Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dyfarnu contract ffonau symudol i gwmni lleol, Dyfed Telecom
20.10.2021
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi Dyfed Telecom yn ddarparwr ffonau symudol i’r brifysgol.
Yn rhan o’r prosiect, bydd y cwmni’n darparu gwasanaethau ffonau symudol i’r Brifysgol am y 12 mis nesaf.
Mae cefnogi busnesau a chadwyni cyflenwi lleol yn flaenoriaeth allweddol i’r Brifysgol fel bod y manteision economaidd yn cael effaith uniongyrchol ar y cymunedau o amgylch ei champysau. Mae gweithio gyda chwmnïau o’r fath yn sicrhau bod swyddi o ansawdd uchel ar gael yn y cymunedau hyn sy’n cefnogi cynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol.
Meddai Ben Thorn, Pennaeth Gweithredol Darparu Gwasanaethau TG yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn falch o weithio gyda Dyfed Telecom fel ei darparwr ffonau symudol am y 12 mis nesaf. Fel cwmni lleol sydd â swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Cydweli a’r Trallwng, mae’n caniatáu i ni nid yn unig fanteisio ar ddatrysiadau ffonau symudol sy’n arwain y sector ond hefyd i weithio gyda chwmni lleol sydd wedi llwyddo’n gyflym i gadarnhau ei enw da am ddarparu gwasanaethau ffonau symudol personol o ansawdd uchel.
Meddai Meirion Davies, Pennaeth Gweithrediadau Dyfed Telecom: “Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn i groesawu’r Drindod Dewi Sant fel un o’m cwsmeriaid mwyaf hyd yn hyn. Cefnogi busnesau lleol yw un o’r prif resymau dros dwf Dyfed Telecom a’n nod yw darparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid gan ddefnyddio staff lleol.
"Er 2011, mae’r cwmni wedi sefydlu ei hun yn gyflenwr blaenllaw ym maes band eang symudol 4G a ffonau symudol i gartrefi, ffermydd, a busnesau ar draws Cymru.
"Mae lefelau staffio wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a bydd sylfaen cwsmeriaid eang yn ein helpu i ddarparu rhagor o swyddi ar gyfer y gymuned leol.
Gobeithiwn y bydd hyn yn ddechrau perthynas hir gyda’r Drindod Dewi Sant, gyda’r gobaith o gynnig rhagor o wasanaethau a chynnyrch o gasgliad Dyfed Telecom.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk