Y Drindod Dewi Sant yn lansio Academi i ddatblygu rhwydwaith proffesiynol o hyfforddiant ar gyfer swyddogion a staff y gwasanaethau brys
13.10.2020
Mae Academi Golau Glas, canolfan ragoriaeth i ddarparu fframwaith proffesiynol newydd ar gyfer hyfforddi swyddogion a staff y gwasanaethau brys wedi’i lansio gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Eisoes mae Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol yn cyd-ddarparu hyfforddiant prentisiaeth Fframwaith Cymwysterau Addysgol yr Heddlu (PEQF) ar gyfer Heddlu De Cymru a Gwent, yn rhan o Radd-brentisiaeth Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) a’r Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Graddau (PCDA), i gyfanswm o 474 o fyfyrwyr.
Bydd yr Academi’n rhoi cyfle i adeiladu ymhellach ar y portffolio plismona cydweithredol hwn a bydd yn nodi cyfleoedd newydd ar gyfer uwchsgilio ar draws yr holl wasanaethau brys. Y nod yw bod y datblygiad yn cyd-fynd â ‘Gweledigaeth Plismona 2025’ er mwyn cefnogi agweddau allweddol ar hyfforddi a datblygu plismona. Gwneir hyn drwy achredu academaidd, sy’n cydnabod ac yn gwella sgiliau a gwybodaeth y gweithlu ac yn mynd i’r afael â heriau plismona yn ystod pandemig presennol Covid-19.
Bydd cysylltiadau clir rhwng datblygu’r Academi a’r ‘ethos un gwasanaeth cyhoeddus’ a hefyd Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i 7 nod, y gellir cysylltu nifer ohonynt yn uniongyrchol â’r gwaith a wneir gan y gwasanaethau brys:
Cymru lewyrchus – Trwy ddatblygu gweithlu medrus ac addysgedig.
Cymru sy’n fwy cyfartal: Trwy ganiatáu i bobl gyflawni’u potensial.
Cymru iachach: Lle gall gweithwyr wella eu llesiant meddyliol i’r eithaf.
Cymru o gymunedau cydlynus: Trwy annog cydweithio rhwng sefydliadau a gyda chymunedau.
Lluniwyd y portffolio plismona gan Heddlu De Cymru a Gwent mewn cydweithrediad â’r Drindod Dewi Sant i sicrhau arfer cyson o ran gweithredu, asesu ac achredu hyfforddiant cychwynnol yr heddlu ar draws y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynnwys arferion plismona a addysgir, gwybodaeth ac ymchwil. Asesir arfer proffesiynol trwy bortffolios dysgu seiliedig ar waith ac astudiaethau annibynnol.
Bydd rhaglenni newydd yn cynnwys MSc Plismona (Arweinyddiaeth Weithredol a Strategol) – (Cyfunol a rhan amser) – a luniwyd ar gyfer y rhai mewn swyddi arweinyddiaeth, rheolaeth neu oruchwylio sy’n dymuno ymgymryd â rhaglen cymhwyster addysg uwch i archwilio’r heriau sy’n wynebu plismona yn y gymdeithas sydd ohoni sy’n newid mor gyflym, ac i wella a datblygu eu sgiliau ymchwil i’w helpu i fynd i’r afael â nhw.
Roedd lansiad yr Academi newydd ar-lein ar 13 Hydref yn gyfle i ddathlu’r gwaith a wnaed eisoes ar y portffolio plismona. Yn bresennol roedd Prif Gwnstabliaid heddluoedd De Cymru, Gwent a Dyfed Powys, neu eu cynrychiolwyr, a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu'r ardaloedd hynny. Hefyd yn bresennol roedd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) a chadeirydd cyfredol Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys Cymru (JESG).
Yn ystod y lansiad, dywedodd Debbie Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dysgu a Datblygu Sefydliadol, Heddlu De Cymru: “Mae’r bartneriaeth gyda’r Drindod Dewi Sant wedi sicrhau’r safon uchaf o ran arferion, gwybodaeth ac addysg blismona broffesiynol ar gyfer ein swyddogion a’n harweinwyr.”
Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Mae cydweithio ystyrlon gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn ganolog i genhadaeth y Brifysgol. Bydd datblygu’r Academi yn gymorth i drosglwyddo gwybodaeth, arloesi ymchwil a datblygu’r gweithlu o fewn y gwasanaethau brys er mwyn sicrhau bod cyflenwad parod o fyfyrwyr a graddedigion medrus sy’n gallu cyflawni rolau mor hanfodol yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Rhennir yr hyfforddiant ar gyfer recriwtiaid Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent rhwng hyfforddiant craidd ar gyfer swyddogion heddlu a ddarperir gan staff heddlu Gwent a De Cymru gyda chymorth gan y Brifysgol ar gyfer Elfen Gymwysterau eu hastudiaethau.
Mae gan y Drindod Dewi Sant dîm mewnol cydweithredol yn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, sy’n cynnwys y Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus, Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol, a thimau Datblygu Prentisiaethau sy’n gweithio mewn partneriaeth â heddluoedd De Cymru a Gwent i ddarparu’r rhaglenni newydd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk