Prentis digidol yn y Drindod Dewi Sant yn creu ap i fynd i’r afael â cholli dysgu oherwydd Covid


02.11.2020

Bydd cymhwysiad i dracio llythrennedd a ddatblygwyd gan brentis BSc Peirianneg Meddalwedd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion cynradd yn y DU yn rhan o ymdrech i sicrhau na fydd disgyblion yn cwympo’n ôl gyda’u sgiliau darllen.

A literacy tracking application developed by a BSc Software Engineering apprentice from the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is set to be used by primary schools in the UK as part of a push to ensure pupils do not fall behind with their reading skills.

Mae Liam Radcliffe yn gweithio i FFT Education yn y Bont-faen ac mae wedi cofrestru ar gynllun Prentisiaethau Digidol y Drindod Dewi Sant a gyllidir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).  Gwnaeth Liam gais am swydd gyda FFT Education ym mis Chwefror 2020 a gofynnodd a fyddent yn ei gefnogi fel prentis, a fyddai’n golygu rhoi amser iddo astudio.

“Roedden ni’n meddwl bod hyn yn ffordd wych o ategu ei brofiad yn y swydd drwy allu cyfuno theori ac arfer,” meddai Jason Dixon, Cyfarwyddwr Technegol FFT.  “Roedd hyn yn bwysig i ni oherwydd byddai e’n symud i rôl sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’n unig.  Afraid dweud, cynigion ni’r rôl iddo ac nid ydym wedi edrych yn ôl oddi ar hynny.”

Oherwydd yr hyfforddiant a gafodd, bu modd i Liam ddatblygu cymhwysiad newydd sbon ar y we y bydd FFT yn ei lansio cyn hir i gefnogi ysgolion sydd ar y rhaglen wella darllen Success for All yn y DU, gan gofnodi a dadansoddi cynnydd disgyblion wrth iddynt wella eu sgiliau darllen drwy diwtora ychwanegol.  Y nod yw gwella oed darllen pobl ifanc er mwyn eu hatal rhag cwympo’n ôl.

“O fewn cyfnod cymharol fyr mae Liam wedi cael profiad mewn pentwr technoleg  newydd ac yn ein prosesau i ddatblygu meddalwedd, ac adeiladodd y cymhwysiad newydd gan ddechrau o’r dechrau,” meddai Jason, gan ychwanegu bod gweithio gartref oherwydd Covid-19 wedi creu her ychwanegol.

“ Mae Liam wedi gorfod integreiddio ag aelodau eraill y tîm nad yw erioed wedi cwrdd â nhw wyneb yn wyneb ar yr un pryd â chydbwyso anghenion busnes a’i ddatblygiad proffesiynol,” meddai.   “Yn gyffredinol mae wedi gwneud gwaith ardderchog hyd yn hyn, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau.”

Roedd y rhaglen Success for All eisoes yn wasanaeth ymyrryd gwerthfawr i ysgolion cyn Covid-19, ond mae hyd yn oed yn fwy perthnasol yn ystod y pandemig cyfredol oherwydd “colli dysgu’n sgil Covid”, yn enwedig yng nghyswllt llythrennedd.  

“Mae’r gwaith y mae Liam wedi’i gwblhau’n offeryn diagnostig pwysig i’w ddefnyddio mewn amgylchedd ysgol er mwyn dynodi dysgu a gollwyd,” meddai Stephen Hole, Swyddog Cyswllt Prentisiaethau'r Drindod Dewi Sant. Byddai’n offeryn pwysig mewn cyfnod arferol, ond mae’n arbennig o bwysig yng nghyfnod Covid-19 oherwydd yr amser a gollwyd yn ystod y cyfyngiadau symud.  Bydd yr offeryn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddynodi a llenwi’r bylchau yn eu gwybodaeth a chyflawni eu potensial llawn.”

Mae nifer o gannoedd o fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant ar brentisiaethau, gan gynnwys 137 ar y rhaglen a gyllidir gan CCAUC.  Mae prentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau yn cynnig y cyfle i astudio rhaglen gyflawn HNC, HND, Israddedig neu radd Meistr, sy’n golygu y bydd prentisiaid yn graddio â chymhwyster Addysg Uwch yn ogystal â Thystysgrif Brentisiaeth.  Nid yw prentisiaid na’u cyflogwyr yn talu ffioedd prifysgol; mae elfen astudiaethau academaidd y rhaglen yn cael ei chyllido’n gyflawn drwy brosesau’r llywodraeth i gyllido prentisiaethau.  

Mae cyflogwyr sydd â rhaglen prentisiaethau sefydledig wedi rhoi adroddiadau o welliant 76 y cant o ran cynhyrchiant yn eu gweithle, ac mae 75 y cant wedi rhoi adroddiadau bod prentisiaethau wedi gwella ansawdd, cynhyrchiant a gwasanaeth eu busnes.  

I Liam, mae’r brentisiaeth wedi agor posibiliadau cyffrous o ran ei yrfa gan ganiatáu iddo astudio a hyfforddi ar yr un pryd.

“Mae’r cynllun prentisiaethau wedi caniatáu i mi gael gyrfa mewn diwydiant roeddwn i brin wedi meddwl am fynd i mewn iddo pan oeddwn i yn yr ysgol,” meddai.  “Mae wedi dangos i mi fod peirianneg meddalwedd nid yn unig yn sgil gwerthfawr y mae modd ei gyfuno â sgiliau eraill, mae hefyd yn fenter greadigol iawn lle rydych chi’n gallu’ch gweld eich hun yn gwella o ran beth rydych chi’n ei wneud.  Mae’r brentisiaeth yn mynd ochr yn ochr â hynny; rydych chi’n teimlo eich bod chi’n symud ymlaen yn eich bywyd ac mae’n wir wedi helpu gyda fy nheimlad o hunan-barch.  Mae’n cymryd agweddau gwaith a hyfforddi, sy’n gallu bod yn bethau cyferbyniol, ac yn eu cyfuno fel eu bod yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd ac yn helpu i’ch cefnogi ac yn rhoi’r amser i chi ganolbwyntio ar y ddau, heb ofyn gormod ohonoch chi’ch hun.”

https://www.uwtsd.ac.uk/cy/prentisiaethau/

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk