Y Drindod Dewi Sant yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol o raglenni Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Cymru Fyd-eang ac Ysgoloriaethau Chevening
21.10.2021
Mae’n bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant groesawu myfyrwyr rhyngwladol i’w champysau o raglenni Ysgoloriaeth Ol-raddedig Cymru Fyd-eang ac Ysgoloriaethau Chevening .
Mae Ivory Rachael Houk a Dr Ashwath Pazhani yn rhan o raglen Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Cymru Fyd-eang sy’n cynnig ysgoloriaethau gwerth hyd at £10,000 – i astudio rhaglen Meistr lawn amser yng Nghymru. Mae’r ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr o Fietnam, India, UDA, a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Y cynllun nodedig hwn yw’r ysgoloriaeth gyntaf o’i bath yng Nghymru ac fe’i cyllidir gan Raglen Cymru Fyd-eang – partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Cymru, y Cyngor Prydeinig a CCAUC.
Mae Mohammed Abdullah Bin Shorab yn rhan o raglen ysgoloriaethau Chevening, sy’n darparu cyfle i ysgolheigion ddilyn eu rhaglenni Meistr yn y DG am flwyddyn. Daw ymgeiswyr Chevening llwyddiannus o ystod amrywiol o wledydd a chefndiroedd, ond maent oll yn dangos y brwdfrydedd, y weledigaeth a’r sgiliau sy’n anelu at ddatblygu arweinwyr byd-eang i lunio byd gwell.
Cyllidir rhaglen Chevening gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a sefydliadau partner, ac mae’n cynnig dau fath o ddyfarniadau – Ysgoloriaethau Chevening a Chymrodoriaethau Chevening. Dewisir y rhai sy’n eu derbyn yn bersonol gan lysgenadaethau Prydain ac uchel gomisiynau ar draws y byd.
Mae Ivory Rachael Houk yn hanu o’r Unol Daleithiau ac mae’n astudio am TAR (Cynradd) gyda SAC. Meddai: “Yn wreiddiol rwy’n hanu o Boise, Idaho ond rwy wedi treulio fy mhlentyndod yn symud o gwmpas Gorllewin Canol yr Unol Daleithiau. Rwy wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd yn Tucson, Arizona ac mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar fy newis yrfa. Yn wreiddiol dilynais radd mewn Amgylcheddau Adeiledig Cynaliadwy, ac yn ystod y cyfnod hwn sylweddolais fod gen i frwdfrydedd i newid nid yn unig ein heffaith ar y blaned ond i newid effaith y byd ar y modd y mae plant yn cael eu magu a’r modd maen nhw’n dysgu.
“Mae treulio’r 4 blynedd ddiwethaf ym maes addysg gynradd wedi fy ngwneud yn fwyfwy ymwybodol o faint mae’r blynyddoedd hyn yn effeithio ar blant am weddill eu hoes, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud y blynyddoedd hyn y gorau maen nhw’n gallu bod gan dargedu ein harddulliau addysgu at anghenion y plant o’n cwmpas ni. Dyna pam mae’n gymaint o gyffro i mi astudio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, oherwydd rwy wedi cael cyfle i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth gan athrawon sydd wedi cael blynyddoedd o brofiad. Mae’n rhoi cyffro i mi ddechrau cynllunio ar gyfer fy ngwersi fy hun a gaiff eu haddysgu yn yr wythnosau sydd i ddod, ac mae’n rhoi hyd yn oed fwy o gyffro i weld yr effaith y gall f’addysgu ei chael ar greadigrwydd ac uchelgais dysgwyr ifanc.”
Mae Dr Ashwath Pazhani yn astudio am Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol). Meddai: “Rwy’n athro brwdfrydig ac yn ymchwilydd ym maes peirianneg. Prif nod fy ngyrfa yw addysgu a chreu peirianwyr llwyddiannus a bodau dynol sy’n dda i’r gymdeithas, gan ysbrydoli bywydau drwy addysg ac addysgu.”
Ganwyd Mohammed Abdullah Bin Shorab yn Labasa, Ffiji a thyfodd gyda diddordeb mawr mewn daearyddiaeth a chyfrifiaduron. Y diddordeb hwn a fapiodd ei yrfa ym maes Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS).
Ac yntau wedi graddio mewn daearyddiaeth, ymunodd Mohammed â’r Weinyddiaeth Goedwigaeth yn 2019 fel Swyddog Coedwigaeth - Monitro Adnoddau (GIS) yn yr uned Asesu a Chadwraeth Adnoddau Coedwigaeth (FRAC). Mae Uned FRAC yn gyfrifol am reoli systemau gwybodaeth a banc data coedwigoedd, rheoli coedwigoedd naturiol drwy blotiau samplu parhaol, mapio a chynnal arolygon ar ffiniau coedwigoedd a hwyluso cynadleddau a chytundebau rhyngwladol a rhanbarthol ynghylch coedwigoedd.
Ers ymuno â’r Weinyddiaeth, mae Mohammed wedi cyflwyno uwch dechnoleg sydd wedi galluogi’r Weinyddiaeth i ddatblygu mapiau gwe 2D a 3D byw a dangosfwrdd ar-lein ar gyfer ardaloedd a blannwyd sy’n caniatáu i staff gadw cofnod o’r nifer o goed a blannwyd a’r lleoliadau.
Mae’r mapiau gwe yn cael eu hintegreiddio mewn cymwysiadau ar y we sy’n cynnwys holl wybodaeth mapio uniongyrchol y Weinyddiaeth sy’n galluogi uwch reolwyr i wneud penderfyniadau amserol ynghylch gweithrediadau yn y coedwigoedd.
Rhywbeth arall sy’n boblogaidd ym maes Coedwigaeth ar draws y byd yw dronau. Gan fod dronau yn gallu monitro poblogaethau coed, tirweddau a chael mynediad at ardaloedd anodd eu cyrraedd, mae’r Weinyddiaeth Goedwigaeth hefyd wedi buddsoddi yn y dechnoleg hon gyda Mohammed yn ychwanegu Prif Beilot o Bell at ei restr o gyfrifoldebau.
Mae Mohammed bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wireddu’i freuddwydion a bellach mae wedi cychwyn yn ffurfiol ar ei astudiaethau ar-lein fel un sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Chevening a gyllidir cyn Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, cyn teithio i’r DG i ddechrau gradd Meistr yn y Gwyddorau mewn Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol yn y Drindod Dewi Sant.
Meddai: “Bydd fy astudiaethau’n ymwneud yn bennaf â Rheolaeth Amgylcheddol a Chadwraeth Amgylcheddol. Byddaf yn dod yn ôl â gwybodaeth newydd ac estynedig a fydd yn ein helpu i gadw a rheoli adnoddau naturiol Ffiji mewn modd cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu Ffiji i fodloni targedau byd-eang o ran mynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd fy nhraethawd hir yn caniatáu i mi wneud ymchwil ar y datblygiadau technolegol diweddaraf y gall Ffiji eu defnyddio i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae ceisiadau bellach ar agor am Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Cymru Fyd-eang | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk