Prentis Gradd PCYDDS yn ennill teitl diwydiannol urddasol yng Ngwobrwyon Gweithgynhyrchu Make UK 2020


23.10.2020

Mae Prentis Gradd Systemau Gweithgynhyrchu PCYDDS Saulius Paltanavicius wedi hawlio teitl diwydiannol urddasol yng Ngwobrwyon Gweithgynhyrchu Make UK 2020.

 

UWTSD’s Manufacturing Systems Degree Apprentice Saulius Paltanavicius has claimed a prestigious industry title at the 2020 Make UK Manufacturing Awards.

Mae’r prentis 26 oed sy’n gweithio yn yr Adran Ymchwil a Datblygiad fel Prentis Peirianneg Electronig a Meddalwedd yn Sony UK TEC, wedi ennill Gwobr Prentis Peirianneg Cymreig y Flwyddyn: Seren Esgynnol.

Yn wreiddiol o Lithuania, mae Saulius yn gweithio i Sony UK TEC ers tair blynedd, ac mae bellach yn astudio ar gyfer ei radd BEng mewn Systemau Gweithgynhyrchu yn PCYDDS.

Meddai Barry Liles, OBE, Pro-Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes PCYDDS: “Rydym mor falch bod Saulius wedi ei gydnabod yn y ffordd hon ar lwyfan y DU ac mae’n tystio i’w ymdrechion i gyd yn ei waith. Rydym hefyd wrth ein bodd bod y gydnabyddiaeth hon yn dynodi’r cyfraniad y mae ei bresenoldeb ar y rhaglen Prentisiaeth Gradd wedi’i wneud i’w ddatblygiad gyrfa. Mae’r rhaglen, sydd ond yn ei thrydedd flwyddyn, eisoes yn cefnogi nifer o sêr esgynnol mewn sectorau sy’n allweddol i economi Cymru”

Mae Gwobr Prentis Peirianneg y Flwyddyn: Seren Esgynnol yn cydnabod y sawl sy wedi gwneud ymdrech sylweddol i afael yn y cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad a gyflwynir iddynt. Gofynnir i’r prentis a enwebir fod wedi dangos cyfraniad sylweddol i gefnogi gweithgareddau busnes eu cyflogwr, sydd yn union beth mae Saulius wedi ceisio ei wneud.

Mae Saulius wedi cymryd pob cyfle dysgu a phob cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau sy’n cynnwys ymchwil, datblygu, profi a defnyddio technoleg y Rhyngrwyd Diwydiannol Pethau yn ogystal â defnyddio’r technolegau hynny i gefnogi peirianwyr eraill mewn gwella a chyfoethogi prosesau gweithgynhyrchu at y dyfodol.

 

Ar ei lwyddiant, dwedodd Saulius ei fod “wrth ei fodd” a’i bod yn “fraint” i fod wedi ennill.

Ychwanegodd: “Rwy’n hynod falch fy mod wedi ennill y wobr hon a hoffwn ddiolch i bawb yn Sony UK TEC a PCYDSS sy wedi fy nghefnogi.

“Mae’n deimlad anhygoel ac aruthrol i fod ar restr fer ar gyfer Gwobr Gweithgynhyrchu Make UK, heb sôn am ennill. Mae cynifer o ymgeiswyr ifanc a disglair sy’n cystadlu am y gwobrau hyn ac felly mae bod ar restr fer yn teimlo fel cyrhaeddiad anferth ynddo’i hun!

“Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer i mi gan fy mod yn teimlo bod fy mhrentisiaeth yn wir wedi fy ngalluogi i ddatblygu a mireinio fy sgiliau, wrth ddilyn gyrfa rwy’n angerddol amdani.

“Gwneud cais am brentisiaeth gyda Sony UK TEC oedd y penderfyniad gyrfa gorau rwy’ erioed wedi’i wneud. Mae gwaith caled parhaus a’r cymorth di-ddiwedd gan Reolwyr ac Academi Hyfforddiant Pencoed Sony wedi agor cynifer o gyfleoedd i mi.

“Ers dechrau fy mhrentisiaeth mae Sony wedi fy nghyllido ac wedi fy nghefnogi drwy addysg uwch a theimlaf yn hynod lwcus i fod wedi fy nghyflwyno gyda phob cais i ddysgu, gwella a datblygu wrth weithio tuag at fy ngyrfa fel peiriannydd aml-fedrus.”

Meddai Mezz Davies, sy’n gweithio’n agos gyda Saulius fel rhan o Ganolfan Ymchwil a Gweithredu Gweithgynhyrchu Uwch Sony UK TEC: “Mae Saulius yn aelod gwerthfawr o’n tîm – mae’n garedig, ac yn gydwybodol gyda llygad da am fanylion ac ethig waith ddiwrthdro.

“Mae ei frwdfrydedd dros ddysgu yn glir ym mhopeth mae’n ei wneud ac mae’n bell ar ei daith tuag at ddod yn beiriannydd eithriadol.”

Ychwanegodd Jessica Jones, Rheolwr Dysgu a Datblygu yn Academi Cymru Sony: “Rydym yn hynod falch o Saul am ddod mor bell drwy gydol ei brentisiaeth. Mae’r gwaith caled y mae wedi ei roi i mewn bob cam o’r ffordd yn amlwg i bawb sy’n gweithio gydag ef ac mae’r cyfleuster yn sicr ar ei ennill oherwydd hyn.

“Llongyfarchiadau, Saulius, ar fuddugoliaeth haeddiannol.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk