Un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant yw Children’s Laureate Wales ar gyfer 2021-2023
18.10.2021
Penodwyd un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Children’s Laureate Wales ar gyfer 2021-2023
Gan weithio mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, mae Connor Allen o Gasnewydd yn dweud ei fod yn gobeithio 'dileu dirgelwch barddoniaeth' i blant rhwng 6 a 13 oed.
Meddai Connor: "Dwi ddim yn credu bod rhaid cyfyngu barddoniaeth i sonedau Shakespeare neu Tennessee Williams... gall fod yn fynegiant syml o sut mae plant yn teimlo ar hyn o bryd yn y byd. Ces i fy magu ar ystâd cyngor yng Nghasnewydd, felly i mi, roedd y celfyddydau a barddoniaeth fel rhyw famoth enfawr y tu hwnt i’m cyrraedd ac yn amherthnasol, ond dwi’n credu bod gen i syniad ystrydebol mai sonedau Shakespeare oedd dan sylw, a’u bod nhw’n hen ffasiwn. Wrth dyfu’n hŷn, dyma fi’n sylweddoli’n fwy ac yn fwy fod cymaint o farddoniaeth ar gael gan bobl sy'n ei pherchenogi drostyn nhw eu hunain."
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd yn cynnal gweithdai mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru i rymuso pobl ifanc a’u hysbrydoli am eu dyfodol.
Meddai: "Rwy’n dweud o hyd fy mod i’n credu mai grymuso yw'r rhodd greadigol fwyaf y gallwch chi ei rhoi i blentyn, oherwydd os gallwn ni eu grymuso, dyna ddweud wrth blant mai hwn yw’r drws i’ch potensial- rydyn ni’n agor hwnnw ac yn caniatáu i chi edrych i mewn. Os gallan nhw edrych i mewn ar eu potensial, gallan nhw weld eu holl bosibiliadau ac amrywiadau gwahanol, ac mae hynny'n eu grymuso."
Mae cysylltiad Connor â'r Drindod Dewi Sant yn dyddio'n ôl i 2010 pan gofrestrodd i astudio BA Actio yng Nghaerfyrddin.
"Fe wnes i syrthio mewn cariad â'r Drindod yng Nghaerfyrddin," ychwanegodd. "Mae'n fach ac yn agos, felly mae pawb yn adnabod pawb, ac roedd yn fy atgoffa o'm hamser yn tyfu i fyny mewn cymuned fach. Dywedodd fy athro Drama wrthyf, os gallwch chi eich dychmygu eich hun yn graddio a chael gradd mewn tair blynedd, rydych chi'n gwybod eich bod yn y lle iawn – es i'r Drindod Dewi Sant a chael y weledigaeth honno."
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn Y Drindod Dewi Sant, mae Connor yn cyfaddef nad oedd ganddo unrhyw brofiad o hanes celfyddydol a diwylliannol o gwbl, ond llwyddodd y cwrs i'w rymuso i edrych y tu hwnt i fod yn berfformiwr yn unig.
"Rhoddodd Y Drindod Dewi Sant fag anweledig i mi wrth ddod yn artist. Rhoddon nhw ychydig o offer yn y bag ac wedyn mater i mi oedd parhau i'w lenwi â sgiliau a phrofiadau. Fyddwn i ddim wedi cael y bag hwn o driciau a sgiliau oni bai am Y Drindod Dewi Sant a'r darlithwyr."
Meddai Connor fod pob agwedd ar y cwrs yn cydlynu myfyrwyr i fod yn artist.
"Drwy'r cwrs, cafodd y neges ei chyfleu i ni nad oes rhaid i chi fod yn actor yn unig. Mae'r diwydiant mor galed... mae'n rhaid i chi ail-addasu; mae'n rhaid i chi addasu. Yn bendant, rhoddodd Y Drindod Dewi Sant y gallu i mi fynd at rolau a mynd at ddiwydiant mewn ffordd benodol. Bydda i bob amser yn canmol Y Drindod Dewi Sant am wneud hynny," meddai.
Agorodd y cwrs ddrysau yn y diwydiant ar gyfer Connor hefyd. Canmolodd y staff am alluogi myfyrwyr i weithio gydag arbenigwyr o'r diwydiant, a helpodd i wneud cysylltiadau a chreu cyfleoedd ar gyfer eu dyfodol.
Meddai Lynne Seymour, Rheolwr Rhaglen y cwrs BA Actio: "Mae'r cwrs BA Actio yn falch o’i gysylltiadau â’r diwydiant a'r rhwydweithiau y mae'n eu darparu i'w fyfyrwyr. Mae pawb sy'n dysgu ac sy’n cyfrannu i’r cwrs yn ymarferydd proffesiynol, cyfarwyddwr, cynhyrchydd ac ati, felly mae myfyrwyr yn gwneud cysylltiadau hanfodol â’r diwydiant drwy gydol eu hyfforddiant yn Y Drindod Dewi Sant. Roedd Connor yn fyfyriwr rhagorol a oedd yn deall gwerth y cyfleoedd rhyngweithiol hyn ac roedd yn gydweithredwr ac yn gyfrannwr rhagorol i'r cwrs. Mae’n hyfryd ei weld yn mynd o nerth i nerth ac mae'n wych gweld ei effaith gadarnhaol ar bobl ifanc a'r gymuned gelfyddydol yn gyffredinol."
Wrth i Connor ddechrau pennod newydd yn ei yrfa, dywedodd ei fod yn edrych yn ôl ar ei ddyddiau yn Y Drindod Dewi Sant gyda llawenydd. "Mae rhai o’m ffrindiau gorau i yn dod o'r Drindod Dewi Sant, ac roedd pob un yn ddylanwadol," meddai.
"Dyna sy'n dda am Y Drindod Dewi Sant, mae'n gymuned. Yn amlwg, gwnaeth y cwrs ddatblygu fy sgiliau, ond y ffrindiau a'r rhwydwaith a’m datblygodd i’n berson."
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476