Y Drindod Dewi Sant yn lansio prosiect gyda Brook i hyrwyddo iechyd rhywiol a pherthnasoedd
21.10.2020
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant wedi ymuno â Brook, yr elusen i bobl ifanc, i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o iechyd rhywiol a pherthnasoedd ymhlith myfyrwyr y Brifysgol.
Y bartneriaeth hon yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n cynnwys cyfres o weminarau wythnosol sy’n cychwyn heddiw (dydd Mercher 21 Hydref) ac yn cael eu lletya gan Undeb Myfyrwyr y Brifysgol. Bydd y gweminarau’n archwilio pynciau megis Cydsyniad a Pherthnasoedd Iach, (Secstio) Delweddau Rhywiol a Grëir gan Bobl Ifanc, Cyffuriau ac Alcohol, Amrywiaeth LGBT a Bwlio HBT, Pleser. Hefyd, bydd y bartneriaeth yn mynd ati i ddatblygu rhaglen dair blynedd sydd i gychwyn ym mis Mawrth i archwilio materion ynghylch cydsyniad rhywiol.
Meddai Rhys Dart, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Dros Dro y Brifysgol “Nod y bartneriaeth yw galluogi myfyrwyr i gymryd rheolaeth ar eu llesiant a’u hiechyd rhywiol a rhoi’r wybodaeth a’r hysbysrwydd iddyn nhw wneud hynny mewn amgylchedd cyfrinachol ac anfeirniadol. Mae’n bleser mawr gennym ni weithio gydag Undeb y Myfyrwyr a Brook i ddarparu adnoddau mor hanfodol ar gyfer ein myfyrwyr. Mae’r bartneriaeth yn rhan o’r ystod o wasanaethau a ddarparwn er mwyn galluogi ein myfyrwyr i ffynnu mewn amgylchedd heb ragfarn ac sy’n annog amrywiaeth a pharch”.
Mae Brook yn elusen sydd wedi ymrwymo i newid agweddau, herio rhagfarnau a hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn i’r holl bobl ifanc allu arwain bywydau hapus ac iach. Drwy eu gwasanaethau clinigol arloesol, cymorth digidol, cwnsela personol ac addysg perthnasoedd a rhyw ysbrydoledig, mae modd i bobl ifanc gymryd rheolaeth ar eu hiechyd rhywiol a’u llesiant.
Meddai Kelly Harris, Arweinydd Datblygu Busnes a Chyfranogi Brook: “Mae gan Brook 55 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc ar bynciau iechyd rhywiol, perthnasoedd a llesiant, ac rydym ni’n deall bod y brifysgol yn amser cyffrous i lawer o bobl ifanc, lle maen nhw’n gallu llunio perthnasoedd newydd a datblygu eu hannibyniaeth ymhellach. Rydym ni hefyd yn credu ei bod yn bwysig i fyfyrwyr gael yr hyder a’r wybodaeth i lywio eu ffordd drwy’r profiadau newydd hyn yn ddiogel. Dyna pam ei bod yn gyffro mawr i ni fod yn bartner i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant. Rydym ni’n gobeithio y bydd y gweminarau hyn yn grymuso myfyrwyr i gymryd rheolaeth ar eu hiechyd rhywiol a’u llesiant ac yn rhoi iddyn nhw sgiliau gwerthfawr i’w helpu i lywio’u ffordd drwy heriau bywyd ar ôl iddyn nhw raddio.”
Ychwanegodd James Mills, Llywydd Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr iawn i mi fod Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda’r Brifysgol i fod yn bartner gyda Brook i gyflwyno cwrs ar gydsyniad dros dair blynedd yn ogystal â chyfres o weminarau sy’n cwmpasu nifer o bynciau’n cynnwys cydsyniad, iechyd rhywiol a llesiant. Mae Brook yn elusen wych ac uchel ei pharch sydd wedi mynd at i addysgu a chyfoethogi pobl ifanc ynghylch addysg rhyw dros y 56 mlynedd diwethaf ac maen nhw ar hyn o bryd yn ceisio herio anghydraddoldeb a chynyddu mynediad at eu gwasanaethau. Ein gobaith yw y bydd y berthynas hon rhwng y Drindod Dewi Sant, Undeb y Myfyrwyr a Brook yn dwyn ffrwyth ac y caiff effaith gadarnhaol ar fywydau ein myfyrwyr”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon eleri.beynon@uwtsd.ac.uk