Enwi rhaglen Twristiaeth y Drindod Dewi Sant fel “un i’w gwylio” yn ystod Gwobrau Twristiaeth y Byd 2020


10.11.2020

Yn falch dros ben o glywed bod Twristiaeth Y Drindod Dewi Sant wedi ei chydnabod yn swyddogol yn "adran i'w gwylio" gan Wobrau Twristiaeth y Byd 2020.

UWTSD Tourism has been officially recognised as “one to watch” by the 2020 World Responsible Tourism Awards

Mae'r Gwobrau'n cydnabod busnesau a chyrchfannau sy'n helpu i ledaenu arfer da – addysgu, ysbrydoli a herio eraill i wneud yr un peth neu wneud mwy.

Eleni penderfynodd y beirniaid gymeradwyo busnesau a chyrchfannau sy'n cymryd cyfrifoldeb ac sy’n mynd i'r afael â her Covid-19.

Meddai Jacqui Jones o’r Drindod Dewi Sant, Cyfarwyddwr Rhaglen Twristiaeth, Digwyddiadau a Hamdden: "Roedd cydnabod Twristiaeth Y Drindod Dewi Sant yn adran i'w gwylio yn y dyfodol gan Wobrau Twristiaeth y Byd yn dipyn o gamp.

"Llongyfarchiadau i'r enillwyr clodwiw iawn, corff arweiniol y Diwydiant Teithio ABTA, gyda'u  Strategaeth Travelife, sy'n bartneriaid academaidd i ni.

"Roedd ein henwebiad yn seiliedig ar y cymorth rydyn ni wedi'i roi i'r Sector Twristiaeth yng Nghymru ac yn fyd-eang yn ystod y pandemig. Mae hyn yn cynnwys lansio rhaglen Tystysgrif Rheoli Twristiaeth 1 flynedd newydd i gefnogi gweithwyr yn y sector sydd wedi cael eu diswyddo neu eu rhoi ar ffyrlo oherwydd yr argyfwng sy'n eu galluogi i uwchsgilio, yn barod i ateb y galw cynyddol yn y farchnad dwristiaeth ar ôl Covid.”

Dysgwch ragor yma : https://responsibletourismpartnership.org/world-rt-awards/world-responsible-tourism-awards-2020/

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk