Epidemig y Ffliw ‘Sbaenaidd’ 1918 – 1920 a’i effaith ar Gymru


05.05.2020

O ystyried yr amgylchiadau presennol, mae’n anochel efallai y byddai haneswyr, ac yn enwedig y rhai sy'n treulio eu gyrfa yn astudio'r Rhyfel Mawr, yn chwilio am debygrwydd rhwng firws Covid-19 ac epidemig y ffliw a achosodd y fath ddifrod ar draws y byd rhwng 1918-1920. Fodd bynnag, mae ymarfer o'r fath yn broblemus; mae yna elfennau tebyg, ond er mwyn cael darlun cywir o natur epidemig y ffliw, mae angen ichi fod yn llwyr ymwybodol o'r cyd-destun.

Yma, mae Dr Lester Mason, hanesydd amlwg a darlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ystyried effaith epidemig y ffliw Sbaenaidd ac yn gofyn a allwn ddysgu unrhyw beth o'i effaith ddinistriol.

Dr Lester Mason, Historian / Hanesydd

Dr Lester Mason, Darlithydd Hanes ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Parhaodd epidemig y ffliw (ffliw Feirws A is-fath H1N1, i roi ei enw llawn) o Ionawr 1918 i Ragfyr 1920, a chyrhaeddodd benllanw marwol yng Nghymru yn ystod Hydref a Thachwedd 1918. Mae'r label ‘Sbaenaidd’ yn gamarweiniol. Do’n wir, fe wnaeth Sbaen ddioddef holl rym yr epidemig, fel llawer o wledydd eraill Ewrop; fodd bynnag, yn sgil y ffaith nad oedd y wlad mewn rhyfel, ac nad oedd yn rhaid iddi osod cyfyngiadau ar y newyddion, fel sy’n digwydd adeg rhyfel, tueddai’r adroddiadau cynnar am y firws ganolbwyntio ar Sbaen. Ynghyd â hynny, roedd y sylw ychwanegol a roddwyd i dynged y Brenin Alphonso XIII, a gafodd ei daro â’r feirws. Byddai presenoldeb cyfyngiadau adeg rhyfel wedi cael effaith barhaus ar y modd yr aethpwyd i’r afael â’r feirws ac yn wir ar ei waddol.

Cynigiwyd nifer o ddamcaniaethau ynglŷn â gwir darddiad y feirws, gyda llawer ohonynt yn dyfalu am effaith y Rhyfel a’r cynnydd yn y nifer o wersylloedd a barics y fyddin ar draws y byd. Roedd dyfalu pellach yn cysylltu paratoi cig a dofednod a gwersylloedd y fyddin yn Kansas UDA (oedd yn llawn milwyr ar fin croesi’r Iwerydd i ymladd yng Ngorllewin Ewrop). Awgryma rhai fod gwersyll hyfforddi milwrol eang y Cynghreiriad a’r cyfleusterau meddygol yn Etaples ar arfordir Ffrainc yn fagwrfa ar gyfer y feirws. Beth bynnag oedd y gwir darddiad, ni ellir gwadu bod casglu ynghyd cymaint o ddynion ifanc, yn ogystal â’u symudiadau hwy, wedi helpu lledu H1N1. Yn The War of the World, a gyhoeddwyd yn 2006, honnai Neil Ferguson, ‘one in every hundred American males between the ages of 25 and 34 ‘fell victim to the Spanish flu lady’ (tt.144-5). Ymhlith y ffactorau eraill a gysylltwyd ar y pryd â lledaeniad y ffliw roedd tlodi, hylendid gwael a gorboblogi. Byddai’r ffactorau hyn wedi cael effaith ar Gymru, yn enwedig yng nghymunedau dosbarth gweithiol pyllau glo y de.

Roedd y symptomau’n frawychus, yn enwedig yn ystod yr ail don enbyd yn hydref 1918 – gyda chroen yn troi’n las, yr ysgyfaint yn llenwi â hylifau myglyd, a gwaedu o’r trwyn a'r clustiau.  Tarodd yn gyflym ac yn dawel, a gallai marwolaeth ddigwydd o fewn dyddiau, ac mewn rhai achosion o fewn oriau. Yn groes i’r disgwyliadau, a chan ategu sylwadau Ferguson uchod, roedd ar ei fwyaf enbyd ymhlith oedolion ifanc, gan arwain at nifer fawr o farwolaethau ymhlith milwyr, nifer ohonynt wedi goroesi’r ymladd, dim ond i farw o H1N1. Credid bod oes o gaffael imiwnedd i firysau o’r fath wedi rhoi mwy o amddiffyniad i’r henoed.

Mae’r cyfnod hwn, wrth gwrs, yn rhagflaenu’r GIG, ac nid oedd unrhyw frechlynnau na chyffuriau gwrthfeirws i droi atynt, felly nid oedd unrhyw ymateb i’r feirws yn meddu ar y soffistigedigrwydd meddygol yr ydym ni’n tuedd ei gymryd yn ganiataol heddiw (ar y pryd barnwyd mai haint bacterol ydoedd ac nid feirws); ond mae rhai cyffelybiaethau rhwng y cyfnod hwnnw a’r ymateb heddiw i Covid 19. Gosodwyd cyfyngiadau symud yn 1918, gan gynnwys cyngor ar yr angen i osgoi tisian a pheswch yn gyhoeddus, berwi hancesi, awyru ystafelloedd gwely, ac osgoi torfeydd.   Roedd rhai ysgolion, sinemâu a theatrau ar gau. Yn ganolog i’r ymateb i feirws y ffliw Sbaenaidd oedd rôl y Swyddog Iechyd Meddygol dan reolaeth y Cynghorau lleol, yn wahanol iawn i ymateb mwy canolog y llywodraeth heddiw. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnodau cynnar ni sylweddolwyd ei effaith lawn oherwydd cyfathrebu gwael, cyfyngiadau adeg rhyfel ar rannu gwybodaeth a chasglu newyddion, a’r ffaith syml, ar adeg pan oedd marwolaeth dynion ifanc mewn brwydr wedi dod yn norm, na sylwyd ar y colledion yn sgil H1N1.

Roedd yr effaith yng Nghymru yn aruthrol. Yn ôl erthygl ar wefan newyddion y BBC yn Saesneg:  ‘How Spanish flu epidemic devastated Wales in 1918’ (ar gael ar: www.bbc.co.uk/news/uk-wales-45577611) amcangyfrifwyd bod rhwng 8750 a 11400 o bobl wedi marw o’r feirws yng Nghymru. Daeth yr effaith waethaf yn ystod yr ail don yn hydref 1918, sydd i’w weld yn glir yn y graff isod (gweler ffig 1), sy’n dangos y cynnydd sydyn mewn achosion o dros 20,000 yn Hydref/Tachwedd. Digwyddodd y cynnydd sydyn yn gynharach yn y Rhondda, pan gofnodwyd 144 o farwolaethau ym mis Gorffennaf 1918. Fe wnaeth cymunedau glofaol clos de Cymru, a oedd yn adnabyddus am eu natur gymdogol, ddioddef yn anghymesur, fel y gwnaeth ardaloedd mwy difreintiedig Caerdydd.  Fodd bynnag, ni lwyddodd cefn gwlad Cymru i ddianc; digwyddodd y gyfradd marwolaethau uchaf yn Sir Gaernarfon, lle cafodd rhai cymunedau eu llethu. Fe’u llesteiriwyd gan brinder Meddygon, gan fod nifer o’r proffesiwn hwn mewn lifrai ac yn gwasanaethu dramor.  Mae hyn yn amlwg yn ffigur 2 isod, sy’n mapio’r cyfradd marwolaethau i bob mil o bobl yng Nghymru fesul sir (mae ffig 1 a 2 ar gael ar:www.bbc.co.uk/news/uk-wales-45577611).

Fig1: Register General’s graph of Influenza cases in Wales, June 1918 to May 1919 / Ffig 1: Graff y Gofrestr Gyffredinol o achosion y Ffliw yng Nghymru, Mehefin 1918 i Fai 1919

Ffig 1: Graff y Gofrestr Gyffredinol o achosion y Ffliw yng Nghymru, Mehefin 1918 i Fai 1919.

Fig 2: Register General’s map of Influenza cases in Wales 1918-1919 / Ffig 2: Map y Gofrestr Gyffredinol o achosion y Ffliw yng Nghymru  1918-1919

Ffig 2: Map y Gofrestr Gyffredinol o achosion y Ffliw yng Nghymru  1918-1919. 

Ni wnaeth gorllewin Cymru ddianc chwaith. Mae erthygl yn y Cambrian Daily News o 28 Mehefin 1918 yn rhoi sylw i ddigwyddiadau yng Nghymru, gan sôn am:

Achosion o’r Ffliw Sbaenaidd yn lluosi yn Abertawe a’r cyffiniau. Mae’r ffliw Sbaenaidd yn lledu’n frawychus yn Abertawe a’r cyffiniau. Nid yw’n parchu pobl brysur na hamddenol, gyda phobl gyfoethog a thlawd, hen ac ifanc yn dioddef ohono.

Yn The Carmarthen Journal ar 17 Ionawr 1919 cafwyd y manylion canlynol:

Ffliw yn Sir Gaerfyrddin – 349 o farwolaethau. 174 o ddynion a 175 o fenywod, yn cynnwys 111 o farwolaethau yn yr ardaloedd trefol a 238 yn yr ardaloedd gwledig. Ymddengys bod nifer y marwolaethau dros 100% yn fwy yn yr ardaloedd gwledig. Yr ystod oedran â’r cyfradd marwolaethau uchaf oedd rhwng 25-65 oed, a nesaf at hwnnw oedd yr ystod oedran rhwng 15 a 25 oed. Ymddengys bod y clefyd yn fwy angheuol mewn ardaloedd gwledig, a gellir rhoi cyfrif am hyn i ryw raddau i’r ffaith fod y gweithwyr yn fwy agored i dywydd garw wrth gyflawni’u gwaith amaethyddol. Roedd yr amodau glanweithdra hefyd yn fwy diffygiol mewn mannau gwledig nag yn y trefi.

Mae’r dyfyniadau hyn o’r papurau newydd ar gael ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol: 

https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/.

Mae gwefan papurau newydd Cymru ar-lein yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth ac mae’n cynnwys amrywiaeth o bapurau newydd Cymreig yn dyddio o 1804-1919. Bydd nodi cofnod syml yn y peiriant chwilio’n arddangos nifer o erthyglau am yr epidemig o bob rhan o’r sir.

Mae gwaddol epidemig y ffliw yn bwnc cymhleth. Fel y trafodwyd uchod, roedd yr ymateb cychwynnol yn dawelach oherwydd cyfyngiadau adeg rhyfel, ac ers hynny mae wedi cael ei ystyried fel yr ‘’epidemig anghofiedig’  (fodd bynnag, mae nifer o astudiaethau ar yr epidemig wedi ymddangos yn y blynyddoedd diwethaf – gweler y rhestr darllen pellach isod).

Yn ei lyfr ar hanes cymdeithasol Cymru, People, Places and Passions, noda Russell Davies, yn briodol, i’r haint hwn, a achosodd banig ac ofn ar raddfa nas gwelwyd mo’i debyg ers difrod colera ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ladd dros 9000 yng Nghymru.  Ac eto, braidd y ceir atsain o besychiad yn y llyfrau hanes (2015, t. 15).

Yn sgil y sylw cyfyngedig ar y newyddion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd â’r ffaith fod yr ymladd a chyflafan y brwydro yn y ffosydd, a’r rhyfel ar y môr, yn digwydd o fewn pellter agos, barnwyd bod y clefyd yn llai arwyddocaol, er iddo hawlio einioes cymaint o ddinasyddion ifanc o bob gwlad. Mae hyn wedi golygu hefyd nad yw’r epidemig, dros y blynyddoedd, wedi cael y sylw mae’n ei haeddu. Efallai y bydd argyfwng presennol Covid-19 yn arwain haneswyr i feddwl eto, ac ailasesu arwyddocâd argyfwng y Ffliw Sbaenaidd ganrif yn ôl. Mae’n amheus a allwn ni ddysgu unrhyw beth am feirws 1918 a fydd yn gallu ein helpu yn ein hymateb i’r her heddiw, ond roedd yna elfennau tebyg, gan gynnwys sut y mae epidemigion yn dod mewn tonnau gyda chyfnodau o frigo. Beth bynnag yw’r elfennau tebyg, roedd epidemig 1918-1920 yn ddigwyddiad o arwyddocâd hanesyddol a heb os mae’n haeddu ein sylw llawn ar yr adeg hon.

Gwybodaeth am Dr Lester Mason

Mae Dr Lester Mason yn ddarlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llambed.  Mae ei arbenigedd yn ymwneud yn bennaf â’r Rhyfel Mawr a gorllewin Cymru, ac yn enwedig coffau rhyfeloedd. Yn ystod ei ymchwil ôl-raddedig, ac yn wir ers hynny, mae wedi caffael gwybodaeth helaeth am y broses goffau yng ngorllewin Cymru, a’r llu o gofebau sydd gennym o hyd heddiw. Mae hyn yn cynnwys y broses benderfynu wrth wraidd eu sefydlu a’r newid yn natur ac ystyr yr iaith a’r eiconograffeg sy’n gysylltiedig â safleoedd o’r fath. Mae Dr Mason hefyd yn meddu ar wybodaeth helaeth o’r effaith a gafodd ymladd y rhyfel ar gymunedau gorllewin Cymru, ymhlith y rhai a arhosodd gartref ac ar y rhai a adawodd eu cartrefi i ymladd. Yn fwy cyffredinol, mae ei ddiddordeb mewn rhyfel a gwrthdaro wedi arwain at wybodaeth helaeth am y Rhyfel Byd Cynnar, ei hanes ac yn wir ei hanesyddiaeth gyfoethog ac esblygol.  

Nodyn i'r Golygydd

Darllen Pellach:

  • Catherine Arnold, Pandemic 1918 (Michael O’Mara, 2018)
  • Russell Davies, People, Places, and Passions: A social history of Wales and the Welsh (Cardiff: UWP, 2015)
  • Charles Rivers Editors, The 1918 Spanish Flu Epidemic (Create space, 2014)
  • Niall Ferguson, The War of the World (London: Allen Lane, 2005)
  • Lauren Spinney, Pale Rider: The Spanish Flu of 1918 and how it changed the World (Vintage, 2018)
  • Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Papurau Newydd Cymru ar-lein’: ar gael ar https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/.  [Cyrchwyd 26 Ebrill 2020]
  • Gwefan y BBC:  ‘How Spanish flu epidemic devastated Wales in 1918’ ar gael ar: www.bbc.co.uk/news/uk-wales-45577611) [Cyrchwyd 27 Ebrill 2020]

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@pcydds.ac.uk