Llyfr newydd yn cynnig cytgord fel ffordd o fynd i’r afael â phroblemau’r byd
06.11.2020
Mae llyfr newydd sy’n cynnwys traethodau gan ffigurau blaenllaw, yn eu plith y Fonesig Ellen MacArthur a Helen Browning OBE, prif weithredwr Cymdeithas y Pridd, yn cynnig egwyddor a allai ddatrys ystod enfawr o broblemau mwyaf y byd, o newid yn yr hinsawdd i dlodi. Yr egwyddor honno yw cytgord.
Mae’r llyfr, sy’n dwyn y teitl The Harmony Debates: Exploring a practical philosophy for a sustainable future, wedi’i gyhoeddi gan Wasg Canolfan Sophia mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy.
Mae’n cynnwys 43 o benodau gan 47 awdur o gefndiroedd amrywiol, yn cynnwys John Sauven, pennaeth Greenpeace UK, y gwyddonydd Rupert Sheldrake, a’r cyfansoddwr John Eliot Gardiner. Mae pob un yn mynd i’r afael â’r thema cytgord o ongl wahanol. Mae MacArthur, er enghraifft, yn trafod cysyniad yr economi gylchol, lle mae ailddefnyddio deunyddiau a lleihau gwastraff yn werthoedd craidd, tra bod Sheldrake yn mynd i’r afael â’r cysyniad ysbrydol – a ddilysir yn gynyddol gan wyddoniaeth – nad yw’r cosmos yn beiriant anymwybodol, ond ei fod yn debycach i organeb fyw.
Yn sail i’r cysyniad hwn, ac yn rhedeg trwy’r holl draethodau, mae’r cynnig bod popeth wedi'i gysylltu – o systemau naturiol i’n hymwybyddiaeth sy’n ymddangos ar wahân, ac y gall difrod i un rhan niweidio’r cyfan.
Mae’n dilyn y gellir gwella unrhyw system (megis amaeth, yr economi, yr amgylchedd, er enghraifft) trwy greu cytgord oddi mewn iddi – er enghraifft, trwy sicrhau nad yw ffasiwn cyflym yn ymelwa ar weithwyr ym mhen draw’r byd, neu nad yw arferion ffermio yn niweidio planhigion a bywyd gwyllt brodorol.
Dywedodd golygydd y llyfr, Dr Nicholas Campion, Athro Cysylltiol mewn Cosmoleg a Diwylliant yn y Drindod Dewi Sant, fod dod â’r traethodau hyn at ei gilydd yn brofiad ysbrydoledig.
“Un thema sy'n dod i'r amlwg yw bod angen llai o arianwyr a bancwyr yn y byd rydyn ni'n ei greu nawr - mae angen i ni fesur llwyddiant yn wahanol, o ran cyflawniad personol, a pharchu cyfraniad pobl fel athrawon a gweithwyr gofal,” meddai.
“Thema arall yw’r syniad o gael ein cyfareddu gan natur – y syniad o werthfawrogi natur trwy ei brofi, ymgolli’n llwyr mewn dolydd a chymoedd a choedwigoedd. Rydyn ni wedi colli’r gallu i weld pa mor hudolus yw byd natur a sut i deimlo ein bod yn rhan annatod ohono.”
Mae’r safbwyntiau yn y llyfr yn eang. Ysgrifennodd Sneha Roy, myfyriwr doethuriaeth yn y Drindod Dewi Sant, sy'n arbenigo yng nghyfranogiad menywod mewn mudiadau crefyddol, arweinyddiaeth, rheoli gwrthdaro a deialog rhyng-grefyddol, y bennod o'r enw Rethinking Women and Leadership in Myanmar: a prerequisite of a harmonious society.
Meddai: “Er 2013 rwyf wedi bod yn gweithio ym maes prosesau gwneud heddwch a deialog, a hyd yn oed heddiw, rwy’n ei weld yn ddifyr y modd y mae cynifer o ffyrdd o ddiffinio, deall, ymarfer, adeiladu a dadadeiladu 'cytgord'.
“Pan drafododd yr Athro Campion ei syniadau rhagarweiniol gyda mi, roeddwn i wrth fy modd i allu cyfrannu. Ar y pryd, roeddwn i'n gweithio ar fy ymchwil am ddoethuriaeth gyda lleianod Bwdhaidd ym Myanmar, ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddiddorol archwilio’r cysyniad o safbwynt seiliedig ar rhyw mewn rhanbarth nad yw wedi'i hastudio rhyw lawer - Myanmar. Yn fy mhennod, rwy’n dadlau pam ei bod yn bwysig cynnwys menywod mewn prosesau gwneud heddwch ffurfiol ar gyfer cymdeithas gytûn, a sut y gall cytgord fod yn gynaliadwy dim ond pan fydd yn gynhwysol.”
Fe wnaeth Alan Ereira, cynhyrchydd rhaglenni dogfen arobryn ar radio a theledu gyda’r BBC, sydd wedi cydweithio ar nifer o lyfrau hanes gyda chyn seren Monty Python Terry Jones ac sy’n adnabyddus am ei ddwy ffilm am bobl Kogi yn Colombia, ddychwelyd at y pwnc hwn ar gyfer ei gyfraniad ef:
“Rwyf wedi cael y fraint o gael fy nhynnu, dros 30 mlynedd, i fyd meddyliol cyn-Columbiaidd y Kogi,” meddai. “Mae hyd yn oed yn fwy anghysbell ac yn anoddach cael mynediad iddo na’u byd materol, mynydd trofannol rhewlifol serth. Credant iddynt gael eu gwneud fel pont rhwng ymwybyddiaeth drosgynnol a sylwedd materol, gyda'r dasg o ddal y cydbwysedd sy'n caniatáu i'w gofod cymhleth ffynnu a chadw'r byd yn fyw. Gwnaethon nhw ymddiried ynof i i ddweud wrthym ni ‘frodyr iau’ ein bod yn gwneud eu gwaith yn amhosibl, gan fygwth popeth.”
Yn ogystal ag ysgogi’r meddwl, mae’r llyfr yn cynnig ffyrdd ymarferol y gall cytgord helpu i wella’r byd – er enghraifft, trwy gyfrifo costau llawn, sy’n ystyried nid yn unig elw ond hefyd gost gudd gweithredoedd busnes, megis achosi llygredd neu ormesu gweithwyr.
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a ysbrydolodd greu’r llyfr: ef yw Noddwr Brenhinol y Drindod Dewi Sant ac yn 2010 cyhoeddodd lyfr o'r enw Harmony - A New Way of Looking at our World, a ddadleuodd fod angen athroniaeth arweiniol ar y byd er mwyn sicrhau cynaliadwyedd - a gallai'r cytgord hwnnw, egwyddor a geir mewn diwylliannau ledled y byd ac mewn gwyddoniaeth fodern - gyflawni'r rôl honno.
Penderfynodd y Drindod Dewi Sant gynnal ymchwil i gytgord a sut y gellid cymhwyso’r egwyddor yn ymarferol yn y byd. Y canlyniad oedd ffurfio Athrofa Cytgord yn y brifysgol yn 2019. Mae'r Athrofa’n cynnal cynhadledd flynyddol ar y thema cytgord ar ei champws yn Llambed ac roedd y gwaith hwn yn bwydo'n naturiol i greu llyfr ar y pwnc.
Yn ôl Dr Campion, sydd yn gyfarwyddwr Athrofa Cytgord, ni allai hyn fod wedi dod ar adeg fwy tyngedfennol.
“Yr argyfwng mawr nesaf sydd ar ein gwarthaf yw newid yn yr hinsawdd a pho fwyaf y gallwn gydbwyso cylchoedd naturiol i arafu hynny, a pho fwyaf y gallwn reoli ein systemau cymdeithasol yn well, a pho fwyaf y gallwn eu rheoli’n decach, y lleiaf o darfu fydd yn sgil newid yn yr hinsawdd,” meddai.
“Rydw i eisiau i bobl ddeall bod delio â phroblemau amgylcheddol yn golygu delio â natur ond hefyd â chymdeithas a busnes ac addysg – mae oll yn rhan o’r un set o broblemau a datrysiadau.”
Mae’r cyfrannwr Tony Juniper CBE, Amgylcheddwr a chyd-awdur Harmony gyda’i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ian Skelly, yn cytuno bod y llyfr yn amserol: “Mae ein byd ar drobwynt ac mae taer angen syniadau newydd i lunio dyfodol mwy diogel a chynaliadwy,” meddai. Mae The Harmony Debates yn dwyn ynghyd ffordd wahanol iawn o edrych ar yr heriau sydd o’n blaen, a’r atebion iddynt, gan annog pobl i feddwl yn ddyfnach ac yn wahanol am y dewisiadau y gallem eu gwneud.”
https://www.uwtsd.ac.uk/cy/yr-athrofa-cytgord/
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk