Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn penodi Artistiaid Preswyl cyfrwng Cymraeg


05.11.2021

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi tri artist preswyl cyfrwng Cymraeg i weithio gyda’i staff a’i myfyrwyr celf a dylunio.

Gwreiddiau (cym

Mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd Karolina Jones, Lily Mŷrennyn a Ffion Richardson wedi'u eu lleoli yng Ngholeg Celf Abertawe drwy gydol y flwyddyn academaidd hon lle byddant yn mentora myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.  Bwriad y rôl yw i gefnogi myfyrwyr trwy gyfadran Coleg Celf Abertawe, yn enwedig y rheiny sy’n siarad Cymraeg, a’u hannog i ddefnyddio’r iaith. Yn ogystal â hynny, byddant yn cael y cyfle i ddatblygu eu harferion creadigol fel artistiaid.

Meddai Lily Mŷrennyn: “Mae’n dipyn o anrhydedd i fod yn un o’r artistiaid preswyl. Mae’n beth hyfryd ein bod ni’n medru rhannu ein gwerthfawrogiad o’r iaith Gymraeg gyda’n harferion creadigol.”

Cynigwyd y rôl i’r tair wedi mynd trwy broses o gyfweliad, lle bu’n rhaid iddyn nhw arddangos esiamplau o’u gwaith celf a chreu cyflwyniad o flaen panel.

Mae’r tair ohonynt wedi graddio o Goleg Celf Abertawe, ac wedi mwynhau eu cyfnod fel myfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant. Graddiodd Lily o’r cwrs BA Darlunio yn 2020, Ffion o’r cwrs BA Patrwm Arwyneb yn 2021 a Karolina o’r cwrs M.A. Cyfathrebu Gweledol 2021. I’r tair, mae dychwelyd i’r Coleg Celf ac i ymollwng ei hun mewn awyrgylch creadigol wedi bod yn hyfryd.

Dywedodd Karolina Jones: “Mae’r Coleg Celf yn groesawgar tuag at siaradwyr Cymraeg o bob lefel, yn enwedig dysgwyr sy’n beth hyfryd, ac mae rôl fel hyn yn dangos pwysigrwydd hybu’r iaith ar draws y gyfadran.”

Gobaith y tair yw y bydd gweithio o fewn amgylchedd y Coleg Celf a chael mynediad i’w holl gyfleusterau yn helpu i ddatblygu’u harferion fel artistiaid dros y flwyddyn nesa’.

I Lily, mae’n gobeithio ymgorffori mwy o’i harferion creadigol fel cerameg a thecstilau mewn i’w harfer darlunio. Gobaith arall sydd ganddi yw ceisio gweithio mwy ar brosiectau naratif.

Dymuniad Karolina yw datblygu ei Chymraeg yn fwy. Mae’n gobeithio cael rhagor o brofiad yn y maes argraffwaith, tecstilau, cerameg ac amryw o bethau eraill. Un o’i chynlluniau hefyd yw gwneud fwy o waith am ei hunaniaeth Pwyleg a Chymraeg.

Bydd Ffion yn parhau gyda’i gwaith Patrwm Arwyneb er mwyn cael rhagor o brofiad gwaith i fedru datblygu fel dylunydd ifanc hyderus. Mae gan Ffion hefyd fusnes ei hun sy’n creu gwaith cerameg llaw, ac mae’n gwerthu’r cynnyrch ar Instagram.

Fel un o’i dyletswyddau cyntaf fel artistiaid preswyl y Gymraeg, bydd gwaith y tair yn cael eu harddangos mewn arddangosfa ragarweiniol sy’n dwyn y teitl ‘Gwreiddiau’ yn y ‘Creative Bubble’ yn Abertawe o Dachwedd 5ed hyd at Dachwedd 11eg.

Dywedodd Ffion Richardson: “Fe wnaethom ni benderfynu enwi’r arddangosfa yn ‘Gwreiddiau’, gan fod yr arddangosfa yn dangos gwaith sy’n cynrychioli rhan o’n hunaniaeth. Gall hwn fod yn hunaniaeth bersonol, yn hunaniaeth greadigol, neu’n gymysgedd o’r ddau.”

Dywedodd Gwenllian Beynon, Cydlynydd y Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe: 

“Mae’n wych bod yn ôl yn dysgu ar y campws a chael 3 artist preswyl y Gymraeg yma gyda ni eleni i weithio gyda staff a myfyrwyr i hybu defnydd y Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae rôl yr artistiaid preswyl yn golygu gweithio fel artistiaid yn ogystal â gweithio o ddydd i ddydd gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol.  Rwyf wir yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tair eleni.”

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk