Myfyriwr Hyfforddi a Mentora i gychwyn cyn hir fel darlithydd yn y Drindod Dewi Sant
27.10.2021
Bydd myfyriwr MA Hyfforddi a Mentora o Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol yn cychwyn cyn hir fel darlithydd yn y tîm.
Mae Gary Metcalfe yn gweithio tuag at MA Hyfforddi a Mentora gyda’r Academi ac mae’n edrych ymlaen at ei her nesaf. Bydd Gary yn gweithio’n agos â chyflogwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i ddynodi eu rhaglenni dysgu a datblygu cyfredol a sut mae’r rhain yn bodloni gofynion achredu.
Daeth Gary i’r Drindod Dewi Sant yn gyntaf fel myfyriwr am ei fod yn dymuno ymgymryd â gradd ymchwil Meistr yn seiliedig ar waith, ac iddo yntau roedd y radd Meistr mewn Hyfforddi a Mentora yn ddelfrydol.
I Gary, mae’r cwrs “yn rhoi cydnabyddiaeth i mi ar gyfer y gwaith rydw i wedi’i wneud yn ystod fy ngyrfa waith hyd yn hyn ac mae’n fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau newydd a gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil academaidd.”
Mae Gary hefyd yn gwirfoddoli fel mentor gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig. Mae hefyd yn gwirfoddoli fel hyfforddwr a mentor gydag Ymddiriedolaeth Cranfield.
“Mae gallu adfyfyrio ar fy ngwaith gwirfoddoli drwy’r rhaglen Meistr wedi fy ngalluogi i fireinio’r wybodaeth a’r sgiliau.”
“Wrth i mi adfyfyrio ar f’arfer hyfforddi a mentora fy hun, rydw i wedi defnyddio fy nhiwtoriaid yn glust i wrando ac yn ffynhonnell cymorth am eu bod yn cydnabod y llwyddiannau rydw i wedi eu cael ac, ar gyfer rhywbeth roeddwn i’n meddwl oedd ond yn ddarn o waith dinod neu gyffredin a wnes... maen nhw’n rhoi’r gydnabyddiaeth i ti ei fod yn ddarn da a dyma’r rhesymau pam mae’n sefyll yn academaidd.”
Yn ôl Gary, mae’r cwrs yn arddangos arfer da ac mae’n rhoi cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu drwy brofiadau, ac mae elfen ymchwil y rhaglen radd yn caniatáu i bobl ymchwilio i syniad arloesol ar gyfer y gweithle, mynd i’r afael â phroblem neu archwilio cyfleoedd am newid ym maes arfer proffesiynol yr unigolyn. Gallai hyn fod yn ddarn o ymchwil lle gall pobl ddatblygu eu harbenigedd proffesiynol ymhellach.
Teimla Gary fod y cwrs wedi ehangu ei set o sgiliau, ac mai arfer adfyfyriol yw’r sgil allweddol. Bellach mae’n teimlo ei fod yn gallu edrych yn ôl ar yr hyn mae ef wedi’i wneud a’r heriau mae ef wedi’u hwynebu gyda’r bwriad o wneud gwelliannau yn ei arfer yn y dyfodol.
Ychwanega: “Yn ychwanegol at hynny mae gennych y sgiliau ymchwil, sy’n allweddol os ydych yn dymuno datblygu eich busnes, neu eich arfer hyfforddi. Nid yw’n ymwneud yn unig â’ch galluogi i adeiladu eich busnes, mae’n eich galluogi hefyd i wneud eich meddylfryd yn fwy proffesiynol. Mae’n rhoi setiau newydd o sgiliau i chi, ac rydw i’n meddwl bod gallu pori drwy ymchwil a chael y darnau sydd eu hangen arnoch i’w cymhwyso i beth rydych chi’n ei wneud yn hollbwysig.”
Yn ogystal mae wedi sylwi ei fod wedi datblygu o ran ei hunanhyder, ac mae hefyd yn gallu gweld fod beth mae’n ei wneud yn wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.
Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, mae Gary wedi llwyddo i gydbwyso’i astudiaethau â gweithio’n llawn amser.
“Mae rheoli amser yn allweddol. Byddwn i’n dweud ei bod yn haws cynnwys yr astudio yn y diwrnod gwaith, am eich bod yn defnyddio’ch astudiaethau i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau eich hun. Mae’n rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus.”
Hoffai Gary annog pobl eraill i ddilyn ôl ei draed ac i fynd ati i astudio’r cwrs Hyfforddi a Mentora.
“Fy nghyngor i fyddai ewch amdani, am ei fod yn rhoi cyfle i chi adfyfyrio ar beth rydych wedi’i wneud, cael cydnabyddiaeth ar lefel academaidd ar gyfer yr hyn rydych wedi’i wneud, a bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau i chi a fydd yn eich galluogi i fynd â’ch busnes ymhellach drwy ymchwil.”
Dywedodd tiwtor Gary, yr uwch ddarlithydd Julie Crossman o’r Academi: “Rydw i mewn sefyllfa freintiedig iawn i allu hwyluso datblygiad pobl broffesiynol fel Gary. Mae’r rhaglen MA Hyfforddi a Mentora yn addas i ymarferwyr newydd a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd, am fod llwybr pob myfyriwr yn cael ei lunio o gwmpas anghenion unigol. Er ein bod yn cynnig hyfforddiant i’r rheini sy’n awyddus i ddatblygu neu wella eu sgiliau, fel arfer bydd unigolion yn dod atom â llawer o flynyddoedd o brofiad, yn aml ar lefelau uwch, fel sy’n wir yn achos Gary. Rydw i’n credu nad oes modd gorbwysleisio pŵer adfyfyrio yn ôl er mwyn cynllunio ymlaen, ac mae hyn yn wir yn arbennig yn y proffesiynau hyfforddi a mentora. Mae wedi bod yn bleser bod yn dyst i eiliadau ‘Ah-ha’ Gary pryd mae wedi sylweddoli gwerth ei arfer hyfforddi a mentora, a sut y gellir defnyddio’r dysgu hwn drwy brofiadau i ennill credydau academaidd ar lefel Meistr.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476