Cydweithio diwydiannol arloesol yn galluogi Myfyrwyr Cyfrifiadura PCYDDS i arddangos eu sgiliau entrepreneuraidd


09.09.2020

Mae myfyrwyr cyfrifiadura PCYDDS sy’n gweithio ar brosiectau grŵp Menter ac Arloesi wedi elwa o gydweithio gyda’r diwydiant mewn ffordd sydd wedi eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd.

UWTSD computing students working on Enterprise and Innovation group projects have benefited from industry collaboration which has enabled them to develop their entrepreneurial skills.

Gofynnwyd i’r myfyrwyr greu datrysiadau arloesol i broblemau’r oes sydd ohoni drwy ddefnyddio technolegau cyfredol ac sy’n dod i’r amlwg a llwyddasant i gwblhau eu gwaith, er gwaethaf heriau’r cyfnod clo.

Meddai James Williams, Uwch Ddarlithydd Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf y Brifysgol: “Mae ymgysylltu â diwydiant wedi bod yn amhrisiadwy i’r garfan hon o fyfyrwyr wrth rannu gwybodaeth am ddatblygiad ac arferion perthnasol cyfredol a helpu’r myfyrwyr i ddarganfod eu diddordebau cynhenid ysbrydoledig eu hunain. Mae partneriaid diwydiant wedi bod yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth ar ffurf nawdd modwl, sgyrsiau dosbarth meistr, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith.”

Ben Room, CEO BRDSports.co.uk oedd mentor y myfyrwyr. Meddai: “Roedd gweithio gyda myfyrwyr cyfrifiadura PCYDDS yn brofiad gwych, roeddynt yn broffesiynol, cwrtais ac yn parchu fy amser. Roedd y math o sgiliau y gallent eu cynnig yn arloesol ac yn chwa o awel iach. Roedd cael meddyliau a safbwyntiau newydd, modern ac ifanc yn ffocysu ar fy nghwmni yn fywiogus. Ar ddiwedd y prosiect mae’r tîm wedi cynhyrchu platfform defnyddiadwy ar gyfer fy nghwmni a hoffwn yn fawr iawn gallu parhau gyda’r gwaith hwn yn y dyfodol, ac yn sicr byddwn yn hapus i gydweithio ymhellach ar brosiectau’r flwyddyn nesaf.”

Ymhlith yr enghreifftiau o brosiectau mae:

  • Band Gwybodaeth Feddygol sydd â sglodyn ynddo, i alluogi i barafeddygon neu ymarferwyr gofal iechyd i allu cyrchu gwybodaeth am gleifion yn rhwydd os nad oeddynt yn gwybod enw’r person neu eu hanes meddygol.
  • Ap ffitrwydd sy’n galluogi i gyfranogion gwblhau heriau a chystadlu yn erbyn ffrindiau.
  • Dod â siopa manwerthu i mewn i’r 21ain Ganrif – Trawsnewid papur yn dderbynebau digidol. O’r tu fewn i siopau, Apiau a gwefannau eFasnach ar-lein a’u hintegreiddio’n un cyfrif ‘banc’.
  • Ap sy’n addysgu defnyddwyr i goginio mewn ffordd llawn hwyl ac unigryw, i greu prydau a phostio lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, gan ennill mwy o bwyntiau trwy ymgysylltu.

Llongyfarchiadau arbennig hefyd i fyfyrwyr buddugol y gystadleuaeth Menter ac Arloesi gorau eleni, gan gynnwys Gemma Dunlop, a ddewiswyd gan Reolwr Entrepreneuriaeth Ifanc Llywodraeth Cymru, Ann Swift a Nyakamha Bright, a ddewiswyd gan James Lewis, Pennaeth y rhaglen Dechrau Busnesau Technegol yn yr Alacrity Foundation.

Meddai Ann Swift: “Rwyf wrth fy modd i weld bod myfyrwyr yn dal i allu cymryd rhan yn ddigidol yn y Gystadleuaeth Arloesi drwy gyflwyno ei hadroddiadau a chyflwyniad fideo i ddangos y sgiliau entrepreneuraidd a ffordd o feddwl roeddynt wedi’u datblygu yn ystod modwl y cwrs.  Er fy mod wedi gweld eisiau cwrdd â’r myfyrwyr a chlywed gan y cyflwyniadau grŵp roedd yn dal i fod yn bleser gennyf dderbyn detholiad o gyflwyniadau fideo unigol i’w beirniadu.  Roedd yn wych cael gweld sut roedd y myfyrwyr wedi mynd ati i ymgymryd â’u rolau o fewn y tîm gyda brwdfrydedd, gan gymryd perchenogaeth lawn o’u cyfrifoldebau i sicrhau llwyddiant y prosiectau a chyflwyno datrysiadau arloesol i fodloni anghenion briffiau’r cleient.  Cafodd cyflwyniadau’r myfyrwyr eu cyflwyno’n broffesiynol, gyda hyder ac eglurder, sydd ddim bob tro’n hawdd mewn amgylchedd technegol.  Rwy’n gobeithio bod y myfyrwyr wedi mwynhau’r modwl ac yn gallu cymryd eu sgiliau newydd ymlaen i brosiectau a gyrfaoedd yn y dyfodol, gyda nifer ohonynt yn cael eu hysbrydoli i ddechrau eu busnesau eu hunain yn y dyfodol.”

Meddai Mark Huntly, un o fyfyrwyr BSc Datblygu’r We: “Mae’r profiad wedi bod yn wych, mae creu tîm a chynhyrchu’r prosiect wedi bod yn ffantastig. Bu’r modwl yn un diddorol a oedd yn ennyn brwdfrydedd ac mae James wedi bod yn fentor gwych drwy’r cyfan, gan ddarparu cymorth a chyngor. Rwyf wir wedi mwynhau’r seminarau a ddarparwyd gan arbenigwyr y diwydiant.

“Rwy’n dwlu ar natur ymarferol y cwrs a bu’n wych i fyfyrwyr aeddfed fel fi i ehangu fy ngwybodaeth. Rwyf wedi lwyr fwynhau’r broses o ddysgu hyd yma yn ogystal â’r ochr ymchwilio.”

Meddai Gemma Dunlop: Roedd y prosiect yn cynnwys gweithio fel rhan o dîm o chwech i ddatblygu gwefan arloesol ar gyfer y cwmni BRD Sports. Cynigais fy hun yn arweinydd tîm a’m helpodd i ddysgu sgiliau newydd fel arweinyddiaeth, gwrando ar syniadau pobl eraill, sgiliau cyfathrebu, dibynadwyedd, datrys problemau a gwneud penderfyniadau.

“Roedd gweithio’n gydweithredol gyda’r myfyrwyr eraill yn fy nhîm yn brofiad gwych. Cafodd cyfeillgarwch cryf ei feithrin rhyngom wrth i ni weithio’n effeithiol tuag at ein nod cyffredin. Daethom i adnabod ein gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd. Galluogodd y prosiect i’r tîm ddangos eu sgiliau ac arddangos yr hyn y gallent ei wneud fel datblygwyr gwe. Helpodd y prosiect i fi gael profiad gwerthfawr o godio ymarferol ac mae wedi ychwanegu prosiect go iawn diddorol i’m portffolio, a fydd yn helpu iddo sefyll allan.

“Mae fy nghwrs wedi galluogi i mi gael gwybodaeth eang o godio sy’n hanfodol ar gyfer y byd gwaith go iawn. Mae wedi rhoi imi’r sgiliau, hyder a phrofiad sydd eu hangen i arwain at yrfa wych ym maes datblygu’r we.

“Dewisais gwrs Datblygu’r We yn PCYDDS am ei fod yn cynnwys dysgu sgiliau cyfrifiadura ymarferol yr wyf yn credu y byddant yn fwy tebygol yn ystadegol i arwain at gyflogaeth. Gyda chymaint o gystadleuaeth yn y farchnad swyddi ar hyn o bryd, roedd arna’i eisiau dewis llwybr gyrfaol sy’n ymestyn ac nid crebachu.”

UWTSD computing students working on Enterprise and Innovation group projects have benefited from industry collaboration which has enabled them to develop their entrepreneurial skills.

Mae creadigrwydd ac arloesi wrth galon cenhadaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i wella cyflogadwyedd graddedigion a’r nifer o fusnesau newydd gan raddedigion. Ein nod yw defnyddio’r sgiliau, gwybodaeth a thechnoleg sydd gennym gyda’n gilydd i alluogi’r Brifysgol a’i graddedigion i gynnig atebion i’r heriau cymdeithasol pwysicaf – yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein gweledigaeth yn cynnwys ymrwymiad cryf i adeiladu cymdeithas gynaliadwy sydd wedi ei gyrru gan arloesi ac entrepreneuriaeth.

Mae dysgu arloesol a chydweithio â diwydiant yn ffocws allweddol yn y Brifysgol, gan greu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr wella eu gobeithion ar ôl graddio. Mae’r dull unigryw hwn o ddod â myfyrwyr, academyddion a busnesau at ei gilydd yn eu galluogi i archwilio syniadau a chreu cyfleoedd i ddatblygu busnesau, cynnyrch a gwasanaethau newydd, cynaliadwy.

Meddai James Williams: “Trwy’r modwl hwn, caiff myfyrwyr eu hannog i ddarganfod a chymhwyso eu brwdfrydedd a’u cryfderau cynhenid ac i weithio gyda chysylltiadau diwydiant a chymuned perthnasol i greu prototeipiau arloesol ac atebion i broblemau sy’n bwysig a perthnasol iddyn nhw a chymdeithas. 

“Mae’n galluogi cydweithredu rhyng-ddisgyblaethol ac yn dod â myfyrwyr at ei gilydd o 8 gwahanol raglen HND/Gradd Cyfrifiadura ac Electroneg. Nid yn unig y mae’n creu pont rhwng y rhaglenni academaidd mewnol ond hefyd gyda diwydiant allanol a sefydliadau cymunedol sy’n galluogi i fyfyrwyr ehangu eu sgiliau technegol a chyflogadwyedd trwy gydweithio â diwydiant yn y byd go iawn a gweithio ar heriau cyfredol. 

“Mae myfyrwyr wedi cael nawdd sbarduno i ddatblygu eu prototeipiau, wedi creu Cwmnïau Cychwyn Busnes Technoleg ac mae graddedigion lleol a gyflogwyd wedi cyfoethogi ffyniant, adfywio economaidd a chynaliadwyedd yr ardal.” 

Cewch weld rhagor yma: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/pwnciau/cyfrifiadura/

UWTSD computing students working on Enterprise and Innovation group projects have benefited from industry collaboration which has enabled them to develop their entrepreneurial skills.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Tel: 01792 483695

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk