Cyhoeddi rhaglen cyfres darlithoedd Sefydliad Athroniaeth Brenhinol y Drindod Dewi Sant
29.10.2020
Mae cangen campws Llanbedr Pont Steffan o’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol wedi cyhoeddi ei rhaglen cyfres ddarlithoedd ar gyfer 2020-21.
Yn agored i'r cyhoedd, mae darlithoedd Sefydliad Athroniaeth Brenhinol cangen Llambed yn gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar ymchwil athroniaeth newydd, eang a blaengar. Bydd y sgwrs gyntaf gan Dr Anneli Jefferson o Brifysgol Caerdydd ar 3 Tachwedd 2020, lle bydd yn canolbwyntio ar y cwestiwn, ‘Can psychiatric diagnosis undermine agency?’
Dywedodd Dr Rebekah Humphreys, darlithydd Athroniaeth yn y Drindod Dewi Sant a threfnydd y darlithoedd hyn:
“Rydym yn falch iawn ein bod yn cynnal y fath amrywiaeth o ddarlithoedd a sgyrsiau, gan dynnu meddylwyr athronyddol amlwg a chreadigol o bob rhan o'r DU. Mae gennym raglen ragorol unwaith eto ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr arlwy yma yng nghangen y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn Llambed.
Bydd ein sgwrs gyntaf yn cael ei chynnal gan Dr Anneli Jefferson o Brifysgol Caerdydd ac mae’n argoeli i fod yn drafodaeth hynod ddiddorol. Mae'n gyfle gwych i ddod â myfyrwyr, staff a'r gymuned ynghyd - felly dewch draw, mae croeso i bawb."
Mae cangen campws Llambed yn gangen achrededig o’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol, elusen y mae ei gwreiddiau’n dyddio’n ôl i’r 1920au. Mae'r Sefydliad yn ymroddedig i hyrwyddo athroniaeth yn ei holl ffurfiau, er mwyn dod a’r gynulleidfa ehangaf bosibl ynghyd.
Nodyn i'r Golygydd
Mae'r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd yn ogystal â myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff, ac anogir unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn i ymuno â'r trafodaethau.
Cynhelir pob sgwrs ar nos Fawrth rhwng 6pm a 7.30pm. Yn ystod y semester cyntaf cynhelir pob sesiwn trwy Zoom, ac yn ôl yr arfer, cynhelir sesiwn Holi ac Ateb lle bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chael trafodaeth bellach.
Rhaglen Cyfres Darlithoedd 2020-21
3 Tach 2020
Dr Anneli Jefferson, Prifysgol Caerdydd
Can psychiatric diagnosis undermine agency?’
Sgwrs ar-lein, Zoom
17 Tachwedd 2020
Yr Athro Emeritws Andrew Edgar, Prifysgol Caerdydd
‘Sport and the Hermeneutics of Pain’.
Sgwrs ar-lein, Zoom
8 Rhagfyr 2020
Dr Liz Irvine, Prifysgol Caerdydd
'How to detect animal pain'.
Sgwrs ar-lein, Zoom
12 Ionawr 2021
Dr Martyn Sampson, UWTSD, Lampeter.
Pwnc: epistemic injustice and mental health.
Sgwrs ar-lein, Zoom
26 Ionawr 2021
Dr Paddy McQueen, Prifysgol Abertawe,
‘Why we should license parents’
*Ar y Campws
9 Chwefror 2021
Dr Paul Giladi, Prifysgol Manceinion, ar y Campws
‘The Agent in Pain: Alienation and Discursive Abuse’
23 Chwefror 2021
Jernej Markelj, Prifysgol Caerdydd,
‘Deleuze and Guattari's symptomatology of power: Fascism as a contagious disease’
*Ar y Campws
9 Mawrth 2021
Yr Athro Lisa Bortolotti
Sgwrs ar-lein, Zoom
23 Mawrth 2021
Dr Anna Bortolan, Prifysgol Abertawe,
‘Online Selves: Emotions, Narratives, and the Internet’
*Ar y Campws
20 Ebrill 2021
Dr Maria Balaska, Prifysgol Swydd Hertford
*Ar y Campws
27 Ebrill 2021
Dr Sophie Archer, Prifysgol Caerdydd
Sgwrs ar-lein, Zoom
Mai - Dyddiad i’w gadarnhau.
Yr Athro David Cockburn, Y Drindod Dewi Sant, Llambed
Ymunwch â’r Cyfarfod Zoom
https://zoom.us/j/95316754126?pwd=ZUVxeEUydzdUNXZCY0RrSWdPV0JkUT09
ID y cyfarfod: 953 1675 4126
Cod pas: 5M6Jf9
Am fanylion pellach, cysylltwch â r.humphreys@uwtsd.ac.uk
* Lle nodir ‘ar y Campws’ fell lleoliad y ddarlith nid yw hyn wedi’i gadarnhau eto.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076