Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i Agor Swyddfa yn Delhi Newydd


11.09.2020

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn agor swyddfa newydd yn yr India yn ddiweddarach eleni, a fydd yn canolbwyntio ar gyfleoedd recriwtio myfyrwyr a sefydlu  partneriaethau  newydd yn y rhanbarth.

UWTSD logo

Bydd y swyddfa, sydd wedi'i lleoli yn Delhi Newydd, yn agor mewn partneriaeth ag Elizabeth School of London (ESL).  Bydd ESL, sydd wedi cynorthwyo dros 20,000 o fyfyrwyr y DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill i gael lleoedd mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU, yn arwain ac yn hyrwyddo'r holl recriwtio o'r ardal ar ran Y Drindod Dewi Sant. 

Bydd y swyddfa'n agor yn swyddogol ym mis Hydref. Meddai Lee Bartlett, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Mewnfudo a Chydymffurfiaeth Fisa:

"Rydyn ni wedi gwneud llawer i ddatblygu ein cysylltiadau rhyngwladol ac rydyn ni’n falch o agor y swyddfa hon yn Delhi Newydd. Rydym yn gweithio'n barhaus i sefydlu cyfleoedd i ymgysylltu â darpar fyfyrwyr a phartneriaid o ansawdd uchel o bob rhan o'r byd er mwyn creu cyfleoedd astudio  rhyngwladol pellach.

"Mae ein swyddfa newydd yn yr India yn rhan o'r ymrwymiad pwysig hwn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr a'n partneriaid yn ESL i arddangos Y Drindod Dewi Sant yn gyrchfan o'r radd flaenaf."

Ychwanegodd AA Faruki (Appi), Cyfarwyddwr Datblygu Busnes ESL:

"Rydym yn falch dros ben o agor ein swyddfa newydd yn Delhi Newydd. Mewn partneriaeth â'r Brifysgol, rydyn ni bob amser yn ymdrechu i ddarparu profiadau myfyrio a dysgu rhagorol i'n myfyrwyr rhyngwladol.

Mae’r India yn enwog am fod yn ddemocratiaeth fwyaf y byd ac yn un o'r economïau sy'n datblygu gyflymaf ac rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda sector addysg yr India i ddatblygu cysylltiadau a pherthnasoedd oportiwnistaidd a pherthnasoedd newydd yn y rhanbarth."

I ddysgu rhagor am Swyddfa Delhi Newydd Y Drindod Dewi Sant ewch i: https://www.uwtsd.ac.uk/india/