Canolfan yr Atom yn dathlu 5 mlynedd
14.10.2020
Mae Canolfan yr Atom, Caerfyrddin yn dathlu ei phen blwydd yn 5 oed y mis hwn.
Agorwyd Yr Atom yn swyddogol ym mis Hydref 2015 wedi i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant brynu’r adeilad gyda chefnogaeth grant o Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru, er mwyn sefydlu Canolfan Gymraeg yng nghanol tref Caerfyrddin. Aeth y brifysgol ati i fuddsoddi ymhellach a datblygu’r adeilad i gynnwys caffi ac amryw ystafelloedd er mwyn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, hamdden a busnes ar gyfer y gymuned gyfan.
Gwilym Dyfri Jones yw Profost campws y brifysgol yng Nghaerfyrddin a'r person a fu’n arwain ar y gwaith o sefydlu’r ganolfan ar Stryd y Brenin. Dywedodd:
“Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn llwyddiant Yr Atom yn ystod pum mlynedd gyntaf ei bodolaeth. Trwy gydweithio’n agos â mentrau a sefydliadau eraill, mae’n sicr wedi ennyn mwy o hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg ac wedi esgor ar nifer o weithgareddau pwysig i hyrwyddo’r iaith yn nhref Caerfyrddin. Dymunwn y gorau iddi yn ystod y pum mlynedd nesaf gan obeithio y bydd modd iddi adeiladu ar yr hyn a gyflawnodd eisoes.”
Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfannau yr Atom a S4C Yr Egin:
“Pren yw dathliad 5 mlynedd o briodas ac wrth ddathlu 5 mlynedd o fodolaeth Yr Atom yn nhref Caerfyrddin, tref y dderwen, mae’n teimlo’n addas iawn.
Mae gwreiddiau’r Atom wedi plannu yn y gymuned erbyn hyn ac mae’n gartref sefydlog i nifer o fusnesau a sefydliadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a gweithio’n ddwyieithog. Mae’r Gymraeg wedi prifio gyda’r holl blantos sydd wedi mynychu Cylch Meithrin Myrddin a’r cannoedd o oedolion sydd wedi mynychu gwersi Cymraeg yn y ganolfan.
Edrychwn ymlaen at barhau gyda’r nod o wneud y Gymraeg yn weladwy ac yn glywadwy yn y dref gan gydweithio gydag ystod o bartneriaid.”
Mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Menter Gorllewin Sir Gâr, mae Canolfan yr Atom yn gweithio’n agos gyda’r gymuned fusnes leol, grwpiau a mudiadau lleol i ddarparu rhaglen o gyrsiau iaith yn ogystal â nifer fawr o weithgareddau hamdden. Cyn y cyfnod clo roedd hyd at 150 o ddysgwyr yn mynychu gwersi wythnosol yn y ganolfan.
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
"Mae presenoldeb Yr Atom ers yr agoriad wedi bod yn bwysig iawn yn ieithyddol yng nghanol tref Caerfyrddin.
Mae’r lle bellach yn ganolfan i’r iaith Gymraeg a’r gweithgarwch Cymreig. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau yn denu pobl o bob oed a chefndir i ddefnyddio’r iaith mewn awyrgylch mor bwrpasol.
Edrychwn ymlaen at y dyfodol gyda hyder gan ddymuno pob llwyddiant i Yr Atom."
Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cynnal gweithgareddau mae Canolfan Yr Atom hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol, megis Menter Gorllewin Sir Gâr; Menter a Busnes, Cylch Meithrin Caerfyrddin a Mercher y Wawr. Mae nifer o fusnesau lleol hefyd yn denantiaid yn yr adeilad erbyn hyn megis Esgidiau CiC ar Stryd y Brenin.
Dan Rowbotham yw Cydlynydd Yr Atom. Nododd:
"Nid oes unrhyw amheuaeth bod Yr Atom wedi sefydlu ei hun fel canolfan Gymraeg y dref, gan gynnig cyfleoedd i ddysgu, cymdeithasu, gweithio a mwynhau yn y Gymraeg.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein ffrindiau, hen a newydd yn ôl i'r ganolfan cyn hir ac i barhau i fod yn ganolfan fywiog a phrysur i drigolion tref Caerfyrddin."
Yn sgil pandemig Covid-19 a'r amgylchiadau arbennig mae hyn wedi eu creu, dathliadau tra gwahanol fydd yn yr Atom y tro hwn. Er mwyn nodi’r garreg filltir hon eleni bydd Canolfan yr Atom yn dathlu ar lein, ar y cyfryngau cymdeithasol ac yng nghwmni plant y Cylch Meithrin. Mae croeso i bawb ymuno yn y dathliadau trwy ymweld â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y ganolfan. Gweler y linciau isod:
https://www.facebook.com/yratom/
https://www.instagram.com/yr_atom/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076