Gwahodd academydd o’r Drindod Dewi Sant i gymryd rhan yng nghyfres gweminar Covid-19 Prifysgol George Mason
04.09.2020
Bydd yr Athro Gary Bunt o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno ei ymchwil diweddaraf mewn gweminar ryngwladol sydd wedi’i threfnu gan Ganolfan Astudiaethau Islamaidd Byd-eang Ali Vural Ak (AVACGIS) ym Mhrifysgol George Mason.
Mae Canolfan Astudiaethau Islamaidd Byd-eang Ali Vural Ak (AVACGIS) ym Mhrifysgol George Mason wedi trefnu cyfres o weminarau, dan y teitl 'Covid-19 and Muslim Religiosity', sy'n archwilio effaith Covid-19 ar amrywiol ddimensiynau bywyd crefyddol Mwslimaidd yn fyd-eang. Mae pob gweminar yn cynnwys cyflwyniad gan academydd blaenllaw sydd wedi bo dyn cynnal ymchwil ar ddylanwad Covid-19 ar feddwl, diwinyddiaeth, cyfraith, cadwraeth ac awdurdod crefyddol Mwslimaidd.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae'r Athro Bunt wedi bod yn cynnal ymchwil i ymatebion cymunedau Mwslimaidd ar lein sy'n gysylltiedig â Covid-19 a bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau yn ystod y weminar arbennig hon. Yn ei gyflwyniad, bydd yr Athro Bunt yn archwilio effaith ynganiadau Islamaidd ar-lein yng ngoleuni Covid-19, gan gynnwys sut mae sefydliadau a llwyfannau ar-lein yn ymateb yng ngoleuni cyd-destunau crefyddol a chyfryngau sy'n newid yn barhaus. Dywedodd yr Athro Gary Bunt:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y weminar hon. Mae’r gyfres o ddigwyddiadau digynsail sy’n gysylltiedig â Covid-19 wedi ennyn ffocws newydd ar weithgarwch crefyddol ar-lein yn gyffredinol, ac yn arbennig amgylcheddau Islamaidd seiber. Mae hyn wedi cynnwys archwilio sut mae cymunedau Mwslim y DU a mannau eraill wedi defnyddio’r rhyngrwyd ar nifer o lefelau, o weithgareddau crefyddol i drefnu ymatebion cymunedol. O ffrydio fideo YouTube o’r Ka’aba gwag ym Mecca i gyflwyno pregethau Ramadan drwy Instagram, mae llawer o rannau cymunedau Mwslim wedi cofleidio technolegau digidol, gan nodi cyfnod newydd mewn datblygiadau Islamaidd ar-lein.
Trwy'r drafodaeth hon, gobeithio y cawn gyfle i holi os yw Covid-19 yn cynrychioli trobwynt i Islam a Mwslemiaid ar y Rhyngrwyd. ”
Bydd y cyflwyniad, “The Allah Algorithm: Interpreting Islamic Influencers Online Responses to Covid-19”, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, Medi 8, 2020 am 2:00 PM (Amser y Dwyrain). Ceir rhagor o wybodaeth am weminar yr Athro Bunt a sut i ymuno â'r sesiwn ar wefan Canolfan Astudiaethau Islamaidd Byd-eang Ali Vural Ak (AVACGIS), Prifysgol George Mason.
Llyfr diweddaraf yr Athro Gary Bunt yw ‘Hashtag Islam: How Cyber-Islamic Environment Are Transforming Religious Authority (University of North Carolina Press, 2018). Mae mwy o wybodaeth am ei waith i'w gweld yma: https://virtuallyislamic.com/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076