Penodi Prif Wyddonydd SINTEF Manufacturing yn Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant


12.10.2021

Mae Daryl Powell, Prif Wyddonydd SINTEF Manufacturing wedi’i benodi’n Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Daryl Powell, chief Scientist at SINTEF Manufacturing has been appointed as a Professor of Practice at the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD).

Cyflwynir y teitl ‘Athro Ymarfer’ i unigolyn i anrhydeddu a chydnabod y person hwnnw am ennill bri academaidd a/neu broffesiynol yn y disgyblaethau hynny sy’n cyd-fynd â bwriadau strategol y Brifysgol.

Mae’r Athro Powell yn gyn fyfyriwr yn y Drindod Dewi Sant ac astudiodd am radd BEng Peirianneg a Dylunio Chwaraeon Moduro (2002-2005) ac yna am radd MSc mewn Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth (2005-2008). Mae hefyd yn Athro Cadeiriol Cynorthwyol ym  Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Norwy ac ym Mhrifysgol De-Ddwyrain Norwy. Mae hefyd yn awdur arobryn sydd wedi ennill Gwobr Ymchwil nodedig Shingo am ei lyfr The Routledge Companion to Lean Management yn 2017, a Gwobr Gyhoeddi Shingo am y llyfr Lean Sensei yn 2020.

Mae’r Athro Powell eisoes yn cydweithio’n agos â thîm MADE Cymru yn y Drindod Dewi Sant.

Meddai’r Athro Powell: “Mae gan y Drindod Dewi Sant ddull ymarferol iawn o fynd i’r afael ag ymchwil a datblygu, dull sy’n canolbwyntio ar y cymhwysiad.  Roedd hyn yn amlwg yn fy astudiaethau israddedig (Peirianneg Chwaraeon Moduro) a’m hastudiaethau ôl-raddedig (Gweithgynhyrchu Darbodus). Mae’r ffaith fod y brifysgol yn mynd i’r afael â datrys problemau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn ymarfer -  ynghyd â’i phartneriaid ym myd diwydiant - yn amlygu pwysigrwydd dysgu ar waith. Yn hyn o beth rwy’n meddwl y gellir sicrhau synergedd rhwng y dull Cymreig o ddatrys problemau ymarferol a’r traddodiad hir yn Norwy ar gyfer ymchwil gweithredol – ac edrychaf ymlaen at sicrhau’r synergedd hwn wrth i mi ymuno â’r Drindod Dewi Sant yn Athro Ymarfer.”

Mae’r Athro Powell yn gyd-awdur erthygl yn dwyn y teitl ‘Rethinking lean supplier development as a learning system. Ochr yn ochr â Graham Howe a Richard Morgan o’r Drindod Dewi Sant, cyflwynodd bapur hefyd dan y teitl ‘Lean First … Then Digitalize: A Standard Approach for Industry 4.0 Implementation in SMEs’ yn y gynhadledd Advances in Production Management Systems (APMS) yn Nantes. Dyma oedd thema trafodaeth ford gron yn Uwchgynhadledd MADE Cymru yn 2021.

Yn rhan o’i rôl newydd, bydd yr Athro Powell yn traddodi darlith i fyfyrwyr Gradd-brentisiaeth y Drindod Dewi Sant a MADE Cymru ar 15 Hydref. Teitl y ddarlith yw ‘Digital Lean Manufacturing – the Future of Lean Thinking and Practice’.

Meddai Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru, “Mae Daryl yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.  Mae ei angerdd at weithgynhyrchu darbodus a’r effaith economaidd a gaiff hyn ar y diwydiant yn hollol anhygoel. Gwn fod y myfyrwyr yn llawn cyffro i glywed ei ddarlith ddydd Gwener a’u bod yn edrych ymlaen at gymhwyso meddylfryd darbodus i’w sefydliadau eu hunain. Mae Daryl yn ymwneud yn helaeth â phrosiect MADE Cymru ac mae wedi siarad mewn nifer o’n digwyddiadau. Mae cydweithio a gwelliant parhaus yn allweddol i hybu gweithgynhyrchwyr yng Nghymru – dyna sy’n ein hysgogi ni bob dydd.”

Dywedodd Barry Liles OBE, Pro Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) a Phennaeth Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru: "Mae penodiad Daryl yn Athro Ymarfer yn bwysig iawn ar sawl lefel. Mae’n arbenigwr rhyngwladol cydnabyddedig ar feddwl darbodus ac yn gwneud cyfraniad allweddol i gyfres o raglenni MADE Cymru yn y Brifysgol. Fodd bynnag, yr arwyddocâd mwyaf yw'r ffaith bod Daryl yn gyn-fyfyriwr yn y Brifysgol ar ôl dechrau ei yrfa beirianneg yn Abertawe. Bydd hi’n braf iawn ei weld yn cyflwyno i fyfyrwyr cyfredol a hynny fel cyn-fyfyriwr ac mae'n siŵr y bydd yn eu hysbrydoli yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol."

Nodyn i'r Golygydd

Mae MADE Cymru yn fenter a luniwyd i gefnogi gweithgynhyrchwyr Cymru trwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi'i hariannu’n llawn/rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk