Myfyriwr Gwneud Ffilmiau Antur Y Drindod Dewi Sant yn rhedeg tîm styntiau ar gyfer sesiwn tynnu lluniau Vogue


01.11.2021

Yn ddiweddar mae myfyriwr o gwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi rhedeg tîm styntiau ar gyfer sesiwn tynnu lluniau Vogue yn Margate.

Tom Smith stands on a grassy clifftop wearing safety gear.

Roedd Tom Smith yn gyfrifol am rigio cynhyrchiad oedd yn cynnwys 100 o bobl ar gyfer sesiwn tynnu lluniau o fag llaw, a fydd yn ymddangos yn y cylchgrawn Vogue. Yn ystod y sesiwn tynnu lluniau 13 awr roedd y ffotograffydd Harley Weir eisiau cynnwys un llun ar dop y clogwyni, a rôl Tom oedd bod yn gyfrifol am y rhaffau, ac i’w chadw hi a’r criw yn saff yn ystod y cynhyrchiad.  

Meddai Tom: “Trwy rwydweithio, digwyddais gwrdd â rhywun roeddwn yn ei adnabod oedd newydd weithio yn y cylchoedd mawr iawn yma. Soniais fy mod yn dwlu ar yr awyr agored, fy mod yn weithgar, ac yn barod am her. Ar ôl cael fy ngwrthod sawl gwaith, cynigiwyd y swydd hon i mi.”

Yn fyfyriwr BA Gwneud Ffilmiau Antur yn ei drydedd flwyddyn, cafodd Tom ei ddenu gan y cwrs am nifer o resymau. Wrth dyfu i fyny yng Ngogledd Cymru, roedd ganddo gariad at yr awyr agored, ond hefyd cafodd ei arwain gan ei ymennydd creadigol i feddwl yr hoffai gwneud bywoliaeth yn gwneud rhywbeth roedd wir yn ei fwynhau. Roedd arno eisiau dod o hyd i gwrs ymarferol a fyddai’n ei weddu. Ar ôl chwilio am gwrs Gwneud Ffilmiau Antur, daeth Tom ar draws Y Drindod Dewi Sant.

“Mae’r cwrs yn real...does dim fflwff o’i gwmpas. Rhoddir briffiau i chi ar eich diwrnod cyntaf un, a chewch wybod beth yn union mae angen i chi ei wneud erbyn y dyddiad cau. O gwmpas hyn, mae yna lawer o gyfleoedd. Eich dewis chi yw beth rydych am ei wneud, ond po fwyaf y taflwch eich hun ato, y mwyaf y byddwch ar eich elw. O gymryd rhan a ffilmio ymarferion chwilio ac achub, i fod yn y stiwdio’r diwrnod nesaf yn dysgu am onglau camera a gweithio gydag actorion, sy’n gwbl wahanol!”

Pan ymunodd Tom â’r cwrs ar y dechrau, dywedodd tiwtor y cwrs, Dr Brett Aggersberg, wrth y dosbarth mai dymuniad yr adran yw gweld bod eu myfyrwyr yn gadael y cwrs ar ei ddiwedd yn wneuthurwyr ffilmiau antur hunangynhaliol a phroffesiynol.

Yn dilyn y newyddion am brofiad gwaith Tom, dywedodd Dr Brett Aggersberg: “Rydym yn eithriadol o falch dros Tom gan fod ei brofiad yn enghraifft o un o’r cyfleoedd niferus sydd ar gael yn y maes cyffrous hwn i raddedigion ein gradd BA Gwneud Ffilmiau Antur. Mae Tom wedi gallu cyfuno ei wybodaeth arbenigol am ddringo gyda’r sgiliau a gwybodaeth gwneuthurwr ffilmiau creadigol er lles y sesiwn tynnu lluniau Vogue. Mae’n bwysicach nag erioed i fyfyrwyr ystyried eu hunain yn ymarferwyr proffesiynol dan hyfforddiant a gwneud yn fawr ar bob cyfle. I feithrin eu diddordebau a’u troi’n broffesiwn.”

A female camerawoman faces the edge of a cliff; she is wearing a hardhat and safety lines.

Un peth mae Tom yn ei hoffi am y cwrs, yw ei fod yn cyfleu realiti gweithio yn y diwydiant.

“Mae’r cwrs yn eich paratoi. Rydym yn siarad llawer am offer; a beth sydd ei angen arnoch, ond er mwyn ei ddefnyddio, rhaid dysgu’r logisteg. Rhaid i chi ddeall na allwch chi gyrraedd i ffilmio heb fod wedi cynllunio am 2-3 diwrnod ymlaen llaw er mwyn darparu’r gwasanaeth ac yna ôl-gynhyrchu wedyn hefyd. Mae natur realistig y cwrs yn eich paratoi ar gyfer y tu allan.”

Ychwanega: “Mae gennym fodiwl cyfan ar ddigwyddiadau a phethau tyngedfennol, ac arweinyddiaeth antur awyr agored – roedd hynny ar waith ym mhob ffordd pan oeddwn yn gyfrifol am y tîm styntiau yn y sesiwn tynnu lluniau. Wedi gweithio’n galed a gwrando ar gyngor Brett, sef rhoi 100% i’r cwrs, mae eich cymwysterau’n llifo’n syth nôl allan i ddiwydiant y cyfryngau. Roedd gweld tarddiad y cwrs yn ddiddorol, a sut mae rhywun sy’n astudio gwneud ffilmiau antur, a’u bod yn gwneud pethau anturus a gweithio gyda chriw – eich bod yn ffitio i mewn i gilfach sydd wir ei angen ar bobl. Mae arna’i lawer i’r cwrs, heb os!”

Yn ogystal ag astudio BA Gwneud Ffilmiau Antur yn y Brifysgol, mae e wedi cofrestru ar gyrsiau eraill hefyd fel y cwrs achub â rhaff, cwrs cymorth cyntaf, a chwrs peilot drôn.

“Fy ffordd o feddwl oedd, os oeddwn i’n mynd i wneud y cwrs yma, yna rwy’n dysgu llawer yn well drwy wneud pethau ymarferol. Yn fy mhen, roeddwn yn dweud wrthyf fi fy hun rwy’n mynd i wneud y radd yma yn y Brifysgol, ond ar yr un pryd, rwy’n mynd i fynd allan a gwneud yr hyn rwy’n ei ddysgu a’i roi ar waith.”

Yn ystod ei amser yn Y Drindod Dewi Sant, mae Tom wedi gweld datblygiad yn bersonol ac o ran ei set sgiliau, ac mae’n teimlo bod ei ymrwymiad a’i waith caled wedi bod yn werth y drafferth, gan roi amrywiaeth o gyfleoedd iddo.

“Os ydych chi am fod yn wneuthurwr ffilmiau proffesiynol, dyma’r camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd. Mae yna fodylau lle rydych chi’n gwneud pethau anghyfarwydd neu nad ydych yn eu hoffi... mae’n eich gwneud yn anghyfforddus, a dyma pryd y byddwch yn dysgu’r mwyaf amdanoch chi eich hunan.”

Wrth i Tom edrych ymlaen at raddio ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, ei nod yw datblygu ei bortffolio a dod o hyd i waith pellach posibl dramor mewn lleoedd amgylcheddol anghyfeillgar gwyllt, anturus fel jyngls, fforestydd ac yn y mynyddoedd, yn ogystal â gweithio’n agosach i adref ar gynyrchiadau cyffrous.

Tom Smith stands next to his climbing gear.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk