Ydy Covid-19 yn gyfle am fwy o addysg gorfforol ansawdd uchel?


16.06.2020

Gydag ysgolion Cymru’n paratoi i groesawu’r holl ddisgyblion yn ôl ddiwedd mis Mehefin, sut fydd athrawon yn gallu sicrhau bod dysgwyr – yn enwedig plant iau – yn cadw at y canllawiau pellhau cymdeithasol o ddau fetr?

Yma, mae Dr Nalda Wainwright, Cyfarwyddwr Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn trafod sut y gallai’r her hon gynnig cyfle i ysgolion feddwl yn wahanol am y defnydd o amser chwarae - ei ddefnyddio fel cyfnod i ddatblygu symudiadau plant a gosod y seiliau ar gyfer gweithgaredd corfforol yn ddiweddarach mewn bywyd.

Dr Nalda Wainwright

Dr Nalda Wainwright.

Wrth i ysgolion ddechrau dychwelyd yn Lloegr ac yn ddiweddarach y mis hwn yng Nghymru, rwy’n siŵr ein bod ni i gyd wedi’n synnu â’r delweddau o wledydd eraill o blant yn eistedd ar eu pen eu hunain mewn ardaloedd wedi’u marcio yn ystod ‘amser chwarae’ i sicrhau pellhau cymdeithasol. Fodd bynnag rwy’n credu bod y cyfnod hwn yn gyfle i ni feddwl yn wahanol am y defnydd o amser chwarae fel cyfnod i ddatblygu symud plant, gan osod y seiliau ar gyfer gweithredu corfforol yn ddiweddarach mewn bywyd, a modelu rhai gweithgareddau y gallent barhau i’w chwarae gartref.

Yma hoffwn amlinellu rhai o’r pethau sydd angen i blant eu dysgu yn ystod plentyndod cynnar a sut y gallwn ddefnyddio newidiadau mewn agweddau yn yr ysgol i greu sesiynau dysgu corfforol hwyliog a chadarnhaol yn ystod amser chwarae.

Mae chwarae yn rhan hynod o bwysig o ddatblygiad plant ac mae’n gyfle i blant ymlacio gyda ffrindiau, a rhedeg o gwmpas, neu sgwrsio a chymdeithasu, datrys problemau ac archwilio syniadau, emosiynau, symud a chreadigrwydd. Fodd bynnag mae’r sefyllfa gyfredol yn golygu nad yw hyn yn bosibl mewn ysgolion am y tro. Mae’r arweiniad ar ymbellhau cymdeithasol yn codi llawer o gwestiynau am sut y gallwn adael i blant chwarae’n ddiogel. Y peth diddorol yn hyn o beth i fi yw mai rhan allweddol o’r hyn y dylai plant ifanc fod yn ei ddysgu yn eu datblygiad ffisegol a’u sesiynau addysg gorfforol yw ymwybyddiaeth ofodol, ac mae hyn yn allweddol wrth i blant ifanc ddod i ddeall gofod a ffiniau personol.

Pan fyddwn ni’n hyfforddi myfyrwyr ac athrawon am ddatblygiad ffisegol mewn plentyndod ifanc rydym ni’n dechrau gyda chysyniadau symud sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys dysgu ymwybyddiaeth ofodol, ymwybyddiaeth o’r corff, dynameg a pherthnasoedd symud. Mae hyn yn helpu’r plant i adeiladu’r hyn rydym ni’n ei alw’n eirfa symud, sy’n eu helpu i ddeall sut i symud a rheoli eu corff yn eu gofod personol ac yna yn y gofod cyffredinol o gwmpas pobl eraill. Mae adeiladu geirfa symud yn golygu y gall plant fod yn fwy creadigol a medrus yn eu symud a gallu symud mewn mwy o amgylcheddau.

I blant sy’n dechrau ysgol dyw’r gorchymyn ‘sefwch mewn gofod’ ddim yn golygu dim oni bai eu bod yn deall beth yw gofod. Mae pellhau cymdeithasol yn hynod o heriol os nad ydych chi’n deall beth yw eich gofod personol.

Y man cychwyn ar gyfer Addysg Gorfforol i blant ifanc iawn yw archwilio ymwybyddiaeth ofodol a chorfforol. Mewn addysg gorfforol gynnar dda mae plant yn dysgu deall eu gofod personol eu hunain a sut i symud o gwmpas heb fynd i mewn i ofod personol plant eraill. Yn yr amgylchiadau presennol yn amlwg mae’r dysgu hwn yn fwy hanfodol nag erioed i blant.

Mae dychwelyd i’r ysgol yn cynnig cyfle i ddefnyddio amser chwarae fel amser ar gyfer Addysg Gorfforol gyda phlant yn dysgu am ymwybyddiaeth ofodol a chorfforol a datblygu geirfa symud a gwella sgiliau. Er nad yw hyn yn chwarae rhydd, mae’n gorfforol, yn hwyl ac yn gymdeithasol (ciwiau mae plant yn eu cysylltu â chwarae) a bydd yn datblygu’r sgiliau fydd yn eu helpu i symud yn fwy diogel a dysgu am reoli’r corff a defnydd o ofod ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Felly sut allwn ni wneud hyn?

Lle bo’n bosibl dylai addysg gorfforol ac amser chwarae fod yn yr awyr agored (gweler canllawiau’r Gymdeithas Addysg Gorfforol ar eu gwefan.

Hefyd bydd angen i blant gael eu bagiau eu hunain o offer i leihau trosglwyddo’r firws. Gallwch weld rhestr o offer a awgrymir i’r Cyfnod Sylfaen (Blynyddoedd cynnar a CA1) a phlant Cyfnod Allweddol 2 ar wefan Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol y Brifysgol.

Mae angen ciwiau ar lawer o blant ifanc i’w helpu i gyrraedd gofod, (fel gyda phobl yn siopa mewn archfarchnad fe ymddengys). Gellir defnyddio croesau bach o dâp / sialc i ddangos i blant ble i sefyll i ddechrau ac yna gallan nhw osod smotyn neu gôn o’u bag offer eu hunain yno. Gan ddilyn y canllawiau dylai pob smotyn neu farciwr neu gylch sialc fod 2m o’i gilydd, hyd yn oed heb Covid19. Mae pob plentyn yn mynd at smotyn.

Yna rydym ni’n archwilio swigen ddychmygol o’n cwmpas … mae ochrau’r swigen mor bell ag y gallwn ni gyrraedd ym mhob cyfeiriad gan gadw un droed a chamu ac ymestyn, fel bod y plant yn gweld bod hon yn swigen fawr iawn o’u hamgylch. Unwaith iddyn nhw ddeall hyn gallwn archwilio cydbwyso a siapau yn ein swigod i ddatblygu ymwybyddiaeth gorfforol.

Wrth i’r plant weld maint eu swigen gallan nhw ddechrau symud o gwmpas y maes chwarae. Y neges bwysig yw na allan nhw daro i mewn i swigen neb arall. Mae angen gwneud hyn yn raddol drwy deithio’n araf o gwmpas y gofod yn gyntaf a dychwelyd i’w smotyn. Wrth iddyn nhw ddysgu rheoli hyn a chadw at eu swigod, gallwch ddechrau cyflwyno (dros sawl sesiwn) gwahanol gyfeiriadau, lefelau, cyflymder a llwybrau teithio. Hefyd gallwch ddechrau archwilio ffyrdd o symud, neidio, sgipio, dwylo a thraed ac ati.

Bydd hyn yn cymryd llawer iawn o sesiynau o ailadrodd ac ymarfer ac felly bydd cyfnodau chwarae 20 - 30 munud yn ddelfrydol, ac mae plant ifanc yn mwynhau archwilio ffyrdd o symud a dysgu sut i reoli eu cyrff. Gellir defnyddio’r ddealltwriaeth o’u gofod personol maen nhw’n ei chael o’r sesiynau hyn i’w hatgoffa wrth symud o gwmpas yr ysgol i helpu gyda phellhau cymdeithasol.

Unwaith maen nhw’n llwyddo i ddeall cysyniad eu swigen ofod gallwn gyflwyno offer syml i ddatblygu sgiliau rheoli gwrthrych. I ddechrau gallai fod yn sgarff syml o’u bag. Mae sgarffiau’n ysgafn ac yn araf ac felly’n hawdd eu taflu a’u dal, gan helpu i ddatblygu tracio llygaid a chydsymud dwylo a llygaid. Gallan nhw gael hwyl yn chwifio’r sgarff i mewn ac allan o’u coesau, ei throi o gwmpas eu corff ac archwilio beth y gallan nhw ei wneud yn y swigen. Hefyd gallan nhw deithio drwy symud a swisio’r sgarff gan fod hyn yn newid teimlad ac ansawdd y symudiad iddyn nhw a hefyd adeiladu cryfder breichiau ac ysgwyddau sy’n bwysig ar gyfer rheolaeth echddygol fanwl. Yn yr un modd gallan nhw ddefnyddio sach ffa a theithio gyda hon wedi’i chydbwyso mewn gwahanol ffyrdd. Bydd angen eu hatgoffa’n rheolaidd i beidio â chyffwrdd ag offer plant eraill ac i aros yn eu swigen.

Ymagwedd allweddol rydym ni’n ei defnyddio i hyfforddi myfyrwyr Addysg Gorfforol a darpar athrawon yw defnyddio gerddi (parthau). Mae hon yn strategaeth sy’n rhoi preifatrwydd wrth ddysgu plant mewn Addysg Gorfforol sy’n bwnc a all fod yn rhy weladwy i blant nad ydyn nhw’n rhagori. Mae defnyddio gerddi’n fodd i wneud Addysg Gorfforol yn fwy cynhwysol, mae’n caniatáu i blant weithio ar dasg yn eu ffordd eu hun a gan fod y plant yn gweithio yn eu gerddi eu hunain (cyn covid19 gyda ffrindiau) dydyn nhw ddim yn gwylio beth sy’n digwydd mewn gerddi eraill. Mae hyn hefyd yn golygu bod athrawon yn gallu symud o gwmpas y gerddi a chynnig cymorth neu her fel bo angen fel bod y disgyblion yn gweithio ar lefel briodol. Ar hyn o bryd mae’r gerddi’n fodd delfrydol i blant barhau i gael profiadau symud ystyrlon. Gan ddefnyddio’r 4 côn yn eu bag offer, maen nhw’n gosod eu gerddi fel gofod symud. Yna gellir newid ei maint a’i siâp gan ddibynnu ar y gweithgaredd.

Felly pa fath o weithgareddau allwch chi eu gwneud yn eich gardd?

Gemau taflu syml; sawl daliad a bownsio gall y plant eu gwneud? (Defnyddiwch y peli gwahanol yn eu bag offer). Allan nhw wneud patrymau o fownsio a dal ac ailadrodd? Allan nhw symud eu gardd at wal i chwarae gemau dal yn erbyn y wal?

Gemau Targed: Targedau ar wal, ffens, meinciau ar gyfer taflu / rholio. Mae’r gemau targed hyn yn ddelfrydol ar gyfer gwaith trawsgwricwlaidd drwy ddefnyddio rhifau / llythrennau / geiriau y gall y plant eu cofnodi gyda sialc ar y llawr neu ysgrifennu mewn llyfr nodiadau. Ceir llawer o weithgareddau rhifedd a llythrennedd i’w gwneud mewn ffordd gorfforol fydd yn fwy difyr i’r plant na thaflenni gwaith a thrwy hyn gall athrawon eu helpu gyda’u sgiliau corfforol hefyd. Er enghraifft mae taflu at y targed yn golygu y gellir annog y plant i gamu gyda’u troed arall a gwella eu sgiliau taflu wrth iddynt gasglu rhifau ar gyfer tasg adio. (Am ragor enghreifftiau ewch i’n gwefan – dolen).

Gall pant hefyd greu dilyniannau syml o symudiadau - dyma ffurf syml ar gymnasteg neu ddawns, rhoi her i’r plant gysylltu nifer o weithgareddau e.e. hopio, rholio, cydbwyso, naid cwningen. Heriwch nhw yn y gweithgareddau hyn yn defnyddio cysyniadau symud - allan nhw deithio mewn cyfeiriadau, lefelau, cyflymder gwahanol, a gwneud llwybrau newydd? Allan nhw ddefnyddio rhannau gwahanol o’r corff i deithio neu gydbwyso a symud mewn ffyrdd gwahanol?

Gan ddefnyddio’r cylch, smotiau a sialc o’u bag offer gall y plant ddatblygu eu dilyniannau a gwneud cwrs rhwystrau syml yn eu gardd. Gallant deithio o gwmpas eu cyrsiau’n casglu gwrthrych a’i drawsgludo e.e. bag ffa wedi’i osod ar fat, neu ar y bol, neu’r pen. Heriwch nhw i symud mewn cyfeiriadau neu lefelau gwahanol, neu ddefnyddio rhannau gwahanol o’r corff.

Gallant chwarae gemau hopscotch traddodiadol, naill ai ar farciau’r iard neu ddefnyddio sialc. Mae’r rhain yn helpu plant i ddatblygu eu sgiliau neidio sylfaenol ac yn helpu gyda chryfder coesau, cydbwyso a chydsymud.

Pan fydd y plant wedi arfer â’u gofod eu hunain a symud heb fod yn agos at eraill, mae gweithgareddau awyr agored anturus hefyd yn elfen o’r cwricwlwm Addysg Gorfforol y gellir ei defnyddio’n ddiogel o fewn y canllawiau ac sydd yn aml wedi’i thanddefnyddio oherwydd amlygrwydd chwaraeon traddodiadol. Gellir gosod gweithgareddau cyfeiriadu syml, fel trywyddion i blant eu cwblhau’n unigol. I blant iau gellir defnyddio cwrs seren lle mae plant yn mynd at farciwr ac yn dychwelyd at yr athro ar ôl dod o hyd i bob marciwr i gael y cliw / cyfarwyddyd nesaf. Drwy anfon y plant at wahanol farcwyr gellir cadw eu pellter cymdeithasol. Mae gan farcwyr air / rhif i’w casglu mewn llyfr nodiadau o bellter diogel a gallai’r rhain fod yn rhan o dasg i’r dosbarth neu bôs i’w ddatrys. I atgoffa plant i gadw pellter yn y gweithgareddau gallent ddod â’u côn / smotyn allan i ddychwelyd ato rhwng pob cliw. Yna gall parau drafod wrth eistedd / sefyll ar bellter diogel wrth eu côn / smotyn eu hunain.

Os oes gennych chi fannau naturiol yn yr ysgol, mae’r rhain yn ddelfrydol i blant wneud dens, celf natur, chwilio am chwilod ac ati. Gellir gwneud y rhain yn unigol, gan gynnig ysgogiad ar gyfer trafod yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.

Gobeithio y bydd y syniadau a amlinellir yn y podlediad hwn yn cynnig man cychwyn gyda ffyrdd y gall Addysg Gorfforol dda roi cyfleoedd dysgu pwrpasol, diddorol a difyr i’r plant fydd yn eu helpu i ddeall gofod ac felly symud yn ddiogel ym mhob agwedd ar fywyd yn ystod yr argyfwng hwn. Mae symud yn rhywbeth rydym ni wedi’n cynllunio i’w wneud fel rhywogaeth ac rydym i gyd yn deall yn iawn sut mae gweithgaredd corfforol dyddiol yn cynorthwyo ein hiechyd meddyliol yn ogystal â chorfforol. Os ydym ni am gynnal iechyd a llesiant tymor hir ein plant rhaid i ni sicrhau eu bod yn gwybod sut i symud yn dda er mwyn iddynt ei fwynhau ac wrth iddynt dyfu, eu bod yn gweld symud yn rhan annatod o’u bywyd, ac yn allweddol i bwy ydyn nhw.

Gallwch wrando ar Dr Nalda Wainwright yn trafod y darn hwn fel rhan o gyfres o bodlediadau'r Brifysgol ar dudalen 'Safbwyntiau' y Brifysgol ac ar blatfformau  SpotifyApple a Spreaker.

Dr Nalda Wainwright

Dr Nalda Wainwright yw Cyfarwyddwr Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Hi hefyd yw Cyfarwyddwr Rhaglen MA y Brifysgol mewn Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol, ac mae’n Brif Ddarlithydd mewn Addysg Gorfforol ac Addysg Awyr Agored.

Mae Dr Wainwright yn arbenigwr rhyngwladol ym maes llythrennedd Corfforol, gydag ymchwil yn canolbwyntio ar weithredu’r cwricwlwm yng Nghymru, yn benodol sut mae’r Cyfnod Sylfaen yn cyflawni canlyniadau mewn perthynas â Llythrennedd Corfforol.

Bu’n Is-gadeirydd y Gymdeithas Llythrennedd Corfforol Ryngwladol ac yn aelod o grŵp Arbenigol Llythrennedd Corfforol Chwaraeon Cymru. Hefyd arweiniodd Dr Wainwright ddatblygiadau yn y gwaith hwn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a chyflwynodd dystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i Weithgaredd Corfforol Plant a Phobl Ifanc.

Fel cadeirydd y Grŵp Ymchwil Gweithredu Llythrennedd Corfforol yng Nghymru ac arweinydd Strategol y prosiect Llythrennedd Corfforol yn y rhanbarth, bu’n rheoli grant rhanbarthol y llywodraeth ar gyfer llythrennedd corfforol mewn ysgolion.

Mae Dr Wainwright hefyd yn Ymgynghorydd Arbenigol Rhyngwladol i Gomisiwn Chwaraeon Awstralia, Safonau a Fframwaith Llythrennedd Corfforol ac yn aelod gwadd o grŵp Ymchwil Llythrennedd Corfforol Sport For Life Canada ac aelod o’r Consortiwm Datblygiad Echddygol Rhyngwladol.

Fel athrawes ysgol gynradd brofiadol, mae Dr Wainwright hefyd wedi gweithio mewn addysg athrawon yn canolbwyntio ar addysg gorfforol gynradd, datblygu iaith a chynhwysiad ac roedd yn ymgynghorydd arweiniol ar y prosiect Cynhwysiad Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn ymchwilio ac awduro adnoddau hyfforddi a datblygu proffesiynol i athrawon yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth am ycyrsiau Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored a gynigir yn Y Drindod Dewi Sant, ewch i'r wefan.

 

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sian-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 07449 998476 sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk