Un o raddedigion y Drindod Dewi Sant yn rownd derfynol Prydain Cystadleuaeth Ddylunio Ryngwladol yr SDC


03.11.2021

Mae un o raddedigion Patrymau Arwyneb a Thecstilau Coleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, wedi cyrraedd rownd derfynol Prydain yng Nghystadleuaeth Ddylunio Ryngwladol yr SDC (Society of Dyers and Colourists).

Marie Wilkinson sits at a workbench covered in designs and sketches.

Mae’r gystadleuaeth, sydd ar y thema ‘Lliw a’r Bydysawd’ eleni, ac a noddir gan Archroma, yn agored i gannoedd o fyfyrwyr, prifysgolion a dylunwyr ledled y byd. Ei nod yw helpu’r cystadleuwyr  i ddatblygu eu dealltwriaeth o liw a’r heriau ynghylch cynaliadwyedd yn y gadwyn gyflenwi tecstilau.

Rhoddodd Marie Wilkinson gynnig ar Gystadleuaeth Ddylunio Ryngwladol yr SDC ar lefel Brydeinig gyda’i phrosiect ‘Awr Euraidd’ tra’r oedd yn ei 3edd flwyddyn. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig gohiriwyd y cyflwyno a llunio’r rhestr fer tan eleni, ac mae wedi llwyddo i ddod i’r brig yn rownd ragbrofol Gorllewin Lloegr a De Cymru.

Meddai Marie: “Wrth ddarllen y briff dylunio i archwilio ‘Lliw a’r Bydysawd’, ystyriais sut rydym yn rhyngweithio â golau’r haul – yn benodol yr awr euraidd. Roeddwn i eisiau i’m palet lliw gyfleu’r arlliwiau euraidd ysgafn a geir mewn caeau o flodau ar yr adeg honno o’r dydd, gan gyfleu sut yr ydym yn teimlo yn ei bresenoldeb nefolaidd. 

“Bues i’n archwilio dulliau traddodiadol o sgrin-brintio wrth i mi ddysgu sut i gydweddu lliwiau yn ddigidol drwy liwio ffabrigau, i greu casgliad masnachol o ffabrigau wedi’u lliwio â llaw y gellid eu defnyddio mewn ffasiwn, gydag arfer cynaliadwy yn ystyriaeth flaenllaw.” 

Cymerodd Marie ysbrydoliaeth o Gasgliadau Christian Dior SS20 a Badgley Mischka SS20 i roi sylw i brintiau ar gyfer ffasiwn, ynghyd ag astudiaethau Claude Monet o olau brith i ysgogi ei chysyniad wrth ystyried y berthynas rhwng golau a’r bydysawd.  Mae’r casgliad o ffabrigau ym mhrosiect Marie ar gyfer casgliad oesol o ddillad menywod er mwyn sicrhau bod y print yn parhau’n berthnasol am flynyddoedd i ddod ac y defnyddir y defnyddiau drwy gydol rhychwant eu defnyddioldeb.

Ychwanega Marie: “Teimlaf fod y briff hwn wedi helpu i greu fy hunaniaeth ddylunio, ac rwy mor falch fy mod wedi ennill rownd Cymru a Lloegr yn y gystadleuaeth hon o ganlyniad i hynny!”

Textile samples hanging from a wall, alongside samples of the colour palette and a brief explanation of the theme The Golden Hour.

Meddai Catherine Hammerton sy’n ddarlithydd ar y cwrs Dylunio Arwyneb: “Roeddem yn falch tu hwnt fod gwaith hyfryd Marie o decstilau wedi’u printio a’u lliwio â llaw a ysbrydolwyd gan yr Awr Euraidd wedi ennill y wobr gyntaf dros Dde Cymru a Gorllewin Lloegr. Fel gyda’n holl fyfyrwyr gwelwn ddyfodol disglair i Marie yn y Cymunedau Creadigol. Dim ond dechrau yw’r llwyddiant hwn ac rydym yn gyffrous i weld beth a ddaw yn y dyfodol.” 

Meddai Georgia McKie, Uwch Ddarlithydd ar y radd BA (Anrhydedd) Dylunio Patrymau Arwyneb:  “Roedd prosiect Marie yn hynod o feddylgar ac roedd yn bleser ymwneud ag ef yn y stiwdio.  Roedd ei dehongliad o ffenomen naturiol yr Awr Euraidd yn mynegi’n reddfol ein llawenydd cyffredin a’n cysylltiad dynol, tra hefyd yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol yn y diwydiant ffasiwn a materion pwysig sy’n ymwneud â’n hanghenion newidiol yng nghyd-destun materion byd-eang.  Ychydig a wyddom pa mor amserol y byddai’r ystyriaethau hyn.  Wedi i’r rownd ragbrofol gael ei gohirio ym mis Mawrth 2020, rydyn ni mor falch fod y prosiect  hwn wedi cael cyfle o’r diwedd i daro tant gyda’i gynulleidfa fwriadedig.”

More samples of textiles hang from a wall display, covering two themes: the Golden Hour and Relaxing Warmth.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk