Rôl newydd i un o raddedigion Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch y Drindod Dewi Sant
12.11.2020
Llongyfarchiadau i Shay Friel, un o’n graddedigion Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch sydd â rôl newydd fel Peiriannydd a Dadansoddwr Peirianneg yn MotoNovo yng Nghaerdydd.
Yn rhan o’r tîm seiberddiogelwch ‘glas’, bydd Shay yn gyfrifol am weithredu ystod o dechnolegau gorfodi seiberddiogelwch a dadansoddi eu hallbwn i adnabod dangosyddion cyfaddawd.
Meddai Shay “Roedd astudio yn Y Drindod Dewi Sant yn wych, roedd y staff yn gefnogol ac fe roddodd y cwrs y gwnes ei gwblhau ddigonedd o gyfleoedd i archwilio’r llwybrau cywir. Cefais flwyddyn gyntaf anodd yn Y Drindod, ac roedd angen i mi newid cyfeiriad fy astudiaethau, ond diolch i’r ystod o gyrsiau cyfrifiadurol sydd ar gael gan y brifysgol, gwnaethant fy helpu i newid i’r cwrs oedd yn fy ngweddu’r gorau a rhoi i mi’r sgiliau i ddilyn gyrfa seiberddiogelwch.
Rhoddodd fy nghwrs ystod o wahanol fodylau i ni bob blwyddyn, gan roi i ni’r myfyrwyr gyfleoedd i archwilio gwahanol lwybrau, yn ogystal â rhwydweithio a seiberddiogelwch. Fodd bynnag, roeddwn i’n gwybod bod arna’i eisiau dilyn gyrfa seiberddiogelwch, felly seiliais fy mhrosiect blwyddyn olaf ar y pwnc ac fe fu hyn yn help enfawr i mi yn y cyfnodau cyfweld, felly fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol yw cysylltu eich prosiect blwyddyn olaf gyda gyrfa ar gyfer y dyfodol a pheidiwch ond â dewis prosiect hawdd!
Rwy’n dwlu ar gyfrifiadura am nad oes terfyn i’r dysgu, mae gan y swyddi cyfrifiadura mwyaf technegol gyfrifoldebau enfawr. Mae’r byd yn dibynnu ar dechnoleg a’i ddata, felly mae’n gyfrifoldeb mawr pan rydych yn gweithio mewn adrannau cyfrifiadur critigol fel rhwydweithio a seiberddiogelwch.”
Meddai Dr Kapilan Radhakrishnan, Cyfarwyddwr Academaidd Cyfrifiadura Cymhwysol “Ymunodd Shay â ni yn yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol ond teimlodd nad oedd ei ddewis gwrs yn iawn iddo, ond ni roddodd y ffidil yn y to a daeth i siarad gyda fi am ei ddiddordeb mewn seiberddiogelwch a’i awydd i ddilyn gyrfa yn y maes hwnnw. Mae ein strwythur rhaglenni’n caniatáu i fyfyrwyr drosglwyddo o un llwybr i un arall os bydd myfyrwyr yn teimlo nad yw’r cwrs yn eu gweddu’n iawn. Dros y tair blynedd nesaf, gweithiodd Shay yn eithriadol o galed i raddio gyda dosbarth cyntaf. Rwyf wrth fy modd bod gan Shay swydd ym maes Seiberddiogelwch, yn arbennig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’n dystiolaeth i’w waith caled, ac mae’n adlewyrchu ansawdd y graddedigion cyfrifiadura mae’r Drindod Dewi Sant yn eu cynhyrchu bob blwyddyn. Llongyfarchiadau i Shay, dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk