Partneriaeth newydd i helpu busnesau cychwynnol a graddedigion y Brifysgol i ddenu buddsoddiad
11.11.2021
Cyhoeddir partneriaeth gydweithredol newydd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Ship Shape, i helpu prifysgolion a diwydiant i adnabod darpar fuddsoddwyr mewn cyfalaf menter, yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. (GEW)
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol ei myfyrwyr a'i graddedigion fel egwyddor gynllunio allweddol ac mae sgiliau o'r fath wedi'u hymgorffori yn ein rhaglenni.
Mae prifysgolion yn allweddol i economi ffyniannus wrth inni ddod allan o'r pandemig coronafeirws. Mae’r Drindod Dewi Sant yn annog datblygu dyfeisiadau a gwybodaeth newydd, i ychwanegu gwerth masnachol, cymdeithasol a diwylliannol at gymdeithas. Er mwyn datblygu ymhellach ein gallu i fod yn rym deinamig o fewn eco-system Cymru (a thu hwnt), mae’r Brifysgol wedi buddsoddi yn y cwmni Ship Shape, sef chwilotwr i ganfod arianwyr ar gyfer sylfaenwyr busnes. Mae'n angen amlwg, a bydd yr arbenigedd yn ymestyn ein cynnig yn sylweddol i'n myfyrwyr a'n graddedigion.
Dywedodd Dr Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol Addysg Menter yn y Brifysgol: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth â Ship Shape i gyd-fynd ag Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Cynhyrchir llawer o syniadau gwych yn ein sefydliadau addysgol ac rydym yn uchelgeisiol bod Gorllewin a De Cymru yn dod yn beiriant arloesi wedi'i ganoli o amgylch y Brifysgol."
Dywedodd cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Ship Shape, Daniel Sawko: “Ni fu grymuso arloesedd erioed yn bwysicach i’n dyfodol ac eto mae llawer o ddatrysiadau a allai fod yn arloesol yn dal i fethu â dod o hyd i’r buddsoddwyr cyfalaf menter cywir i’w helpu i dyfu. Mae'r bartneriaeth strategol gyda’r Brifysgol yn ddatganiad o fwriad go iawn gan y naill ochr a’r llall. Rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â datgloi a masnacheiddio syniadau gwych ledled y byd, a allai fynd ymhellach o adnabod y buddsoddwyr cyfalaf menter perthnasol."
Cafodd y Brifysgol ei graddio gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn 2019-2020 fel:
# 1 yn y DU ar gyfer busnesau newydd sy'n dal i fod yn weithredol ar ôl 3-blynedd.
# 2 yn y DU ar gyfer cyfanswm nifer y cwmnïau gweithredol.
# a 9fed yn y DU am gyfanswm y rheini a gyflogir mewn busnesau newydd gan raddedigion.
Mae tîm Sefydliad Ymarfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter (INSPIRE) y Brifysgol y tu ôl i lawer o'r llwyddiant hyn. Maent yn cynnig ystod o gefnogaeth i fusnesau newydd, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u hysbrydoli gan y cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd hyn, ac wedi'u cynllunio mewn cydweithrediad â hwy. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'u menter Syniadau Mawr Cymru, mae'n gymysgedd bwerus.
Mae Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygu Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) yn rhan o INSPIRE ac yn arweinydd cydnabyddedig ar draws y byd am ddatblygu mathau o addysg sydd wedi’i diogelu at y dyfodol ac sy'n helpu dysgwyr i lwyddo.
Ychwanegodd Dr Penluna: “Ni fu'r galw am sgiliau entrepreneuraidd yn ein graddedigion erioed yn gryfach. Mae meddwl yn greadigol a beirniadol, hyblygrwydd i ymateb i heriau a chyfleoedd, ynghyd â deall busnes a chynaliadwyedd yn allweddol ac yn ein helpu i ddatblygu gyrfaoedd ein dysgwyr ym mha faes bynnag y dewisant. Mae gweithiwr sy'n deall hanfod cwmni yn weithiwr gwerthfawr iawn yn wir. ”
Dywedodd Profost Campws Abertawe, yr Athro Ian Walsh: “Fel un o brif brifysgolion Menter y DU, gweledigaeth y Drindod Dewi Sant yw adeiladu mwy o’r partneriaethau arloesol hyn. Rydym yn rhannu cenhadaeth Ship Shape o gysylltu syniadau gwych â chyfleoedd buddsoddi er budd ein graddedigion a’r rhanbarth ehangach.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk