INCOMING - Arddangosfa Graddedigion BA(Anrh) Dylunio Graffig
18.05.2020
Wrth i ni edrych ymlaen at agor Arddangosfa Graddedigion BA (Anrh) Dylunio Graffeg ddydd Gwener (22 Mai) - y cyntaf o Arddangosfeydd Haf Rhithwir Coleg Celf Abertawe – dywed Donna Williams, Rheolwr y Rhaglen, wrthym am y ffordd mae cyd-destun cyfredol Coronafeirws wedi herio’r tîm o staff a myfyrwyr i feddwl am ffordd newydd i ddathlu eu cyflawniadau ac arddangos eu doniau: “Fel tîm o ddarlithwyr ar raglen radd Dylunio Graffig, fel arfer mae mis Mai yn llawn paratoadau ar gyfer yr arddangosfa i raddedigion. Mae hwn, yn draddodiadol, yn gyfnod o ddisgwyl, cyffro, chwys a phenderfyniad, gyda'r ymarfer corff ychwanegol o ddringo ysgolion, marathonau argraffu a môr o chwerthin. Dyma sut rydyn ni’n mynd ati gyda’n gilydd i ddatrys her ddylunio ddwys a dechrau pwysig i yrfaoedd newydd. Mae pawb yn dwlu ar yr amser hwn. Mae'n gyffrous. Mae'n rhoi boddhad mawr i ni. Mae'n ddathliad o'r hyn a gyflawnwyd ond hefyd o ddyheadau i'r dyfodol.
“Byddai neb wedi gallu rhagweld y byddem, o fewn cyfnod o 24 awr, wedi canslo ein taith i Efrog newydd, wedi rhoi ein gwaith o’r neilltu, wedi casglu printiau'n gyflym o'r ystafell argraffwaith, wedi diffodd y cyfrifiaduron Mac, wedi gwagio'r oergell a symud o'n stiwdios hyfryd.
“Ni allai neb fod wedi rhagweld y byddai’r misoedd rhwng Mawrth a Mai yn gyfnod pan fyddai cymaint o sioc, anghrediniaeth, tristwch, siom, rhwystredigaeth, dioddefaint a cholled.
“Nid dyna beth yr oeddem wedi ei ragweld, ond roedd yn golygu bod rhaid wrth weledigaeth newydd a hynny ar fyrder. Sut y gallwn gyflawni ein nodau mewn ffyrdd gwahanol? Efallai y gallem wneud pethau'n well byth? Mae dylunwyr graffig yn ddatryswyr problemau wrth reddf ac ni fu rhaid i’r un dosbarth graddio erioed o’r blaen baratoi ar gyfer eu dyfodol gyda mwy o bwrpas, gweledigaeth, angerdd, egni a gobaith.
"Fel llawer o bobl, roedd gofyn i bawb godi’r her yng nghanol cymaint o ddioddefaint. Hoffwn i fynegi fy malchder yn ein myfyrwyr, sydd wedi dod at ei gilydd, gan greu Rhith-ystafell Trydedd Flwyddyn, a chefnogi ei gilydd a bod yn hael ac yn gefn i’w gilydd.
“Collodd Linnette Cruz, mam arbennig, garedig i un o'n myfyrwyr yn y drydedd flwyddyn, ei brwydr yn erbyn Covid 19 ar 14 Ebrill 2020. Cafodd y gronfa codi arian i fyfyrwyr ar gyfer arddangosfa wreiddiol, ffisegol INCOMING ei hailgyfeirio i helpu'r teulu Cruz ac fel tîm o staff roeddem yn falch dros ben o weld y weithred dosturiol hon".
Mae'r sioe newydd bellach wedi'i throi’n brofiad ar-lein sy'n cynnig cyfle ehangach i arddangos y gwaith ar draws llwyfan byd-eang, ar gyfer y diwydiant, cyflogwyr, teulu a ffrindiau. Dyluniwyd delwedd brand gan Lois James ac er ei bod wedi'i chynllunio cyn y cyfyngiadau symud, mae'n ymddangos bod y ddelwedd symudol yn crisialu hwyliau pobl ar hyn o bryd a'r cyfleoedd newydd o ran yr hyn sy'n bosibl.
Meddai Bethany Curtis, sy'n fyfyriwr yn y drydedd flwyddyn, "Er gwaetha’r cyfyngiadau symud, mae pawb wedi parhau, yn ddarlithwyr a'r myfyrwyr ... ar wahân ond yn bendant gyda'i gilydd yn eu calonnau."
Chloe-Ann Willis hefyd myfyriwr trydedd flwyddyn: "Rydym ni yn nosbarth 2020 wedi cael ein gwala o lwyddiant a siom, ac mae pob un o’r rhain wedi dod â ni'n nes at ein gilydd ac wedi ein gwneud ni’n deulu. Wrth i ni gamu i mewn i’r byd dylunio, byddwn yn parhau i gefnogi ein gilydd drwy gydol ein bywydau. Rydym wedi cwblhau ein gradd o dan bwysau eithafol, ac mae hynny wedi ein paratoi i fynd i’r afael â pha galedi bynnag y byddwn yn ei wynebu yn ein gyrfaoedd dylunio. Ni yw dosbarth 2020 ac ni yw INCOMING."
Bydd yr arddangosfa'n rhoi sylw i amrywiaeth o sgiliau, o brosiectau personol i waith dylunio sy’n barod i'r diwydiant. Byddwch yn gweld prosiectau sy'n amrywio o roi gwybod i ni am effaith Fibromyalgia, Dylunio Brand ar gyfer busnesau sy'n dechrau, prosiectau Dylunio Cynaliadwy, Graffeg Symud a Gwybodaeth. Edrychwch ar y prosiect deniadol a ddeilliodd o bobl yn gwau i helpu gyda phryder yn ystod y cyfyngiadau symud, ond wedyn datblygodd i fod yn Ddyluniad Gwasanaeth ar gyfer babanod cynamserol mewn ysbyty yn Birmingham. Mae dylunio graffig yn llawer mwy nag estheteg. Mae'n ymwneud â dylunio effeithiol sydd â'r pŵer i'w hysbysu gydag eglurder a chreu newid cadarnhaol.
Gobeithiwn y bydd pob un ohonoch yn mwynhau ansawdd ac amrywiaeth y prosiectau ac yn gwerthfawrogi'r hyn y mae wedi'i olygu i'r myfyrwyr gyflawni'r arddangosfa hon. Rwy'n dymuno'n dda i chi wrth i ni barhau i ddychmygu dyfodol newydd a chofio nad yw gwytnwch yn rhywbeth y gallwn ei droi ymlaen a’i ddiffodd pan fydd eisiau, mae'n rhywbeth rydyn ni’n sylwi arno ar ddiwedd rhywbeth mawr ac mae’n rhywbeth sydd gan bob un ohonom. Croeso i'n sioe graddedigion ar 22.05.2020.
Bydd gwaith y myfyriwr hefyd yn rhan o rith-arddangosfa haf Coleg Celf Abertawe ym mis Gorffennaf.
Llun y grwp yn gynharach yn y flwyddyn.
Rhagor o wybodaeth
Donna Williams
BA (Anrh) Dylunio Graffig
https://www.uwtsd.ac.uk/ba-graphic-design/
donna.williams@pcydds.ac.uk
Tudalen Facebook
https://www.facebook.com/graphicdesignswansea/Instagram