Cyd-sylfaenydd ‘The Harmoious Society’ yn cael ei benodi’n Athro Ymarfer yn Y Drindod Dewi Sant
02.11.2021
Mae’r Athro David A Kirby, deiliad Gwobr y Frenhines am Hybu Menter a chyd-sylfaenydd ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ wedi’i benodi’n Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) i weithio’n agos gydag Athrofa Cytgord y Brifysgol.
Mae gan y brifysgol enw da sy’n tyfu mewn perthynas â chynaliadwyedd, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac egwyddor ‘Cytgord’. Mae’r Drindod wedi bod yn datblygu polisïau a dulliau addysgu sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd ers nifer o flynyddoedd - a bellach mae’n datblygu cysyniad athronyddol Cytgord o fewn y cwricwlwm mewn cysylltiad â’r gymuned ehangach.
Cyflwynir y teitl ‘Athro Ymarfer’ i unigolyn i anrhydeddu a chydnabod y person hwnnw am ennill bri academaidd a/neu broffesiynol yn y disgyblaethau hynny sy’n cyd-fynd â bwriadau strategol y Brifysgol.
Mae’r Athro Kirby yn academydd yn y DU sydd wedi arloesi addysgu Entrepreneuriaeth yn y DU ac yn rhyngwladol, yng Nghymru ar y cychwyn. Yn 2006, fe dderbyniodd Wobr y Frenhines am Hybu Menter am ei waith ymchwil, addysgu, hyfforddi, ac ymgynghori yn y maes.
Ar ôl dal Cadeiryddiaethau mewn Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgolion Durham a Surrey, o 2007-2017 ef oedd Deon sefydlu ac Is-Lywydd y Brifysgol Brydeinig yn Yr Aifft, menter gymdeithasol y gwnaeth helpu ei lansio i gyflwyno Addysg Uwch Prydain i’r wlad. Yma, cyflwynodd arbenigedd gradd gyntaf y wlad mewn Entrepreneuriaeth a chynhaliodd ymchwil i Addysg Entrepreneuriaeth, Prifysgolion Entrepreneuraidd a Throsglwyddo Technoleg Prifysgol.
Yma, hefyd, bu iddo gwrdd â’r ffarmacolegydd ac entrepreneur cymdeithasol, Dr Ibrahim Abouleish, sylfaenydd SEKEM, menter fasnachol yn creu cymuned amaethyddol ffyniannus sy’n cofleidio pobl a phlaned yn ogystal ag elw.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn o groesawu’r Athro Kirby i’r Brifysgol. Mae gan Athrawon Ymarfer gyfraniad penodol i’w gwneud mewn perthynas â’n henw da cynyddol ym maes cynaladwyedd, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac egwyddor ‘Cytgord’. Ers sefydlu’r Drindod Dewi Sant, rydym wedi galluogi ffyrdd newydd o edrych ar y byd am berthynas fwy cytûn rhwng y ddynoliaeth a natur a'r angen am well dealltwriaeth a goddefgarwch - mwy o gytgord - rhyngom ac yn ein plith. Nod y brifysgol hon a champws Llambed yn benodol yw bod yn oleufa wrth brofi rhagdybiaethau o'r fath yn ysbryd cytgord.”
Meddai’r Athro Kirby: “Mae’n bleser o’r mwyaf gen i dderbyn y gwahoddiad i ddod yn Athro Ymarfer yn y Brifysgol. Bydd gweithio ochr yn ochr â Felicity Healey-Benson, cyd-sylfaenydd ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ gyda fi ac Eiriolwr Dysgu Entrepreneuraidd yn Y Drindod, a Dr Kathryn Penaluna, Rheolwr Entrepreneuriaeth y Brifysgol, yn ogystal â chydweithwyr yn Athrofa Cytgord y Brifysgol, yn caniatáu i ni ddatblygu’r Gymdeithas a pharhau i weithio ar agweddau ar entrepreneuriaeth a chynaliadwyedd yng Nghymru.
“Nid yn unig y mae gan Y Drindod ymrwymiad cryf i adfywio yng Nghymru, ond mae ei Hathrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol wedi cael effaith sylweddol yn rhyngwladol, a nod ei Hathrofa Cytgord yw datblygu ymholi academaidd i gysyniad Cytgord a’i gymhwysiad. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda nhw.
“Yn yr ‘Harmonious Entrepreneurship Society’, rydym yn credu mewn cydweithredu a gweithio mewn Cytgord i ymdrin â’r her Cynaliadwyedd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi, pa le bynnag ydych chi yn y byd. Yn ôl y bardd ac athronydd Tamil hynafol, Thiruvalluvar, “Ystyrir bod un nad yw’n gallu byw mewn cytgord ag eraill yn ffŵl anwybodus, hyd yn oed os yw’n digwydd bod yn ddysgedig mewn materion eraill.”
“Felly gadewch i ni weithio gyda’n gilydd mewn Cytgord oherwydd bydd “popeth o dan yr haul yn ffynnu pan fo cytgord yn trechu” (Xun Zi).
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk