Dychwelyd i normalrwydd?


30.04.2020

Gyda’r pandemig coronafeirws yn effeithio pob cwr o’r ddaear, mae cymdeithasau ar draws y byd yn gofyn pa bryd y byddant yn dychwelyd i fywyd fel ag yr oedd cyn y cyfyngiadau.

Yma, mae Dr Luci Attala, uwch ddarlithydd Anthropoleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystyried effaith pandemig Covid-19 ar gymdeithas a sut y mae’n debygol o newid y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau am byth.

Dr Luci Attala

Dr Luci Attala, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r nifer sy’n galw am gael dychwelyd i ‘normalrwydd’ yn cynyddu. Mae pobl wedi cael llond bol ar y cyfyngiadau symud...ond mae unrhyw alw am agor drysau unwaith eto’n cael eu cwrdd â’r rhybudd “all pethau ddim mynd nôl i fel ag oedden nhw o’r blaen”. Yn amlwg, mewn perthynas â’r niferoedd erchyll o farwolaethau sydd yn y DU a ledled y byd, ni fydd bywydau llawer o deuluoedd fyth yn dychwelyd i fel ag oedden nhw cyn dechrau 2020. A gan y byddwn i gyd wedi byw trwy ‘Adeg COVID-19’, bydd gennym i gyd straeon i’w hadrodd amdano yn y dyfodol. Ond beth yw ystyr dychwelyd i normalrwydd a pham na all pethau fynd nôl i’r ffordd oedden nhw cyn y cyfyngiadau symud?

Wel, ar un lefel, yn syml, am fod y firws yma i aros; dydyn ni ddim am gael gwared arno’n fuan, os o gwbl. Fel yr holl afiechydon heintus eraill rydym yn eu lledaenu mewn gwahanol ffyrdd, mae Covid-19 wedi’i gloi mewn gyda ni, ac yn aml, nes bod triniaeth neu frechiad, bydd rhaid i lawer o’n hymddygiad cymdeithasol ‘normal’ gael eu haddasu i geisio atal y lledaeniad.

Yn ddiflas, ond yn hanfodol, y peth pwysicaf yw y bydd rhaid i newidiadau gefnogi rheolaeth effeithiol yr afiechyd. Bydd hyn, wrth gwrs, yn cael ei wneud drwy gadw pellter corfforol oddi wrth ein gilydd.  Fodd bynnag, bydd cadw pellter yn effeithio ar bron popeth. Bydd rhaid i bethau a oedd unwaith yn cael eu hystyried yn weithgareddau arferol, diniwed fel yr ystum o roi cledr ein llaw ar ein hwyneb (‘face palm’) yn gorfod newid. Yn debyg, bydd rhaid ailystyried a diwygio cyfarchion; golchi dwylo; siopa; defnyddio cludiant cyhoeddus; mynychu cyfarfodydd; ymdrin â’r oriau brys; cyrchu addysg ac adloniant, ymysg nifer di-rif o weithgareddau eraill. Yn ogystal, bydd y ffordd y caiff adeiladau, llwybrau cerdded, a llawer, ond nad yr holl leoedd cymdeithasol eu dylunio angen sylw, a fydd hefyd yn wir am fathau gwahanol o waith. Efallai y bydd cael MOT i’r car yn hawdd ei wneud o bellter diogel, bydd mynd at y deintydd neu fynd i dorri eich gwallt yn stori wahanol.  Hefyd, rwy’n credu y bydd gwisgo mygydau o ryw fath mewn ardaloedd prysur yn norm - gall hyd yn oed fod yn drosedd i beidio â gwisgo un - wrth i ni fyw drwy’r gwahanol donnau o’r firws hwn, sy’n siŵr o daro. A thro diddorol yng nghynffon y stori yw bod ein casineb cynyddol at blastig wedi troi’n ddiolch amdano am ei fod wedi helpu i achub bywydau.

Er ei fod yn gwbl amlwg nad oeddem yn barod am hyn a’n bod wedi straffaglu i addasu, nid yw hynny’n golygu na allwn addasu’n llwyddiannus yn y dyfodol. Mae dynol ryw yn rhywogaeth greadigol sydd â llawer o sgiliau ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd newydd bethau cyfareddol yn dod i’r amlwg a hyd yn oed yn gwella ein byd yn yr hir dymor - fel y cwymp mewn allyriadau, er enghraifft.

Gan barhau’n betrusgar ar y trywydd mwy positif hwn, mae llawer o deuluoedd yn treulio’r hyn a oedd yn cael ei alw’n ‘amser ansawdd’ gyda’i gilydd: garddio, coginio, dawnsio, canu a - pwy fyddai’n meddwl - darllen! Yn bersonol, y mae wedi rhoi’r lle i mi ‘anwybyddu’r cloc’, gan ddod o hyd i fy rhythm fy hun mewn diwrnod ac rwy’n credu ei fod yn well i mi fyw fel hyn. Rwy’n dal i fod yn gynhyrchiol, yn dal i eistedd mewn cyfarfodydd diflas, ond dydw i ddim yn rhuthro o un lle i’r llall, yn ceisio dod o hyd i leoedd parcio a gwneud yn siŵr fy mod wedi dod â phopeth sydd ei angen gyda fi. Yn ogystal, dydw i ddim yn cael fy nharfu gan yr ymyraethau diddiwedd sy’n digwydd yn anorfod mewn coridor o swyddfeydd, sy’n awgrymu y gallai rhai pethau, mewn rhai meysydd, fod yn fwy effeithlon. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol nad yw hyn yn wir i gyfran sylweddol o boblogaeth y DU a chenedlaethau eraill a bod dioddefaint byd-eang o ganlyniad i anghydraddoldeb yn enfawr, yn waeth ac yn boen meddwl ofnadwy.

Mae’r pandemig yn cynnig cyfle i bawb feddwl yn galetach ac yn fwy gofalus am yr hyn sydd wir o werth ac y dylid rhoi amser, egni ac ystyriaeth ychwanegol iddo. Mewn geiriau eraill: mae’r firws yn esbonio bod rhai o’r gwerthoedd sylfaenol sydd wedi’u gwau i mewn i ffabrig cymdeithasol bywyd bob dydd yn broblematig ac efallai y bydd rhaid eu dileu fesul cam ac yna eu cloi yn y drôr ‘camgymeriadau hanes’ am byth.

O ganlyniad i ddigwyddiadau presennol, rwy’n credu mai’r sector iechyd a gofal yw ceffyl blaen y teitl ‘sefydliad cymdeithasol pwysicaf a mwyaf gwerthfawr’, gan ddangos ei hun yn gwbl angenrheidiol uwchben ‘y marchnadoedd’ a’r holl fflwff economaidd sy’n cylchdroi o gwmpas y draen hwnnw. Bydd cymdeithas nad yw’n rhoi iechyd, ar ei holl weddau, wrth ei chraidd yn siŵr o ddioddef ac yn peidio â ffynnu.

Hoffwn weld iechyd a gofal yn greiddiol i gymdeithas yn y dyfodol, yn hytrach nag economeg foel, fel y mae nawr. Yr hyn rwy’n ei olygu yw bod penderfyniadau’n cael eu gwneud drwy weithio allan beth sy’n angenrheidiol yn hytrach na’n bosibl yn ariannol. Dydw i ddim yn meddwl y gall cymdeithas fforddio gwneud hyn mewn unrhyw ffordd arall nawr, gan ein bod wedi gweld yn glir nad oes dim yn gweithio’n dda pan nad oes gennym yr eitemau hynny sy’n helpu’r boblogaeth i aros yn iach, saff ac yn fyw. Hoffwn weld penderfyniadau’n cael eu gwneud o gwmpas yn seiliedig ar iechyd a gofal dinasyddion, ar yr amgylchedd, ar anifeiliaid ar wahân i bobl, cymunedau, cyflogaeth, addysg, y system gyfreithiol ac ati. Trwy hynny, nid yn unig y byddem ni’n barod i helpu ein gilydd, ond fe fyddem hefyd yn rhoi gwerth ar ac yn dangos gofal dros ein gilydd drwy bopeth, pob newid, pob eitem, pob gwasanaeth a gynhyrchwn.

Hanes Dr Luci Attala

Mae Dr Luci Attala yn Uwch Ddarlithydd Anthropoleg ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llambed.  Mae hi hefyd yn Uwch Gymrawd yr AAU; yn enillydd ‘Green Gown’ (2015) am ei gwaith ar gynaliadwyedd, ac mae hi wedi derbyn Gwobr Seren Aur y CU (2014) am waith yng Nghenya.

Mae maes diddordeb ymchwil Dr Attala wedi’u seilio ar ffocws ar fateroldebau, gan roi sylw arbennig i ddŵr. Ar hyn o bryd, mae hi’n archwilio i’r rôl y mae dŵr yn chwarae wrth siapio bywydau yng Nghenya wledig, ond mae hi hefyd yn ystyried rhan dŵr wrth drefnu bodau dynol ac ymddygiad cymdeithasol yn ehangach. Gydag ôl-ddyneiddiaeth, y mudiad ‘morethanhuman’ ac ethnograffeg amlrywogaeth yn ysbrydoliaeth, mae ei gwaith yn gofyn ‘sut mae dŵr yn ein gwneud yn ddynol’ ac yn mabwysiadu fframwaith materoliaeth newydd – sy’n dod â ffiseg cysylltu sylweddau i’r blaendir – i gael ateb.

Ar hyn o bryd mae Dr Luci Attala yn cyd-olygu cyfres o lyfrau o’r teitl Materialities in Anthropology and Archaeology gyda’i chydweithiwr yn Llambed, Dr Louise Steel.  Wedi’i chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, mae’r gyfres hon yn cynnig ymchwiliad amserol i’r byd materol a lle pobloedd o’i fewn. 

Am wybodaeth bellach ynglyn â’r cyrsiau Anthropoleg a gynigir yn Y Drindod Dewi Sant, ewch i dudalen Anthropoleg ar wefan y Brifysygol.

Gwybodaeth Bellach

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sian-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk