Myfyrwyr yn canmol Ysgol Haf ar-lein


25.09.2020

Dros bythefnos ym mis Awst, bu gan fyfyrwyr Blwyddyn 11 o ysgolion uwchradd ar draws Caerfyrddin a Cheredigion gyfle i gael blas ar astudiaethau lefel brifysgol mewn ysgol haf ddwys ar-lein am iaith a diwylliant Tsieineaidd.

During two weeks in August, Year 11 students from secondary schools across Carmarthen and Ceredigion had the chance to experience a taste of university level study in an intensive online Chinese language and culture summer school.

Y gyntaf o’i fath, darparwyd yr Ysgol Haf ar-lein gan Sefydliad Confucius PCYDDS a gadawodd i fyfyrwyr ysgol ennill credydau drwy Gyfadran Gysylltiol y brifysgol. Er gwaethaf colli misoedd o ysgol oherwydd y cyfnod clo, dangosodd y myfyrwyr eu bod yn fwy nag abl i daclo’r her o ddysgu siarad ac ysgrifennu Tsieineaidd Mandarin o fewn ychydig ddiwrnodau yn unig. Daethant o hyd i sgiliau ymchwil yn gyflym gan archwilio amrediad llawn o bynciau diwylliannol, yn ymestyn o Feddyginiaeth Draddodiadol Tsieina i gymharu barddoniaeth ganoloesol Gymraeg a Tsieinëeg.

Bu’r adborth i’r cwrs a’i fformat dysgu ar-lein yn ardderchog.  Sylwadau myfyrwyr:

“Gwnaeth natur rhyngweithiol y cwrs argraff fawr arna i, felly roedd yr agwedd hon ar yr iaith yn dda iawn. Mwynheais i’r cysylltiadau trawsgwricwlaidd hefyd (e.e. Meddyginiaeth Draddodiadol Tsieina yn cysylltu â Gwyddoniaeth) a’r cyfleoedd am ymchwil pellach gyda phynciau diwylliannol.”

“At ei gilydd mae hwn yn gwrs gwirioneddol wych a byddwn yn ei argymell yn gryf i unrhyw un sy’n ceisio ehangu ei bersbectif a dysgu pethau’n feirniadol ac yn adlewyrchol! Sgil newydd sy’n ddiddorol tu hwnt ac a allai fod o ddefnydd, mae’n gwrs gloywi perffaith sy mor wahanol i’r dull o ddysgu un dimensiwn y mae llawer yn gyfarwydd ag ef .”

“Mae cymorth a chefnogaeth y tiwtoriaid wedi bod yn rhyfeddol ac mae pob un o’r staff wedi bod mor gefnogol ac agos-atoch. Mae’r Tiwtoriaid wedi’n paratoi’n dda iawn ar gyfer y profion ac mae’n amlwg eu bod mor dda gyda’r hyn maen nhw’n ei wneud. Mae’r cyfan dw i wedi’i ddysgu yn ystod y pythefnos diwethaf yma wedi bod yn syfrdanol!”

Daeth y cwrs i fodolaeth yn dilyn cydweithredu rhwng Sefydliad Confucius a’r corff Seren, sy’n rhwydwaith o hybiau rhanbarthol a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n helpu myfyrwyr cyflawni eu nodau a dyheadau academaidd uchaf. Meddai Cydlynydd Hwb Rhanbarthol Seren, Julian Dessent, ‘Mae’r cydbwysedd rhwng manyldeb a chymorth ar y cwrs wedi bod yn rhagorol – roedd yr holl fyfyrwyr rydw i a’m cydweithwraig Bethan wedi siarad â nhw yn teimlo eu bod wedi cyflawni llawer mwy ar y cwrs na’r hyn a fyddai’n bosibl yn eu breuddwydion. Mae’r cwrs wedi bod yn wir agoriad llygad o safbwynt creu cwrs cydweithredol ond ysgogol a heriol sy’n ‘sbarduno’r cwricwlwm’ ac sydd â’r potensial i newid canfyddiadau a bywydau’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan. Rydw i’n awyddus i adeiladu ar y cwrs hwn gyda PCYDDS yn y dyfodol agos.’

Dwedodd Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Cyfadran Gysylltiol y Brifysgol sy’n dyfarnu credydau prifysgol i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer ei phortffolio eang o gyrsiau Lefel 4: ‘Bu’r cwrs yn llwyddiant ysgubol wedi’i seilio ar ein perthynas waith ardderchog gyda Sefydliad Confucius, ysgolion partner a’r rhwydwaith Seren. Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr ar eu llwyddiant, eu dyfalbarhad a’u hymroddiad wrth gwblhau’r modwl i safon uchel. Ein nod yw datblygu ymhellach modylau a chyfleoedd dysgu cyfunol cyffrous yn y dyfodol sy’n cefnogi ac yn herio’r myfyriwr yng nghyd-destun ei ddewis ddisgyblaeth.

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Confucius, Krystyna Krajewska: ‘Gall dysgu ar-lein fod yn her i fyfyrwyr yn ogystal â thiwtoriaid, felly gwnaethom yn siŵr bod y cynnwys yn atyniadol i’r myfyrwyr, a gwnaethom ddefnydd llawn o’r llwyfannau digidol i gyfoethogi eu dysgu.  Roedden ni wir am i’r myfyrwyr hyn gael profiad cadarnhaol ar ôl cynifer o fisoedd o ymyrryd â’u trefniadau rheolaidd, a phoeni am gynlluniau’r dyfodol o ran eu haddysg. Credaf ein bod wedi mwy na chyflawni’r nod yma! O ganlyniad i’r peilot hwn byddwn yn cynnig y cwrs prifysgol Lefel 4 hwn mewn Tsieinëeg unwaith eto yr hydref hwn, yn rhad ac am ddim i’r holl fyfyrwyr a hoffai fanteisio ar gael gafael ar gredydau prifysgol tra’n dal i fod yn yr ysgol.’

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Krystyna Krajewska (e-bost: k.krajewska@uwtsd.ac.uk) os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076