Gardd Canolfan S4C Yr Egin yn barod i ‘Flaguro’.
20.10.2021
Bydd gardd gymunedol Canolfan S4C Yr Egin sy’n rhan o’r prosiect ‘Blaguro’ yn cael ei agor yn swyddogol yr wythnos hon.
Wrth wraidd y sector greadigol yn ne-orllewin Cymru, y mae Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.
Mae’r prosiect ‘Blaguro’ sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi sefydlu gardd gymunedol ar dir Yr Egin, lle mae ymarferwyr creadigol wedi cydweithio â grwpiau cymunedol yr ardal i wneud y safle yn ddeniadol ac apelgar. Cynlluniwyd y prosiect fel ffordd o ail-gysylltu gyda chymunedau tref Caerfyrddin ôl-covid gan geisio bod mor gynhwysol â phosibl.
Yn dilyn galwad agored i artistiaid sy’n byw yn rhanbarth de Orllewin Cymru ychydig fisoedd yn ôl, dewiswyd chwech o artistiaid i ymgymryd â’r prosiect, sef Betsan Haf, Rebecca Kelly, Mark Folds, Dorothy Morris, Emma Baker ac Eddie Ladd. Mae’r amrywiaeth o sgiliau ac arbenigedd sydd gan yr holl artistiaid yma wedi llwyddo i wneud y prosiect yn un hygyrch ac apelgar.
Bydd yr ardd yn cynnwys gwaith celf sydd wedi ei dylunio a’i greu gan y grwpiau cymunedol i gyd. Y grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yw Caerfyrddin 50+, Canolfan Elfed, Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth Caerfyrddin, Dr Mz, Myfyrwyr BA Drama Gymhwysol: Addysg Lles Cymuned Drindod Dewi Sant, Criw Gwneud Bywyd yn Haws, Lisa Fearn a Chegin Y Sied. Dyma ben llanw i'r cyfnod o greu i’r grwpiau am y tro, ond mae’n gychwyn y daith i'r ardd gymunedol.
Meddai Llinos Jones, Swyddog Prosiect Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin: “Dyma gyfle arbennig i ddathlu creadigrwydd y gymuned yma yng Nghaerfyrddin. Mae wedi bod yn fraint gweld pobol o bob oed yn mwynhau ac yn datblygu yn greadigol, boed hyn yn waith llaw, sgwrsio mewn man diogel, gwaith digidol a dawns. Edrychaf ymlaen at weld yr ardd yn datblygu dros y misoedd nesaf, gan gynnig llawer iawn mwy o gyfleoedd i'r gymuned ehangach fod yn rhan bwysig yma yn Yr Egin. Dyma gychwyn cyffrous iawn ar brosiect hir dymor cyfranogol yn y dref.”
Yn ystod yr agoriad swyddogol fydd yn cymryd lle ar nos Wener, Hydref 22ain, bydd cyfle i bobl sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect ddod ynghyd â ffrindiau ac ymwelwyr Yr Egin i weld y gwaith gorffenedig wedi’i osod yn yr ardd. Bydd y cyfan wedi cael ei oleuo’n arbennig gan un o dechnegwyr Yr Egin, Jason Lye Phillips, a Gareth Dean o gwmni Wired Wood. Bydd modd i’r ymwelwyr fedru cerdded o gwmpas yr ardd i werthfawrogi’r campweithiau celf yn sŵn cerddoriaeth gefndirol rhai o gerddorion lleol tref Caerfyrddin.
Yn ogystal, bydd yna berfformiadau byw gan fyfyrwyr dawns Prifysgol Cymru Y Drindod Sant yn yr awyr agored o dan arweiniad Eddie Ladd.
Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin: “Mae prosiect Blaguro wedi dal dychymyg y gymuned ac mae wedi bod yn wych medru cefnogi artistiaid y rhanbarth yn ystod cyfnod anodd drwy’r arian grant. Mae yma arbenigedd mewn cynifer o feysydd a bydd yr ardd yn gymysgedd arbennig o gelf, cerddoriaeth a chynnwys digidol wedi ei greu gan blant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed a chefndir. Bu ein gerddi yn hafan ac yn noddfa yn y cyfnod diweddar hwn ac rydym yn falch o fedru cynnig gofod y tu allan i'r Egin i bobl sydd efallai heb ardd neu ofod cyffelyb ac i gymuned Yr Egin fwynhau yn ystod y diwrnod gwaith gan danio creadigrwydd. Dyma ddechrau’r prosiect ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio pellach gyda grwpiau a chymdeithasau i ddatblygu Caerfyrddin Greadigol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476