Prifysgol yn talu teyrnged i bawb a dalodd y pris eithaf
06.11.2020
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi creu Gardd Goffa ar ei champws yng Nghaerfyrddin cyn Sul y Cofio, i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar 11 Tachwedd 1918.
Mae’r Ardd wedi’i gosod ar dir y Brifysgol rhwng ei Hadeilad Dysgu ac Addysgu a’r Egin ar Ffordd y Coleg ac mae’n cynnwys gosodwaith o 10 ffigur o filwyr unigol, 6 chroes â thorch flodau a 50 o babïau dur. Bydd golau coch yn cael ei daflunio ar draws y gwair ac ar yr adeiladau gyda thrac sain yn chwarae bob hanner awr rhwng 7pm a 10pm. Mae ffilm hefyd i gyd-fynd â’r gosodwaith celf. Gosodwyd torchau ar gampysau'r brifysgol yn Llambed ac Abertawe yn ogystal.
Bydd y gosodwaith celf yn aros yn ei le tan 12 Tachwedd, ac mae’n waith gan Dîm Gweithrediadau’r Brifysgol dan arweiniad Ray Selby gyda’r fideograffydd Richard Beecher, a wasanaethodd ym Mataliwn 1af Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines ac aelodau o Dîm Gweithrediadau’r Brifysgol, gan gynnwys Stuart Tawse a wasanaethodd ym 5ed Bataliwn Catrawd Brenhinol y Ffiwsilwyr, Dan Priddy a wasanaethodd yn 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol a Gareth Williams, Rhodri Davies, Cenwyn Jones, Neal Summerfield yn ogystal â Dave Atkinson, Darlithydd mewn Dylunio a Chynhyrchu Theatr.
“Roedd y Brifysgol yn dymuno nodi’r diwrnod pwysig hwn er mwyn talu teyrnged a chofio’r rheini sydd wedi rhoi eu bywydau a gwneud cynifer o aberthau mewn rhyfeloedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf”, meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Brifysgol. “Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i bawb, ac mae hynny gymaint yn fwy anodd a theimladwy ar yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd na allwn ddod at ein gilydd i anrhydeddu’r rheini a dalodd y pris eithaf. Fel sefydliad dinesig rhoddwn ddiolch am wasanaeth ac ymroddiad pawb sydd wedi ein hamddiffyn ar adeg rhyfel a gwrthdaro. Rwy’n ddiolchgar iawn i staff y Brifysgol sydd wedi creu’r gwaith ysblennydd, llawn dychymyg hwn”.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk