Microsoft a’r Drindod Dewi Sant yn rhannu gweledigaeth ar gyfer trawsnewid digidol mewn addysg uwch
23.11.2020
Amcan Cytundeb Nodau Cyffredin rhwng Microsoft a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw sicrhau bod gan fyfyrwyr y Brifysgol y sgiliau digidol diweddaraf.
Y Brifysgol yw'r gyntaf yng Nghymru ac un o dair yn y DU sydd wedi llofnodi Cytundeb Nodau Cyffredin â Microsoft i alluogi’r Drindod Dewi Sant i sianelu offer ac adnoddau blaenllaw Microsoft i drawsnewid technoleg y Brifysgol a gwella dysgu ac addysgu ac i ymgorffori’r arloesi hwn yn ei chwricwlwm.
Bydd myfyrwyr yn elwa o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar feysydd megis cyfrifiadura cwmwl, deallusrwydd artiffisial a gwyddor data, tra byddant hefyd yn manteisio ar LinkedIn Learning, Ysgol Fusnes Deallusrwydd Artiffisial Microsoft a chyrsiau dysgu technoleg, GitHub ac ardystiadau diwydiant. Bydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr feithrin sgiliau ac ardystiadau technegol hanfodol megis cydweithredu, cyfathrebu, creadigrwydd a meddwl beirniadol.
Mae’r gymdeithas wedi gweld symudiad enfawr tuag at dechnoleg yn ei hymateb i'r Coronafeirws, gan alluogi pobl i weithio gartref, busnesau i symud eu gwasanaethau ar-lein yn ogystal â galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad cymdeithasol â'i gilydd. Ond, hyd yn oed cyn i'r pandemig daro, roedd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn cael ei yrru gan ddatblygiadau mewn technoleg, gan drawsnewid y gweithle, cynyddu symudedd swyddi a gosod galwadau newydd ar gymdeithas.
Meddai Barry Liles, OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes yn Y Drindod Dewi Sant: "Yn Brifysgol, rydyn ni wedi ymrwymo i roi'r sylfaen orau bosibl i'n holl fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae angen i fyfyrwyr heddiw gael eu grymuso gan fynediad at dechnolegau, profiadau a chyfleoedd dysgu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gynyddu eu cyfleoedd a'u llwyddiant yn y dyfodol.
"Er bod angen o hyd i fyfyrwyr ddysgu sgiliau megis cydweithredu, cyfathrebu, meddwl beirniadol a chreadigrwydd, mae hefyd angen sgiliau digidol arnynt i ffynnu mewn economi sy’n mynd yn fwy ac yn fwy digidol a hybrid.
"Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth y DU, erbyn 2025, y disgwyl yw y bydd dros 149 miliwn o swyddi technoleg newydd ar gael mewn meysydd megis datblygu meddalwedd, cwmwl, data, deallusrwydd artiffisial a diogelwch. Mae technoleg hefyd yn trawsnewid pob sector o'r economi o weithgynhyrchu i ddarparu gwasanaethau. Mae'n hanfodol, felly, fod prifysgolion yn dilyn hynt newidiadau’r amgylcheddau hyn er mwyn sicrhau bod gan eu myfyrwyr y doniau a'r hyfforddiant i gefnogi'r anghenion hyn a hyrwyddo twf economaidd.. "
Meddai Chris Rothwell, Cyfarwyddwr Addysg Microsoft UK: "Mae lansio ein rhaglen Cytundeb Nodau Cyffredin yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Microsoft i Academia i roi i fyfyrwyr yr wybodaeth, y cymwyseddau a'r meddylfryd sydd eu hangen i lwyddo mewn byd sy'n mynd yn fwy ac yn fwy digidol ac sy'n newid yn gyflym. Rydyn ni’n yn falch o ddathlu'r cytundeb â’r Drindod Dewi Sant. Mae Microsoft a’r Drindod Dewi Sant yn rhannu gweledigaeth i rymuso myfyrwyr a sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i ysgogi arloesi ar raddfa fyd-eang."
Ychwanegodd James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Y Drindod Dewi Sant: "Bydd y cytundeb hwn â Microsoft yn galluogi’r brifysgol i ddarparu cynnwys digidol arloesol i'n myfyrwyr mewn ffordd syml iawn. Bydd cyrsiau ar y cwmwl, Deallusrwydd Artiffisial a'r data sydd ar gael i'n myfyrwyr, fel y gellir eu paratoi ar gyfer rolau a swyddi newydd nawr ac yn y dyfodol. Mae hynny'n golygu ymgorffori amrywiaeth o gyrsiau technegol ac annhechnegol gan Microsoft Learn yn ein cwricwlwm i roi achrediad iddynt gan Microsoft yn ogystal â’r Drindod Dewi Sant.
"Mae Microsoft a’r Drindod Dewi Sant yn rhannu gweledigaeth glir a nodau cyffredin i rymuso ac uwchsgilio ein myfyrwyr, yn enwedig mewn Sgiliau Digidol, i wella eu cyflogadwyedd, cefnogi'r gwaith o adfer swyddi ar ôl COVID yng Nghymru drwy ddatblygu sgiliau lefel uchel a chyflwyno dulliau dysgu arloesol a hyblyg.
"Mae'r Brifysgol eisoes yn defnyddio nifer o'r adnoddau Microsoft sydd ar gael, gan gynnwys yn fwyaf diweddar, Rhaglen Addysgwyr Microsoft Learn sy'n darparu sgiliau sy'n barod i'r diwydiant yn y byd go iawn ar gyfer myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn y meysydd lle mae’r galw mwyaf, sef y Cwmwl / Deallusrwydd Artiffisial / Power Platform.
"Rydyn ni hefyd yn galluogi'r holl staff i fanteisio ar LinkedIn Learning, gyda chyrsiau gan arbenigwyr yn y diwydiant yn ein helpu ni i wella galluoedd digidol a sgiliau technegol staff. Bydd y Brifysgol hefyd yn ceisio darparu hyfforddiant ac ardystiad i staff technegol drwy Gytundeb Sgiliau Menter Microsoft a hyrwyddo rhaglenni Microsoft ar gyfer Myfyrwyr megis Ysgol Fusnes Deallusrwydd Artiffisial, Llysgenhadon Myfyrwyr a Chwpan Imagine.
"Bydd y cytundeb hefyd yn ein galluogi i archwilio ymhellach adferiad a gwydnwch ar ôl Covid – gan ei gwneud hi’n bosibl defnyddio dulliau arloesol a hyblyg o ddysgu ar-lein ar gyfer ailsgilio a gwella sgiliau'r gweithlu ar ôl Covid".
"Ym mhob diwydiant ac mewn marchnadoedd ledled y byd, rydyn ni’n gweld mwy o alw am ddoniau a sgiliau a mwy a mwy yn cael eu cyflogi ar draws ein partneriaid, ein cyflenwyr a'n cwsmeriaid," meddai Anthony Salcito, Is-lywydd Addysg ym Microsoft. "O brofiad, gwyddom fod gweithio ochr yn ochr â sefydliadau addysgol blaenllaw a systemau addysgol y byd i ddarparu mynediad at adnoddau sgiliau, cynnwys dysgu perthnasol yn seiliedig ar y diwydiant ac atebion asesu yn fformwla fuddugol i fyfyrwyr, y gweithlu ac yn gyrru'r economi ddigidol ledled y DU."
I gloi, meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r Brifysgol a Microsoft yn rhannu uchelgais cyffredin i rymuso ein myfyrwyr drwy eu galluogi i ddatblygu'r sgiliau a'r cymwyseddau y mae eu hangen ar gyflogwyr – nawr ac yn y dyfodol. Myfyrwyr heddiw yw arweinwyr yfory wedi’r cyfan; byddant yn cael effaith ddofn ar ein cymdeithas a'i ffyniant yn y dyfodol.
"Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i sicrhau y gall ein myfyrwyr ffynnu mewn amgylchedd sy'n eu galluogi i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau lefel uwch a fydd yn eu galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd eu cymunedau".
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk