y diwydiant, ynghyd ag ennill profiad galwedigaethol gwerthfawr wrth ochr eu hastudiaethau yn Academi CWIC.  

Meddai Gareth Evans, Rheolwr Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS): “Mae gweithgareddau CWIC eisoes wedi cefnogi cannoedd o gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu ar draws Cymru.  Mae ein partneriaeth unigryw yn darparu hyfforddiant o safon fyd-eang a rhaglenni pwrpasol i’r sector hwn sy’n arbennig o bwysig i economi Cymru.  Mae’r Academi Sgaffaldio newydd yn darparu mynediad i gyfleusterau ac arbenigedd arweiniol ac mae bellach yn rhoi hyder i gyflogwyr Cymreig ddatblygu eu gweithwyr a recriwtio dechreuwyr newydd i’r diwydiant.”

Ychwanegodd: “Mae’n bleser gan CWIC weithio gyda’r tîm yn Alpha Safety a bydd datblygiad y cyfleuster newydd hwn yn effeithio’n sylweddol ar uwchsgilio gweithwyr Cymreig o fewn y sector sgaffaldio.

Mae’r adeilad wedi cael adnewyddiadau gwerth tua £1.5miliwn, diolch i TRJ Construction a gweithio’n agos ag Alpha Safety, er mwyn creu Neuadd Fynediad 2,000 m2 sy’n cynnwys dosbarthiadau a chyfleusterau TG i ddarparu’r ystod lawn o hyfforddiant gweithio ar uchder i fyfyrwyr newydd, prentisiaid, pobl sy’n uwchsgilio, goruchwylwyr ac arolygwyr. Ceir naw parth hyfforddiant a phedwar dosbarth pwrpasol, un gyda chyfleusterau TG.

Interior of a hangar in the new Scaffolding Academy building.

Meddai Paul Jones, Rheolwr-Gyfarwyddwr Alpha Safety: “Mae’n bleser ac yn fraint i fod wedi cael ein dewis gan PCYDDS a CWIC i fod yn bartneriaid iddynt ar y fenter hon, ac mae’n deyrnged i dîm Alpha y cydnabyddir ein bod yn barod ar gyfer yr her o ddatblygu sgiliau pobl sy’n gweithio yn y diwydiant pwysig hwn.”

Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn cwrdd â gofynion y diwydiant sgaffaldio yng Nghymru, bu CWIC mewn trafodaethau ag aelodau o’r Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC), gweithwyr a’r CITB.  

Dwedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol CITB Cymru: “Bydd yr Academi Sgaffaldio ddiweddaraf yn dechrau hyfforddi miloedd o ddysgwyr yn eu gwlad eu hun yn fuan. Edrychwn ymlaen at weithio ag Alpha Safety, sydd â statws Sefydliad Hyfforddiant Cydnabyddedig CITB, ac sy’n dod â phrofiad ac arbenigedd sylweddol i’r cyfleusterau hyn y mae gwir eu hangen.  

“Mae CWIC yn ailddatgan ei ymrwymiad i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn cydweithrediad â chyflogwyr, darparwyr addysg a Llywodraeth Cymru.

 “Mae CWIC eisoes wedi gwneud effaith anferth ar y sector yng Nghymru drwy ei phartneriaid ar draws y genedl, a bydd yr hwb yn SA1 yn helpu’r diwydiant i gyflawni ac ehangu ar ei uchelgeisiau.”

Mae ychwanegu’r ganolfan hyfforddiant sgaffaldio at Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru yn galluogi CWIC i adeiladu ar ddarpariaeth ddiweddar eu cyrsiau a rhaglenni hyfforddiant hynod lwyddiannus sy wedi ymestyn dros y tair blynedd diwethaf. 

Mae’r cyfnod hwn wedi gweld agos i 408 o weithgareddau yn cael eu darparu ar draws Cymru, gan gefnogi 691 o gyflogwyr Cymreig ac yn uwchsgilio dros 3,500 o staff y diwydiant adeiladu.  Bydd CWIC yn adeiladu ar y rhaglen gychwynnol hon drwy barhau i gefnogi’r diwydiant adeiladu drwy ddarparu cyrsiau arloesol sy’n arwain y diwydiant o’i Hwb yn Abertawe, i’w cyflwyno ledled Cymru drwy ei rhwydwaith helaeth o bartneriaid.

Mae gwybodaeth am gyrsiau a rhaglenni’r dyfodol ar gael yn www.cwic.wales

UWTSD’s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) is collaborating with South Wales-based Alpha Safety to deliver training at its new £1.5m Scaffolding Academy in Swansea and Cardiff.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk