Y gantores / cyfansoddwr caneuon Ify Iwobi a myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant yn cydweithio ar EP a ddaeth i’r brig yn ystod y cyfnod clo
17.11.2020
Mae Ify Iwobi, pianydd, cyfansoddwr a lluniwr caneuon sy’n byw yn Abertawe ac wedi ennill nifer o wobrau, wedi rhyddhau EP a gyd-gynhyrchwyd gyda Dai Griffiths, myfyriwr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae’r EP wedi bod yn llenwi’r tonfeddi.
Mae dau o’r tri thrac ar yr EP Bossin’ It, sef Thinking About You a Love Rapsody, wedi’u pennu’n draciau Rhestr Goreuon Cymru i BBC Radio Wales. Cafodd y trac teitl, Bossin It’, ei gynnwys ar dâp cymysg gan HorizonsCymru, cynllun a gyflwynir gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes, annibynnol, newydd yng Nghymru. Mae’r trac hefyd wedi’i chwarae ar Sioe Adam Walton ar BBC Radio Wales.
Mae Ify Iwobi yn bianydd a chyfansoddwr clasurol/cyfoes o Gymru/Nigeria a astudiodd Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain. Mae hi wedi perfformio’n helaeth o gwmpas Cymru mewn lleoliadau megis Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru. Cwrddodd â Dai pan berfformiodd mewn ffrydiad byw arbennig i fyfyrwyr a staff y Drindod Dewi Sant yn ystod y cyfyngiadau symud yn gynharach eleni.
Bu Dai yn cynorthwyo gyda chefnogaeth dechnegol ar gyfer perfformiad y cyfnod clo. Mae ganddo yntau radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Technoleg Cerddoriaeth o’r Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd mae’n astudio am radd Meistr mewn Sain yn y Drindod Dewi Sant. Mae hefyd yn rhedeg ei wasanaeth cerddoriaeth llawrydd ei hun, Dai Griff Productions, busnes peirianneg sain a chynhyrchu cerddoriaeth. Prif nod y busnes yw darparu gwasanaethau sy’n cwmpasu popeth o gam ysgrifennu cyfansoddiad i gam llunio fersiwn terfynol cân.
Ar ôl y ffrydiad byw i’r Drindod Dewi Sant, dechreuodd Dai ac Ify siarad â’i gilydd gan benderfynu gweithio gyda’i gilydd ar EP.
“Y pethau a roddodd y pleser mwyaf i mi wrth weithio gydag Ify oedd y sylw a roddodd hi i fanylion a’i dycnwch pryd mae’n dod i gael y sain sydd ei heisiau arni,” meddai Dai. Ar yr holl gynyrchiadau hyd yn hyn, mae hi wedi lleisio’i barn am bob manylyn ac rwy’n dilyn ei chyfarwyddiadau’n wylaidd. Mae hi’n gwybod beth mae hi’n dymuno ei chael, sy’n gwneud y broses o greu gymaint yn fwy pleserus.”
Nid yn unig y mae’r traciau sydd wedi deillio o hyn wedi cynyddu niferoedd cefnogwyr Ify; maen nhw wedi cael effaith ffafriol yn achos Dai hefyd.
“Rydw i wedi cael hwb o ran fy nghleientiaid, a’r mwyaf nodedig ohonyn nhw yw Steve Balsamo a chwaraeodd y brif ran yn Jesus Christ Super Star, a Mal Pope sy’n un o sêr leol Abertawe ac yn gyflwynydd radio i’r BBC,” meddai.
I Ify, roedd gweithio gyda Dai yn ystod y cyfnod clo’n brofiad gwahanol iawn i’w ffordd arferol o recordio, ond llwyddodd y ddau i wneud i bethau weithio gan lynu at reolau’r cyfnod clo ar yr un pryd.
“Yn ystod Covid, mae’n hawdd teimlo’n isel am beidio â chael mynediad ffisegol i gynhyrchu a pherfformio,” meddai. “Rhaid i chi fod yn arloesol ac addasu gyda’r amseroedd. Hyd yn oed os nad oedd modd i ni gwrdd yn gorfforol, roedd dal i fod modd i ni drafod syniadau a llunio’r cynnyrch mewn ffordd arall. Er syndod, cafodd yr holl waith cynhyrchu i EP Bossin It’ ei wneud dros y ffôn, lle byddwn i a Dai yn gweithio am oddeutu tair awr neu fwy er mwyn rhoi i lawr y curiad ar gyfer y traciau. Roedd hi’n wahanol ond fe weithiodd.”
Ar Bossin’ It mae cantorion gwadd i’w clywed hefyd, sef Anwar Siziba canwr Rhythm a Blŵs, y rapiwr Cardo Remel, a’r canwr o Nigeria Jinmi Abduls, gan gyfuno arddulliau cerddorol o Affrobît i hip hop.
“Roeddwn i’n wir eisiau canolbwyntio ar fy ngwreiddiau yn Nigeria ar yr EP hwn gan fy mod wedi archwilio f’ochr Brydeinig yn fy albwm,” meddai Ify. “Ces i f’ysbrydoli gan fenywod ac artistiaid du sy’n gweithio’n galed yn y maes, megis Beyoncé a Rihanna, i wneud Bossin It’ yn drac teitl.
“Roeddwn i’n dwlu ar rannu syniadau cerddorol gyda chynhyrchydd a oedd yn cefnogi fy ngweledigaeth. Gweithiodd Dai yn galed a doedd dim yn ormod iddo nes fy mod i’n hapus gyda’r canlyniad. Roedd hynny’n golygu oriau di-ri ar y ffôn yn cynhyrchu a diwygio drafftiau o draciau nes ein bod ni’n cyrraedd y cynnyrch terfynol. Roeddwn i’n hoffi gweithio gyda rhywun â moeseg waith debyg imi fy hun – gan ganolbwyntio ar gael y cynnyrch yn iawn bob tro. Mae Dai hefyd yn amryddawn ac yn cynhyrchu llawer o genres. Hwn oedd y tro cyntaf iddo gynhyrchu Rhythm a Blŵs/Affrobît, ond aeth ati i gynhyrchu’r holl draciau fel pe bai wedi’i wneud ers blynyddoedd.”
Mae Ify a Dai wrth eu boddau â’r ymateb i’r EP, gydag adborth cadarnhaol gan y cefnogwyr a’r cyflwynwyr sydd wedi bod yn chwarae’r traciau ers wythnosau ar y radio.
“Mae’r ymateb wedi fy synnu tu hwnt i’m breuddwydion eithaf,” meddai Ify, sydd bellach yn cynllunio rhyddhau mwy o waith sydd wedi’i gwblhau gyda Dai.
“Rydw i wedi cynhyrchu mwy o draciau Rhythm a Blŵs/Affrobît gyda Dai Griff Productions a fydd yn gwneud albwm sy’n cael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf yn haf 2021,” meddai. “Rwy’n cydweithio gydag artistiaid gwahanol mewn arddulliau eraill megis cantores / cyfansoddwr caneuon a genres electronig. Bydd y traciau hynny’n cael eu rhyddhau’r flwyddyn nesaf. Byddaf i hefyd yn perfformio ar fy mhen fy hun a gyda fy mand o gwmpas Cymru a thu hwnt.”
Ar ben hynny, mae’n gweithio gyda Cherddorfa Lluoedd Arfog Prydain, a bydd yn perfformio Fersiwn Cerddorfaol o’i darn clasurol Flying High gyda nhw, sy’n ymddangos ar ei halbwm Illuminate.
“Mae gen i lawer o heyrn yn y tân ac rwy’n edrych ymlaen at beth sy’n dod nesaf!” meddai. “Hoffwn i ddiolch i’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, a gefnogodd fy mherfformiad yn ystod y cyfnod clo gan agor y drws mewn gwirionedd i’r bartneriaeth hon. Rydw i wrth fy modd i gael fy nghysylltu â Phrifysgol ragorol megis y Drindod Dewi Sant.”
Facebook: Ify Iwobi
Instagram: @ifyiwobi
YouTube: Ify Iwobi
Twitter: @IfyIwobiMusic
Instagram: @daigriffproductions
Facebook: @daigriffproductions
E-bost : david@daigriffproductions.co.uk
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk