MADE Cymru yn hybu ei arbenigedd mewn peirianneg glyfar diolch i benodiad newydd
21.09.2020
Mae Dr Akash Gupta (PhD) wedi ymuno â thîm MADE Cymru fel Swyddog Ymchwil ar gyfer y prosiect Peirianneg Dylunio Uwch (ADE). Bydd yn benodol gyfrifol am ddarparu atebion peirianyddol deallus i fusnesau bach a chanolig eu defnyddio i lywio eu ffordd drwy Ddiwydiant 4.0.
Mae Akash yn beiriannydd awyrofod gydag arbenigedd deuol mewn dadansoddi rhifiadol cyfrifiadurol a thechnoleg rocedau a’r gofod. Ar ôl gweithio am flwyddyn mewn Ymchwil a Datblygu ar gyfer cwmni olew a nwy, penderfynodd Akash fynd ar drywydd doethuriaeth mewn peirianneg fecanyddol. Ymunodd â Chanolfan Gweithgynhyrchu Arbrofol ac Arloesol Cymru fel ymchwilydd doethurol, lle bu'n gweithio am dair blynedd i liniaru'r risg sy'n gysylltiedig â mewnblaniadau meddygol pwrpasol 3D wedi'u hargraffu drwy ddefnyddio technegau ystadegol ar y cyd â dadansoddiad rhifiadol.
Dywedodd Akash am ei rôl newydd, "Mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn is-set amlddisgyblaethol sy'n tynnu gwahanol ffrydiau peirianneg yn un. Nid yw peirianneg am yn ôl, technegau dylunio algorithmig gan ddefnyddio VR/AR, dysgu peirianyddol, AI ac ati yn bethau’r dyfodol mwyach. Maen nhw’n integreiddiol ac yn cael eu cymhwyso mewn rhaglenni go iawn ar hyn o bryd. Felly, mae'n bwysig iawn i beirianwyr yn y dyfodol fod yn dda, os nad y gorau, mewn sawl disgyblaeth ar yr un pryd i ddatrys problemau yn y byd sydd ohoni. Mae MADE Cymru nid yn unig yn darparu'r atebion peirianneg deallus hyn i fusnesau bach a chanolig ond hefyd yn addysgu mentrau ar sut y gallan nhw integreiddio Diwydiant 4.0 yn eu hateb(ion) presennol. Rwy'n credu fel peiriannydd sydd â phrofiad ym maes awyrofod, meddygol ac olew a nwy, bod hyn yn rhoi cyfle gwych i mi ddatblygu fy sgiliau ymhellach mewn amrywiol feysydd eraill."
Meddai Lloyd Stoker, Cyfarwyddwr Technegol MADE Cymru, ''Mae'n bleser croesawu Akash i dîm MADE Cymru. A minnau wedi gweithio ochr yn ochr ag ef dros gyfnod ei PhD gallaf gadarnhau y bydd yn dod â sgiliau unigryw i'r prosiect ADE. Mae Akash yn beiriannydd talentog, manwl sy'n rhagori mewn dadansoddi cyfrifiadurol a bydd yn cyfoethogi arlwy'r rhaglen yn sylweddol.''
Y tu allan i'r gwaith, mae Akash wrth ei fodd â chwaraeon, yn enwedig criced, pêl-droed, tenis bwrdd, pêl-fasged, sboncen a thennis. Mae hefyd yn mwynhau teithio ac astudio diwylliant ac amrywiaeth ledled y byd. Mae tîm MADE Cymru hefyd wedi sylwi fod Akash yn gogydd talentog - ac maen nhw'n edrych ymlaen at gael profi ei ddanteithion!
Mae MADE Cymru yn gyfres o dair rhaglen sydd wedi'u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 gydag ymchwil a datblygu cydweithredol a gwella sgiliau. Mae wedi'i ariannu'n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae prosiect ADE yn cynnig cyfle i fusnesau gweithgynhyrchu bach a chanolig ledled Cymru gydweithio ag arbenigwyr i gael gafael ar dechnolegau, technegau, deunyddiau a sgiliau gweithgynhyrchu uwch er budd eu cwmni. Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â busnesau i chwilio am ffyrdd newydd arloesol o ddatblygu a gweithgynhyrchu cynhyrchion newydd ac i ddarganfod a gweithredu prosesau newydd.
I gael gwybodaeth am sut y gall MADE Cymru helpu llywio eich busnes chi trwy Ddiwydiant 4.0, cysylltwch â ni isod neu anfonwch e-bost at MADE@uwtsd.ac.uk