Y Drindod Dewi Sant yn y 10 Uchaf yn y DU am ‘Ansawdd yr Addysgu’ yn ôl y Times and Sunday Times Good University Guide 2021
18.09.2020
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael ei gosod yn y 10 uchaf am ‘Ansawdd yr Addysgu’ yn nhabl cynghrair y Times and Sunday Times Good University Guide eleni.
Graddio 2019
Cyhoeddir y Times and Sunday Times Good University Guide yn flynyddol ac mae'n darparu safleoedd a phroffiliau llawn ar gyfer 131 o brifysgolion y DU.
Yn ogystal â sicrhau’r 7fed safle ar gyfer 'ansawdd yr addysgu', roedd y Brifysgol hefyd yn 17eg yn gyffredinol yn y tabl 'Cynhwysiant Cymdeithasol' ar ôl cael ei gosod yn 3ydd yn y DU ar gyfer 'myfyrwyr ag anabledd' a 8fed yn y DU ar gyfer 'myfyrwyr aeddfed'.
Mae’r brifysgol hefyd yn dathlu nifer o lwyddiannau ar lefel pwnc. Yn benodol, mae darpariaeth ‘Celf a Dylunio’ y Drindod Dewi Sant wedi cael ei gosod yn gydradd 12fed yn gyffredinol allan o 83 o ddarparwyr ar draws y DU a 1af yng Nghymru.
Dywedodd Barry Liles, OBE, Pennaeth Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru:
“Mae ein darpariaeth Celf a Dylunio ar draws y brifysgol yn canolbwyntio ar ddarparu'r profiad gorau i'n myfyrwyr. Mae'r staff yn angerddol am addysgu a darparu profiad cefnogol i bob myfyriwr ar draws ein cyrsiau celf a dylunio. Rydym yn falch iawn bod hyn wedi cael ei gydnabod gan y Times and Sunday Times Good University Guide.”
Mae'r canlyniadau pwnc amlwg eraill yn cynnwys safle 5 uchaf yn y DU am ‘ansawdd yr addysgu’ mewn Cyfrifiadureg, Peirianneg Fecanyddol, Seicoleg a Pholisi Cymdeithasol gyda Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn sicrhau safle yn y 10 uchaf.
Ychwanegodd Dr Mirjam Plantinga, Pro Is-ganghellor Cysylltiol y Brifysgol (Profiad Academaidd):
“Fel Prifysgol, rydym yn croesawu’r canlyniadau pwnc hyn ac rydym yn arbennig o falch â'n canlyniad ar gyfer ansawdd yr addysgu. Mae sgorio'n uchel mewn perthynas ag ansawdd addysgu yn bwysig i'r Brifysgol gan fod hwn yn faes allweddol lle credwn ein bod yn gallu cynnig gwerth ychwanegol i'r rhai sy'n astudio gyda ni.”
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076