Rôl newydd myfyriwr Meistr o’r Drindod Dewi Sant mewn Diwydiant yn adeiladu ar ei hymchwil mewn Profi Anninistriol
05.11.2020
Mae Nelly Fernandez, myfyriwr Meistr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn adeiladu ar yr arbenigedd a’r sgiliau a enillodd yn ystod ei hastudiaethau yn y Brifysgol drwy leoliadau cydweithredol mewn diwydiant, i fynd â’i gyrfa ym maes Profi Anninistriol (NDT) ymhellach.
Mae gan Nelly radd Meistr mewn profi a gwerthuso anninistriol gan y Brifysgol ac mae’n gweithio fel peiriannydd cymorth cymwysiadau/cynnyrch yn ETher NDE yn St Albans.
Mae ETher NDE yn gwmni sy’n gwneud offer cerrynt trolif, probiau ac ategolion. Yn ei rôl fel Peiriannydd Cymorth Cymwysiadau/Cynnyrch mae Nelly yn gweithio mewn dylunio, yn ogystal â bod yn gyswllt â chwsmeriaid i ddarparu cymorth technegol cyn ac ar ôl gwerthu. Mae’r cwmni hefyd yn ymwneud â gwahanol brosiectau ymchwil i ddatblygu technolegau newydd, lle mae gan Nelly gyfrifoldebau mewn dylunio probiau, profi, ysgrifennu adroddiadau ac ymgysylltu â’r partneriaid eraill.
Meddai Nelly: “Astudiais radd BSc mewn peirianneg fetelegol a gwyddor deunyddiau ym Mhrifysgol Ganolog Venezuela (UCV). Erbyn i mi ei gorffen roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau parhau â f’astudiaethau mewn gwlad lle mae Saesneg yn cael ei siarad. Penderfynais ddod i’r DG yn 2015 ac yn 2016 dechreuais radd Meistr mewn profi a gwerthuso anninistriol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Argymhellwyd y cwrs hwn i mi gan yr Athro NDT ar fy ngradd BSc.”
Tra oedd yn astudio am ei MSc mewn profi a gwerthuso anninistriol yn y Drindod Dewi Sant, cafodd Nelly leoliad gyda phartner diwydiannol y Brifysgol, Oceaneering SIS yn Abertawe, lle gwnaeth ei gwaith arbrofol fel rhan o’r prosiect ymchwil ar gyfer Traethawd Hir ei gradd Meistr. Roedd ei hymchwil, ‘Assessment and Validation of the Lyft System for the Detection and Sizing of CUI with Associated FE Modelling’, yn cynnwys asesu a dadansoddi perfformiad arolygiadau cerrynt trolif â phwls a delweddu cyrydu dan inswleiddiad ynghyd ag efelychiadau cyfrifiadurol cysylltiedig.
Goruchwyliwr diwydiannol Nelly oedd yr Athro Richard Granville, Awdurdod Technegol ar gyfer NDT Uwch yn adran Rheoli Arolygiadau ac Atebion Digidol Oceaneering a hefyd Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant, ac roedd ganddo hyn i’w ddweud am bartneriaeth y Drindod Dewi Sant ag Oceaneering a chyfraniad Nelly: “Roedd Nelly yn fyfyriwr rhagorol ac roedd yn bleser gweithio gyda hi. Darparodd ei thraethawd hir gyfraniad arwyddocaol i’r ddealltwriaeth o ganfod namau a’r gallu i amcangyfrif maint gan ddefnyddio technoleg Cerrynt Trolif â Phwls. Enghraifft ardderchog o’r modd y gall cydweithio rhwng sefydliadau diwydiannol ac academaidd fod o fudd i’r ddau.”
Ychwanegodd ei goruchwyliwr academaidd yn y Drindod Dewi Sant, yr Athro Peter Charlton: “Roedd Nelly yn fyfyriwr o’r radd flaenaf tra oedd yn y Drindod Dewi Sant ac roedd ei hagwedd tuag at ei hastudiaethau o safon uchel iawn. At hynny, mae ei hymchwil a gyflawnwyd gyda’r Drindod Dewi Sant ac Oceaneering yn tanlinellu pwysigrwydd partneriaethau academaidd a diwydiannol ar gyfer ymchwil cymhwysol, fel y’i gwelir yn ei swydd bresennol gydag ETher NDE.”
Meddai John Hansen Rheolwr Gyfarwyddwr yn ETher NDE a Llywydd BINDT: “O’r diwrnod cyntaf mae Nelly wedi bod yn aelod o staff gwerthfawr iawn. Ymaddasodd yn gyflym i’n hamgylchedd gwaith ni ac mae wedi bod yr un mor ddefnyddiol ar y safle yn gwneud arolygiadau, yn y swyddfa yn dylunio probiau cerrynt trolif neu ar stondin arddangosfa.”
“Mae’r Radd Meistr yn y Drindod Dewi Sant yn un rhan o’r jig-so sydd, trwy gymorth BINDT, yn mynd â NDT o fod yn rhywbeth y byddai pobl yn dilyn gyrfa ynddo yn ddamweiniol i fod yn rhan o ddilyniant academaidd penodol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd gan y diwydiant technolegol hwn weithwyr o’r safon sydd ei hangen arno nawr ac yn y dyfodol.”
Gan siarad am ei hamser a’i hymchwil yn y Drindod Dewi Sant, meddai Nelly: “Roedd y Brifysgol yn brofiad dwys iawn, ac er gwaethaf y nosweithiau di-gwsg, rwy’n hynod o ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle hwn. Ces f’addysgu gan rai o’r athrawon gorau yn y maes, yn enwedig Peter Charlton a oedd yn diwtor i mi, a ches y profiad o weithio dan oruchwyliaeth Richard Granville mewn cwmni megis Oceaneering, a roddodd i mi ddealltwriaeth wych o’r diwydiant yn ogystal â rhoi’r wybodaeth a’r hyder i mi ffynnu ynddo.
“Ar wahân i faterion academaidd, y rhan orau o’m profiad yn y Drindod Dewi Sant oedd dod i wybod bod Cymru yn wlad mor brydferth, yn enwedig y traethau hyfryd ar hyd arfordir y de-orllewin.”
Dywedodd Nelly fod ffrind agos i’r teulu wedi dylanwadu ar ei phenderfyniad i astudio ymhellach.
“Mae fy mam fedydd yn gweithio fel Arolygydd gwerthuso anninistriol ac yn rhedeg ei chwmni arolygu ei hun yn Venezuela. Roedd hi bob amser yn rhywun roeddwn yn ei hedmygu ac o oed cynnar helpodd fi i ddatblygu diddordeb mewn peirianneg fetelegol ac yn ddiweddarach mewn gwerthuso anninistriol,” meddai.
“Ar wahân i’r tasgau o ddydd i ddydd yn fy rôl gyfredol yn ETher NDE, lle mae pob dydd yn dod â heriau newydd er mwyn bodloni gofynion pob un o’n cwsmeriaid, yr her fwyaf a gefais yn fy ngyrfa hyd yn hyn oedd ennill fy ngradd Meistr. Roedd hyn yn gyrhaeddiad y bu rhaid i mi ymdrechu i’r eithaf i’w gyflawni.”
Dywedodd Nelly mai un o brif heriau’r diwydiant oedd cadw’n gyfredol â’r galw gan gwsmeriaid.
“Mae cwsmeriaid bob amser yn gofyn am y dechneg fwyaf dibynadwy a manwl gywir o gael canlyniadau yn y ffordd gyflymaf, ac felly o wario llai. Her ddybryd arall i’r diwydiant gwerthuso anninistriol hefyd yn y byd sydd ohoni yw, yn fy marn i, fod technolegau NDT newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn fwy cyflym na’r safonau ar eu cyfer. Mae hyn yn gorfodi cwmnïau i ddal i ddefnyddio hen dechnoleg nad yw efallai mor effeithlon â’r dewisiadau amgen newydd, dim ond am fod y safonau’n cymryd rhy hir i ddal i fyny,” ychwanegodd Nelly, sy’n aelod cyswllt o BINDT ac yn aelod safonol o ASNT.
Dywedodd Nelly ei bod yn gobeithio ysbrydoli pobl eraill i ddilyn taith debyg i mewn i’r diwydiant, gan ychwanegu: “Mewn llawer o ffyrdd, mae NDT yn helpu’r byd i weithio yn y ffordd y mae, am ei fod mor sylfaenol i lawer o’i ddiwydiannau er mwyn iddynt weithredu mewn modd diogel a chost-effeithiol. Felly mae rhywun sy’n gweithio ym maes NDT, o’r eiliad y caiff yr offer ei ddylunio a’i greu, tan i’r arolygiad gael ei gynnal a’r data a gesglir gael eu dadansoddi, yn chwarae rhan fawr o ran cynnal llawer o elfennau o’n bywydau bob dydd, gan weithio i’w gwneud yn haws eu byw.
“Mae gwybod bod eich gwaith dyddiol yn helpu’r byd i weithio, yn ogystal â gwella a chynnal ansawdd bywyd pobl, yn sicr yn foddhaol ac yn eich symbylu. Hoffwn i annog mwy o bobl, a menywod yn arbennig, i dwrio i fyd NDT a chreu dylanwad.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk