Dau brosiect arloesol gan ATiC yn y Drindod Dewi Sant ar restr fer Gwobrau’r Gynau Gwyrdd
22.10.2020
Mae dau brosiect arloesol gan y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobrau Gynau Gwyrdd y DU ac Iwerddon 2020. Nod y ddau brosiect yw gwella bywydau cleifion drwy ddefnyddio technoleg.
Sefydlwyd Gwobrau’r Gynau Gwyrdd yn 2004 ac maent yn cydnabod y mentrau cynaliadwyedd eithriadol y mae prifysgolion a cholegau yn ymgymryd â nhw. Mae’r ddau brosiect gan ATiC sydd ar y rhestr fer, sef ‘Lleihau Effaith Dulliau Sganio 3D am Helmedau Personol i Blant’ ac ‘Y Daith Lawfeddygol: Trawsnewid deilliannau cleifion’ yn cynnwys ystyriaethau amgylcheddol. Eu nod oedd mynd i’r afael ag anghenion defnyddwyr drwy wneud ymchwil yn hygyrch i grwpiau defnyddwyr gwahanol.
Mae’r prosiectau’n rhan o Accelerate, cydweithrediad arloesol rhwng tair o brifysgolion Cymru, Prifysgol Caerdydd (CIA), Prifysgol Abertawe (HTC), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (ATiC), a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Cyllidwyd y rhaglen ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, ac mae’n cynnig mynediad at arbenigedd academaidd, dealltwriaeth fanwl o eco-system gwyddorau bywyd a chyfleusterau o’r radd flaenaf. Nod Accelerate yw creu gwerth economaidd parhaus i Gymru.
Mae’r prosiectau hefyd yn rhan o gydweithrediadau ymchwil â phartneriaid allanol, gyda Chanolfan Arloesi Cerebra (CIC) a leolir yng Nghymru ac sy’n wasanaeth dylunio cynnyrch pwrpasol a gynigir gan yr elusen genedlaethol Cerebra i’w haelodau; a Concentric Health, busnes newydd sy’n darparu platfformau sy’n galluogi cydsyniad digidol a gwneud penderfyniadau ynghylch llawfeddygaeth ar gyfer ysbytai. Nododd Cyfarwyddwr ATiC, yr Athro Ian Walsh, bwysigrwydd cydweithio rhwng y Brifysgol a busnesau partner o ran cyflymu arloesi a datblygu modelau ymarfer mwy cynaliadwy, gan ychwanegu: “Mae’n bleser mawr i mi bod ymrwymiad y Drindod Dewi Sant i ddatblygu cynaliadwy wedi cael ei gydnabod yn y gwobrau arobryn hyn sy’n pwysleisio pwysigrwydd partneriaeth mewn ymchwil ac arloesi.”
Mae ATiC yn cynnig arbenigedd mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gwerthuso a dadansoddi profiadau defnyddwyr, cipio data a symudiadau 3D, yn ogystal â chreu prototeipiau mewn ystod o ddeunyddiau. Mae’n dilyn dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr wrth ymchwilio a datblygu, gan wella perthynas pobl â’r cynnyrch a’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio’n ddyddiol, a sicrhau bod deilliannau’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles.
Meddai Yolanda Rendón-Guerrero, Cymrawd Arloesi ATiC, arweinydd prosiect ‘Lleihau Effaith Dulliau Sganio 3D am Helmedau Personol i Blant’: “Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Chanolfan Arloesi Cerebra (CIC) wrth gefnogi eu hachos pwysig iawn drwy helpu aelodau Cerebra i gael mynediad at ddeilliannau ymchwil a gwella eu lles. Mae dynodi’r ateb sganio 3D gorau’n fuddiol dros ben i wasanaeth CIC a’i ddefnyddwyr sy’n byw â chyflyrau ar yr ymennydd, gan ganiatáu iddyn nhw gael mynediad at helmedau sy’n ffitio’n berffaith, ac ar yr un pryd yn lleihau effaith amgylcheddol dulliau a ddefnyddir o’r cysyniad i greu eu helmedau pwrpasol.
“Gyda’r mynediad sydd gennym ni heddiw at dechnoleg o’r radd flaenaf, mae angen i ni sicrhau cyfranogiad y defnyddiwr yn ystod prosesau meddwl am ddyluniadau sy’n rhan o ymchwil arloesol a mynediad diduedd at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sydd o’r radd flaenaf.
Gan droi at y cydweithio â Concentric, meddai Dr Caroline Hagerman, Cymrawd Arloesi ATiC ac arweinydd y prosiect: “Wrth siarad â defnyddwyr rydym ni wedi datgelu cynifer o ffyrdd y gallai Concentric helpu cleifion llawfeddygaeth a chlinigwyr. Rydym ni wedi datblygu cysyniad a fydd yn ein barn ni yn wir yn trawsnewid rhan a rôl cleifion yn eu taith lawfeddygol, yn ogystal â thorri rhwystrau lawr rhwng y clinigwr a’r claf. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn gwella cydraddoldeb gofal iechyd, heb sôn am iechyd cyffredinol y poblogaethau lle mae’n cael ei ddefnyddio. Rydym ni’n falch iawn o’r hyn rydym ni wedi’i gyflawni ac yn ffaelu aros i weld yr effaith ein hun.”
Mae Gwobrau’r Gynau Gwyrdd yn cael eu noddi gan EAUC (Cynghrair Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd mewn Addysg). Hi yw hyrwyddwr cynaliadwyedd prifysgolion a cholegau yn y DU ac mae ganddi aelodaeth o fwy na 200 o brifysgolion, colegau a darparwyr dysgu a sgiliau. Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gynau Gwyrdd DU ac Iwerddon eleni yn cynrychioli 45 o sefydliadau ac yn arwain y ffordd gyda’u hymrwymiad i’r agenda cynaliadwyedd byd-eang.
Gan adfyfyrio ar gyflwyniadau eleni, meddai Iain Patton, Prif Swyddog Gweithredol, EAUC: “Mae’n deg dweud bod popeth wedi’i droi wyneb i waered eleni. Ond beth sy’n nodedig, yw’r dyfalbarhad a’r cadernid a ddangoswyd gan ein sector. Mae derbyn cynifer o geisiadau gan ein cymunedau cynaliadwyedd yn ystod y flwyddyn heriol hon, a darllen eu prosiectau ysbrydoledig yn wir yn galonogol yn y dyddiau ansicr hyn ac mae’n meithrin gobaith am adferiad gwyrdd a dyfodol mwy cynaliadwy. Heddiw rydym yn cyhoeddi enwau’r rhai sydd yn y Rownd Derfynol, ond rydym hefyd yn cymeradwyo pob un o’r ymgeiswyr ac yn eu hannog i barhau ar lwybr cynaliadwyedd sydd bellach yn fwy hanfodol nag erioed.”
Cyhoeddir yr enillwyr yn y Seremoni Wobrwyo a gynhelir ym mis Mawrth/Ebrill 2021.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk