Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol WestJet i annerch myfyrwyr yn ystod lansiad trafodaethau gydag arbenigwyr diwydiant byd-eang
18.11.2020
Bydd Ed Sims, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol WestJet, yn annerch myfyrwyr Teithio, Twristiaeth a Digwyddiadau yn Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol ddydd Iau, Tachwedd 19 am 3pm.
Dyma fydd y cyntaf mewn cyfres ar-lein o Ddigwyddiadau Rhwydweithio sy’n hwyluso Cwrdd ag Arweinwyr a Graddedigion, a drefnir ar gyfer myfyrwyr gydag arweinwyr diwydiant o’r Sector Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau Byd-eang.
Y nod yw cysylltu myfyrwyr ag arbenigwyr ym myd diwydiant all roi cipolwg unigryw iddynt ar eu maes dewisol, gan rannu cyngor ac arbenigedd trwy fforymau a digwyddiadau digidol byw.
Meddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen, Jacqui Jones: “Trwy ein cysylltiadau hirsefydlog â’r diwydiant, mae’n hyfryd cael siaradwr mor wych yn y ddarlith ar-lein gyntaf. Bydd hyn yn hybu cyflogadwyedd graddedigion trwy gydweithio academaidd a diwydiannol, gan ddarparu cyfleoedd i rwydweithio gydag arbenigwyr byd-eang ac i gael cysylltiadau â nhw.
Ac yntau wedi’i eni a’i fagu yn Abertawe a’i addysgu yn Ysgol Gyfun yr Esgob Gore, mae Ed Sims, trwy gydol ei yrfa yn y diwydiant awyrennau, wedi dangos bod pwyslais ar ddatblygu pobl a chyfathrebu tryloyw yn gamau ymlaen at lwyddiant. Fel Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol, sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol y cwmni a’r gweithrediadau beunyddiol, mae Ed yn arwain gweithwyr WestJet gan roi pwyslais ar hyn a’r gwerthoedd proffesiynol atebolrwydd, gwydnwch, dilysrwydd, uchelgais a gostyngeiddrwydd.
Mae ei hyder yng nghryfder yr egwyddorion arweiniol hyn yn seiliedig ar ei record.
Ymunodd Ed â WestJet yn 2017 fel Is-Lywydd Gweithredol, Masnachol a daeth yn Llywydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2018. Arweiniodd WestJet o golled chwarterol cyntaf y cwmni mewn 52 chwarter yn olynol, a’i gyntaf ef fel Prif Swyddog Gweithredol, i sefyllfa o wneud elw parhaus a sylweddol.
O dan ei arweinyddiaeth ef, cymerodd WestJet gamau breision ymlaen yn ei esblygiad o gludydd cost isel o le i le, i fod yn gwmni awyrennau â rhwydwaith byd-eang, gyda dyfodiad y 787 Dreamliners cyntaf a chyflwyno gwasanaeth premiwm a chaban busnes. Mae WestJet wedi parhau i gael ei gydnabod fel Hoff Gwmni Awyrennau Canada (TripAdvisor 2017/2018/2019) ac fel cwmni sy’n rhagori’n genedlaethol o ran diogelwch ac effeithlonrwydd gweithredol, gan gael ei enwi ymhlith y 10 uchaf o gwmnïau awyrennau Gogledd America o ran prydlondeb yn 2019 (Cirium).
Yn 2019, arweiniodd Ed y sefydliad trwy’r cytundeb ecwiti preifat mwyaf yn hanes y diwydiant awyrennau wrth i Onex brynu WestJet.
Dechreuodd Ed yn y diwydiant teithio yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi mwynhau gyrfa amrywiol yn rhychwantu dros 30 o flynyddoedd ym maes twristiaeth a’r diwydiant awyrennau ar draws marchnadoedd Ewrop, Awstralasia a Gogledd America.
Cyn symud i WestJet, bu Ed mewn uwch swyddi arwain masnachol a gweithredol gyda Tui, Thomas Cook a Virgin Groups a bu’n gwasanaethu am ddeng mlynedd gydag Air New Zealand lle bu’n arwain busnes rhyngwladol awyrennau llydan. Cyn ymgymryd â’i swydd gyda Westjet bu’n gwasanaethu am chwe blynedd fel Prif Swyddog Gweithredol cwmni Airways, darparwr gwasanaeth awyrlywio Seland Newydd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk