Penodi’r Athro Wendy Dearing yn bennaeth newydd yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd
17.09.2020
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyhoeddi penodiad yr Athro Wendy Dearing yn Bennaeth newydd yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd.
Bu’r Athro Dearing yn Bennaeth Datblygu Gweithlu a Chyfundrefnol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) swydd y bu ynddi ers wyth mlynedd. Bu’n offerynnol wrth ddatblygu Athrofa Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), sef partneriaeth rhwng NWIS a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn gyd-arweinydd WIDI, fe greodd a gweithredodd y cymwysterau Prentisiaethau Gwybodeg Iechyd sy’n cynnwys lefel 3, 4 a phrentisiaethau gradd TGCh yn ogystal â chreu cyfleoedd i staff NWIS ymgymryd â DPP drwy gyswllt Y Drindod rhwng diwydiant a byd addysg. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol o fewn Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu Gwybodeg Iechyd.
Gyda chefndir mewn nyrsio, mae’n meddu ar MSc mewn Newid ac Arloesi a chafodd ei hethol yn Athro Arfer mewn cydnabyddiaeth o’i harbenigedd a’i gwybodaeth wrth eirioli arloesi o fewn y sector iechyd a gofal. Mae ei rôl o fewn NWIS yn cynnwys strategaeth gweithlu; cynllunio gweithlu; recriwtio a chadw'r gweithlu; cydnabyddiaeth broffesiynol a chofrestru; addysg a hyfforddiant; llwybrau gyrfa a DPP.
Hi yw Cadeirydd Iechyd BCS Cymru ac Is-gadeirydd Proffesiynoldeb Bwrdd Gweithredol Iechyd a Gofal BCS DU-gyfan ac mae’n aelod o fwrdd Fed-IP, ac mae hi hefyd yn frwd dros ddatblygu “cenhedlaeth nesaf” rheolwyr iechyd a gofalwyr.
Cyn symud i Gymru roedd yn Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Corfforaethol gwasanaeth Gwybodeg Iechyd Sussex (Sussex HIS) a meddodd ar nifer o rolau gydag ysbytai acíwt Sussex o fewn dysgu a datblygu. Hefyd, roedd yn Llywodraethwr etholedig City College Brighton and Hove Further Education College yn gyfrifol am gylchoedd gwaith arweinyddiaeth, datblygu sefydliadol a TGCh.
Dywedodd yr Athro Dearing: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymgymryd â rôl Pennaeth yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd ac yn edrych ymlaen i weithio o fewn yr Athrofa a’r Brifysgol ehangach i ddatblygu ein portffolio cyfredol er mwyn creu rhaglenni arloesol a chyfleodd ymchwil.”
Dywedodd Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rwy’n falch iawn o gael croesawu’r Athro Dearing i’r Brifysgol ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda hi yn y misoedd sydd i ddod i ddatblygu cynnig academaidd y Brifysgol. Mae hwn yn benodiad strategol allweddol i’r Brifysgol gan alluogi i’r Athrofa Rheolaeth ac Iechyd adeiladu ar ei bortffolio presennol a datblygu ystod o raglenni arloesol, yn cynnwys cyrsiau byrion ac wedi’u teilwra, ynghyd â chapasiti ymchwil ym maes gwybodeg iechyd."
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk