Llwyddiant dwbl i raddedigion Dylunio Patrwm Arwyneb yng Ngwobrau New Designer
22.09.2020
Llongyfarchiadau i raddedigion Dylunio Patrwm Arwyneb Coleg Celf Abertawe Grace Exley a Zoe Noakes am eu cynigion buddugol yng Ngwobrau New Designer y flwyddyn hon.
Enillodd Zoe Noakes y Wobr ‘Colour in Design’, a dywedodd Marianne Shillingham, Cyfarwyddwr Creadigol Dulux: “Zoe rwyt ti’n gwneud bywyd yn well gyda lliw,” – ardystiad anhygoel gan ffigur mor ddylanwadol yn y Byd Dylunio sydd â chymaint o effaith ar ein holl fywydau trwy liw.
Enillodd Grace Exley y Wobr ‘Wilko Retail Design’, a dywedodd y beirniaid eu bod wedi ei dewis hi am ei gallu gwych gyda lliw, ei dyluniadau trawiadol yn gweddu’r llawysgrifen ar gyfer eu brand a chwsmeriaid.
Hefyd, cafodd Heather Kelman ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Harlequin ochr yn ochr â Jessica Thomas, a gafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Dylunydd Newydd y Flwyddyn ‘Creative Conscience’. Mae’r ddwy yn aros ymlaen yng Ngholeg Celf Abertawe ar gyfer eu Meistr mewn Dylunio Patrwm Arwyneb.
Meddai Jessica: “Roedd bod yn rhan o Wobrau New Designers 2020 yn gyfle cyffrous, roedd gwybod fy mod ar restr fer y 5 gorau ar gyfer y wobr Dylunio Amgylcheddol yn gyrhaeddiad aruthrol.”
Meddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen Georgia McKie: “Neidiodd y rhaglen Dylunio Patrwm Arwyneb ar y cyfle i gymryd rhan yng Ngwobrau ND 2020. Mae New Designers yn rhan mor bwysig o galendr blynyddol Graddedigion Dylunio, ac mae’n cael ei ystyried yn ddefod newid byd. Mae myfyrwyr yn targedu hyn wrth iddynt fynd trwy gyfnodau ein rhaglen, a rhaglenni tebyg yn genedlaethol a rhyngwladol. Maent yn gwneud cyflwyniad i’n tîm i gymryd rhan ac mae’r rheiny sy’n cael eu dewis yn hyrwyddo eu gwaith i gynulleidfa fyd-eang enfawr yng nghartref y digwyddiad, sef Canolfan Dylunio Busnes Llundain.
Pan gafodd y digwyddiad ei ganslo roedd y golled i’r myfyrwyr sy’n graddio yn amlwg. Rydym mor hapus bod dylunwyr newydd 2020 wedi cael eu cymell cymaint gan y cyfleoedd briff byw anhygoel oedd ar gael gan amrywiaeth eang o gyflogwyr a chydweithredwyr uchel eu parch – o Liberty i Wilko. Mae cyflogadwyedd yn ffocws enfawr ar ein rhaglen greadigol a blaengar.
“Rydym yn hyderus y bydd gan ein myfyrwyr yr arfau i ffeindio eu ffordd, hyd yn oed yn y cyfnod heriol hwn. Fel tîm, rydym yn falch o’r gwydnwch maent wedi’i ddangos ac mae hyn wedi ein sbarduno ninnau. I ddylunwyr newydd 2020, dyma oedd eu prosiect dylunio cwbl annibynnol cyntaf. Roedd gweld ffrwyth eu llafur yn cael ei gydnabod ar 4 rhestr fer yn destament i’w perthnasedd i’r hyn sydd ar y byd dylunio ei eisiau nawr, i’w set sgiliau a gallu unigol, ac i’r addysg sydd wedi caniatáu iddynt ffynnu yma yng Ngholeg Celf Abertawe.
“Rydym mor falch o’n dau enillydd, Grace Exley a Zoe Noakes, a gafodd eu llongyfarch gan y panel beirniadu uchel eu parch am eu ceisiadau buddugol anhygoel. Mae’r ddwy wedi gweithio’n ddiflino drwy’r anawsterau a wynebwyd dros semester olaf eu hastudiaethau, maent yn llwyr haeddu’r gymeradwyaeth hon. Roedd clywed sylwadau’r beirniaid wedi rhoi llawer o foddhad i ni. Mae’r ffaith fod casgliad Grace yn tarddu o’i chariad at dirlun Cymru yn gwneud y casgliad hwn ar gyfer Wilko yn fwy arbennig fyth!
Roedd y cyflwyniadau Gwobrau ar-lein ar 17 Medi yn fwy teimladwy ar ôl y brif araith ysgogol ac adfyfyriol gan Luke Pearson o stiwdio ddylunio Pearson Lloyd.
Meddai: “Mae Dylunio bellach yn hollbresennol ym mywydau’r rhan fwyaf o bobl, ac yng ngeirfa’r rhan fwyaf ohonom. Mae Dylunio yn arf, a ddefnyddir bellach gan fyd busnes i ddatblygu methodoleg strategol i ddatrys problemau, felly mae e wedi mynd tu hwnt i ffisigolrwydd y gwrthrych a nawr mae dylunio’n cynrychioli ymagwedd a ffordd o feddwl”
Siaradodd am “alwad i’r gad” yn dweud “Efallai bod dylunio’n gyfrifol, yn rhannol, am y difrod rydym wedi’i wneud i’r blaned, ond hefyd mae’n gallu datrys llawer o’r problemau. Yn ddylunwyr, mae gennym gyfrifoldeb sy’n llawer mwy na dim ond cynhyrchu syniadau. Mae’n rhaid i ni wneud hyn, wrth gwrs, ond rhaid i ni ystyried effaith yr hyn a wnawn yn ystod oes y cynnyrch, ond hefyd yn nes ymlaen yn ei oes. Rhaid i ni ystyried gwerth o fewn cyd-destun ehangach byd meidraidd. Wrth i chi adael addysg a chofleidio’r byd newydd hwn ni chaiff yr heriau hyn eu crybwyll fel gwawdiau pesimistaidd ond yn hytrach yn alwad i’r gad, ac i ddangos pa mor angenrheidiol ydych chi a’ch creadigrwydd i ddyfodol planed gynaliadwy y gellir ei mwynhau.”
“Rydych yn dechrau eich gyrfaoedd proffesiynol ar amser eithriadol o bwysig ond o edrych arno drwy’r lens iawn, ac o’r ongl iawn, mae’n amser eithriadol o gyffrous. Mae’r byd yn y broses o symud ar ei echel am lawer o resymau. Nawr, mae gennym set o broblemau go iawn sy’n galw am frwdfrydedd, egni, rhannu dialogau a syniadau i’w datrys. Y foment hon, rydych wedi’ch amgylchynu gan yr egni a’r tosturi hwn a gynhyrchir gennych chi a’ch cymheiriaid. Dyma’r cyntaf mewn nifer o gamau ar daith gyffrous ac ystyrlon i chi gyd ac rwy’n siŵr y bydd New Designers yn darparu, fel bob tro, man lansio bythgofiadwy ar gyfer eich gyrfaoedd.”
Meddai Dr Pete Spring, Cyfarwyddwr Portffolio Academaidd Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf PCYDDS: “Rwy’n eithriadol o falch o’r canlyniadau hyn ac o lwyddiant, sgil a phroffesiynoldeb parhaus ein myfyrwyr.
“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bwysig i bawb, nid dim ond pobl ifanc, ddeall bod Dylunio yn sylfaen i nifer di-rif o ddiwydiannau, rhai newydd a rhai mwy sefydledig, a chydnabod bod y dalent anhygoel sy’n cael ei thyfu a’i meithrin mewn amgylchedd ysgol gelf yn ategu’r ffyrdd rydym yn dylunio a gwneud dyfodol pawb.
“Mae’r gwydnwch ac ymrwymiad mae ein myfyrwyr a’m cydweithwyr yn eu dangos yn fy syfrdanu o hyd, ac rwy’n falch i allu sefyll tu ôl i bawb a gwylio wrth iddynt ddod drwy’r cyfnod helbulus hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at ddathlu rhagor o lwyddiannau.”