Un o raddedigion Actio Y Drindod Dewi Sant yn sefydlu Cwmni Theatr ym Merthyr i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf


03.11.2021

Mae un o raddedigion y cwrs BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyd-sefydlu cwmni theatr ym Merthyr Tudful i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent.

Kira Bissex smiles into the camera.

Mae Kira Bissex a Kayleigh Adlam, Darlithydd a Chydlynydd Cwrs ar gyfer Drama a’r Celfyddydau Perfformio yn y Coleg, Merthyr Tudful, wedi sefydlu Merthyr Acting ar gyfer myfyrwyr gorffennol a phresennol y coleg.

Meddai Kira: “Mae Kayleigh a minnau yn angerddol am roi llwyfan i bobl ifanc greu theatr sy’n bwysig iddyn nhw. Yng Nghymoedd De Cymru, y tu allan i ffiniau addysgol traddodiadol mae diffyg darpariaeth ar gyfer hyfforddiant actio o safon uchel. Roedden ni eisiau newid hynny a chreu cwmni lle mae gan yr aelodau reolaeth greadigol dros yr hyn maen nhw’n ei gynhyrchu, a darparu cysylltiadau â hyfforddiant o ansawdd sy’n berthnasol i’r diwydiant, gan baratoi aelodau ar gyfer y diwydiant.”

Nod y cwmni yw gallu ymweld â gwyliau ymylol, theatrau rhanbarthol, a chreu cydweithrediadau gyda Cwmnïau Theatr yn y DU a thu hwnt. Maent eisoes wedi gwneud cysylltiadau cyffrous gyda sefydliadau yn y celfyddydau perfformio sy wedi hen ennill eu plwyf er mwyn eu galluogi nhw i gyflwyno aelodau i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chynnal dosbarthiadau meistr ym mhob maes.

Mae gweithdai blasu newydd eisoes ar waith, ac ar ôl hanner tymor mis Hydref byddant yn cynnal clyweliadau castio.

Astudiodd Kira Actio yn y Drindod Dewi Sant rhwng 2016-2019 a chafodd ei haddysgu gan Lynne Seymour a Dave Ainsworth.

Meddai: “Pan oeddwn i’n gwneud cais ar gyfer UCAS ac yn dechrau mynd i ddiwrnodau agored mewn prifysgolion o gwmpas y DU, roedd rhywbeth am Y Drindod Dewi Sant a oedd jyst yn teimlo’n iawn. Roedd hi’n glyd, yn gartrefol, ac ar yr un pryd yn rhoi’r annibyniaeth i mi roeddwn i ei heisiau pan oeddwn i’n 18 oed. Roedd strwythur y cwrs yn fy siwtio, gan ganolbwyntio’n bennaf ar waith ymarferol, ac uwchsgilio i actorion, gan roi’r holl sgiliau a phrofiadau i mi fynd i mewn i’r diwydiant. Roedd pawb y cwrddais i â nhw yn y diwrnod agored MOR gyfeillgar a chroesawgar, roeddwn i jyst yn gwybod pryd hynny mai y Drindod Dewi Sant oedd ble roeddwn i eisiau treulio’r 3 blynedd nesaf.”

Dywedodd Kira fod tri phrif sgil a addysgwyd yn ystod ei chyfnod yn y Drindod Dewi Sant wedi aros gyda hi: gwydnwch, proffesiynoldeb, ac ymroddiad.

“Cyn fy amser yn y Drindod Dewi Sant doeddwn i erioed wedi rhagori mewn addysg ac wedi meddwl na fyddwn i ddim yn llwyddo, ond ers astudio yn y Drindod Dewi Sant mae fy ngolwg wedi newid yn llwyr,” ychwanegodd. “Dw i wedi dod o hyd i rywbeth dw i’n caru ei wneud, rhywbeth dw i’n gallu ymroi yn llwyr i’r gwaith oherwydd y sgiliau dw i wedi eu dysgu tra fy mod yn y brifysgol.”

Yn ystod ei chyfnod yn y Drindod Dewi Sant, dywedodd Kira ei bod wedi tyfu mewn hyder, ac mae hi’n ddiolchgar am y cymorth parhaus a roddwyd iddi gan ei darlithwyr.

Meddai: “Gadawodd Lynne a Dave i mi wthio fy hun a gwelon nhw botensial ynof i nad oeddwn i ddim y gweld fy hun. Rhoddodd astudio yn y Drindod Dewi Sant hwb mawr i mi mewn hyder a darparodd yr adnoddau a’r cymorth i’m helpu yn fy nhaith, a pharhau i’m cynorthwyo wedi graddio mwy na 2 flynedd nes ymlaen.”

Meddai Cydlynydd y Rhaglen BA Actio Lynne Seymour:  “Roedd Kira yn fyfyrwraig hynod ymroddgar gyda llawer o dalent ac ymroddiad.  Yn ystod ei thair blynedd gyda ni fe ddatblygodd ei sgiliau ymarferol a gwnaeth gysylltiadau ardderchog gyda’r holl weithwyr proffesiynol o’r diwydiant sy’n addysgu, cyfeirio a chyfrannu at y cwrs.  Drwy’r profiadau hyn fe ragorodd gyda chydweithio ac arweinyddiaeth ac roedd Dave a minnau bob amser yn gwybod mai ei thynged oedd defnyddio ei thalentau nid yn unig i symud ymlaen fel perfformiwr unigol, ond hefyd i annog a chefnogi eraill. Rwy wrth fy modd ei bod yn parhau gyda’i thaith greadigol ac yn llawn cyffro i weld beth bydd hi’n ei gyflawni gyda’i chwmni newydd a’i chydweithrediadau.  Does dim amheuaeth gyda fi y bydd hi’n ysbrydoli llawer o bobl ifanc i ddod o hyd i’w lleisiau a datblygu eu doniau creadigol ac y bydd Kira a’i thîm yn dod yn rhan bwysig o dirwedd y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.”

Wrth i Kira ddefnyddio’r sgiliau a’r profiadau a ddysgodd o’r brifysgol i gychwyn ar fenter newydd sy’n hyfforddi actorion y dyfodol i’r diwydiant, mae gyda hi weledigaeth gref.

"Dw i eisiau gwneud theatr yn hygyrch i bobl o bob cefndir, gan roi llais i’r sawl sy wedi eu tangynrychioli. Hoffwn hefyd wneud rhagor o waith yn yr iaith Gymraeg ac ymgorffori hanes a mytholeg Cymru i’r theatr. Mae cynifer o gamau i’w cymryd o ran gwneud theatr yn hygyrch i’r rhai sy’n byw yng Nghymoedd De Cymru, ac rydyn ni’n falch o fod yn rhoi naid”.

Nodyn i'r Golygydd

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk