Un o raddedigion PCYDDS yn derbyn Gwobr Cydweithio Diwydiannol Academaidd Gorau
09.09.2020
Llongyfarchiadau i Elizabeth (Lizzie) Roberts, sydd wedi derbyn y Wobr Cydweithio Diwydiannol Academaidd Gorau gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei phrosiect traethawd hir gradd Baglor Peirianneg dosbarth cyntaf.
Roedd prosiect Lizzie, yn nhechnolegau Eddyfi UK, Abertawe, yn cynnwys gwerthuso a chymharu dwy system sy’n canfod ceryddiad drwy ddefnyddio dulliau delweddu magnetig. Drwy wneud hyn, y nod oedd nid yn unig mesur y gwahaniaethau i hyrwyddo gwelliannau’r system newydd, ond hefyd i fesur gallu’r dechnoleg sylfaenol y mae’r ddwy system yn ei defnyddio.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Lizzie yn gweithio’n llawn amser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel Tiwtor/Aseswr Peirianneg, yn mynychu’r brifysgol bob dydd Gwener, a chwblhau’r prosiect yn Eddyfi yn ystod unrhyw amser rhydd oedd ganddi.
Roedd y prosiect yn cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau gan gynnwys profion anninistriol, peirianneg drydanol, fecanyddol a meddalwedd. Dangosodd Lizzie ei bod wedi deall y disgyblaethau ychwanegol hyn yn llwyr; gan ddysgu am y systemau ceryddu yn ogystal â’r egwyddorion sylfaenol y mae’r systemau hyn wedi’u seilio arnynt.
Gan ddiolch i’w goruchwylydd yn y gwaith, Yr Athro Neil Pearson, am ddarparu’r gefnogaeth ddiwydiannol angenrheidiol, meddai Lizzie: “Doeddwn i erioed wedi disgwyl cael fy enwebu ar gyfer gwobr o unrhyw fath. Roedd clywed fy mod wedi cael fy enwebu’n sioc lwyr, ac yn sioc mwy fyth pan glywais fy mod wedi ennill.
“Rwy’n ddiolchgar iawn ac yn teimlo’n ostyngedig bod fy ngoruchwylwyr wedi meddwl bod y gwaith roeddwn wedi’i wneud yn haeddu cael ei gydnabod. Pan fyddwch yn gweithio mor galed tuag at rywbeth, weithiau mae’n teimlo mai chi yw’r unig berson sy’n sylwi ar yr amser a’r gwaith caled rydych wedi’i roi, ac roedd yn braf darganfod bod fy holl waith wedi cael ei weld.”
“Roedd ymagwedd a gwaith Lizzie o safon eithriadol o uchel,” meddai ei phrif oruchwylydd, Yr Athro Peter Charlton.
“Mae hi hefyd wedi ein helpu i gynnal a chryfhau ein perthynas gydag un o’n partneriaid diwydiannol sydd o bwys strategol. Mae’n hanfodol bod gan y brifysgol gysylltiadau da gyda diwydiannau lleol ac roedd gwaith Lizzie gyda’r cwmni’n rhagorol.”
Cafodd hyn ei adleisio gan ei hail oruchwylydd, Dr Rachel Alexander, a ddywedodd: “Gweithiodd Elizabeth yn galed eithriadol, a chymerodd ymagwedd ragweithiol a threfnus iawn at ei thraethawd hir gydag Eddyfi. Roedd hi’n haeddu’r wobr, mae hi wedi gwneud gwaith ymchwil gwerthfawr a chysylltiadau rhagorol.”
Cynt, cafodd Lizzie ei henwebu’n Llysgennad Peirianneg Benywaidd a hi oedd wyneb Prentisiaethau Cymru am ddwy flynedd. Hefyd, fe enillodd y Wobr Alwedigaethol yng Ngwobrau Addysg Prydain am ei chyflawniadau academaidd eithriadol a’i heffaith ar y diwydiant peirianneg, ac fe ddathlwyd hyn ym Manceinion a chafodd ei gydnabod yn y Senedd yn Llundain.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk