Abertawe Agored 2021
07.10.2021
Mae’r Athro Uzo Iwobi, OBE, sy’n Gymrawd er Anrhydedd yn y Drindod Dewi Sant, a Chyfarwyddwr Academaidd Coleg Celf Abertawe, Caroline Thraves, wedi’u henwi’n ddewiswyr ar gyfer Abertawe Agored 2021.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe wedi cyhoeddi dychweliad y dathliad blynyddol o gelf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr sy’n byw ac yn gweithio yn Ninas a Sir Abertawe.
Mae’r arddangosfa ar agor i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn SA1-SA9, gan gynnwys artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol a rhai sydd, heb astudio’n ffurfiol, wedi darganfod y manteision a’r heriau sy’n deillio o weithgarwch creadigol.
Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Y dewiswyr gwadd eleni yw Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Coleg Celf Abertawe) a’r Athro Uzo Iwobi OBE, sydd ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Polisi Arbenigol Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac yn Sylfaenydd Cyngor Hil Cymru.
Meddai Caroline Thraves: “Rwy’n falch iawn i gymryd rhan yn y broses o ddethol gwaith ar gyfer Abertawe Agored. Mae’r ddinas yn fwrlwm o dalent greadigol, llawer ohonynt wedi astudio yng Ngholeg Celf Abertawe (YDDS). Mae’n mynd i fod yn bleser dewis yr artistiaid ar gyfer y rownd derfynol.”
Meddai’r Athro Iwobi: “Rwy wrth fy modd i fod yn rhan o Abertawe Agored. Mae’n gyfle cyffrous i weithio gydag eraill sy’n frwdfrydig am gelf i ddethol gweithiau sy’n adrodd straeon ac arddangos y cyfoeth a’r amrywiaeth y mae artistiaid yn eu cyflwyno yn eu gwaith. Rydym yn chwilio am ddarnau unigryw a gaiff eu gweld gan bob ymwelydd fydd yn ymweld ag oriel gelf Glynn Vivian. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y gweithiau’n denu torfeydd i’r Oriel Gelf wych hon yng nghanol ein dinas. Dyma gyfle cyffrous iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r fenter hon.”
Bydd y gweithiau’n cael eu harddangos yn yr oriel tan 30 Ionawr 2022, gyda llawer o’r gweithiau ar werth fel rhan o’r arddangosfa.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk