Y Drindod Dewi Sant yn cynnal ei Chynhadledd Gwestywyr Ifanc a Lletygarwch Blynyddol 2021.
28.10.2021
Yn ddiweddar, cynhaliodd Athrofa Rheolaeth ac Iechyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei thrydedd Gynhadledd Gwestywyr Ifanc a Lletygarwch yn Stadiwm Swansea.com.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ysgol Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth (SoHaTM) y Brifysgol ac fe ddenodd 230 o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws De Cymru.
Meddai John Howells, Cyfarwyddwr Academaidd (SoHaTM):
“Rydym yn defnyddio’r gynhadledd flynyddol hon i ysbrydoli pobl i ystyried gyrfa mewn lletygarwch a thwristiaeth, ac i ddarparu dealltwriaeth o’r posibiliadau sydd o fewn y ddau ddiwydiant.”
Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i arddangos yr hyn sydd ar gael yn y Brifysgol, a sut mae myfyrwyr wedi elwa o’r cyrsiau hyn.
Roedd prif negeseuon y gynhadledd yn sôn am gyfleoedd, ac ysbrydoliaeth o fewn y diwydiannau lletygarwch a thwristiaeth, yn enwedig ar ôl Covid. Gan fod llawer o bobl wedi gadael y diwydiant ac wedi gorfod newid gyrfaoedd yn ystod y cyfnod clo, mae yna nawr lawer o gyfleoedd ar gyfer twf gyrfaol cyflymach yn enwedig i raddedigion medrus.
Y siaradwr gwadd yn y gynhadledd oedd Rhys Andrews, Rheolwr Cyffredinol y ‘Marco Pierre White Steakhouse and Grill’ yn Abertawe, a siaradodd am ddatblygiadau cyffrous yn y Grŵp Marco Pierre White a’r cysylltiad y bydd ganddynt i’r Radd Gastronomi Rhyngwladol newydd sy’n dechrau ym mis Ebrill 2022 yn Y Drindod Dewi Sant. Rhannodd Rhys yrfa wych Marco Pierre White, yn cynnwys cyrraedd 3 seren Michelin (y pen-gogydd cyntaf yn y DU i wneud hynny), a siaradodd am frwdfrydedd Marco am y proffesiwn a’i awydd i annog mwy i ymuno â’r diwydiant Lletygarwch, gan ddweud bod y rhaglen newydd yn gyfle gwych iddynt wneud hynny.
Siaradodd Daniel Payne, un o raddedigion y radd Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol, a Rheolwr Swyddfa Flaen y ‘Retreats Group’ mawreddog yn Sir Benfro, am westai moethus Tŵr Y Felin, y Priordy a Chastell Roch yn Sir Benfro. Dywedodd wrth y gynhadledd am y profiad gwesteion anhygoel y mae’r gwestai’n ei gynnig. Amlinellodd Laurence Blake a Ffion Cumberpatch eu gyrfaoedd ar ôl graddio, ac amlinellodd Lisa Marie Basler a Monika Isufi Smarul, dau o fyfyrwyr cyfredol yr MBA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol eu teithiau cyn astudio ar gyfer eu graddau a’u profiad fel myfyrwyr ôl-raddedig sy’n parhau yn Y Drindod Dewi Sant.
Siaradodd Dr Jayne Griffith-Parry, Rheolwr y BA (Anrh) ac MBA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol yn Y Drindod Dewi Sant am ddyfodol disglair ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant twristiaeth a lletygarwch. Meddai,
“Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig cwrdd â myfyrwyr Addysg Bellach o bob cwr o Gymru, a rhannu ein cyraeddiadau gradd wych gyda nhw, a gallu lansio ein rhaglen newydd yn Ebrill 2022 sef y BA (Anrh) Gastronomi Rhyngwladol sy’n cael ei ysbrydoli gan Marco Pierre White a lleoliad o fewn ei frand o fwytai; gan ddarparu deilliannau positif ar gyfer ein myfyrwyr...yn wir, mae’r dyfodol yn ddisglair i’r Diwydiant Lletygarwch gyda chefnogaeth yr Ysgol Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth yn Y Drindod Dewi Sant.
Siaradodd Jacqui Jones (YDDS) am Ailddiffinio Moethusrwydd drwy ddefnyddio Cyrchfan y Little Nell Hotel yng Ngholorado yn enghraifft o sut y gall gwesty a chyrchfan ddarparu ar gyfer mympwyon pobl gyfoethog ac enwog.
Yn ei gyflwyniad ‘Hospitality First’ siaradodd Ryan Peters (YDDS) am roi’r gwestai yng nghanol ffordd o feddwl lletygarwch. Yn gyn-reolwr rhanbarthol ar gyfer Premier Inn, siaradodd Ryan am ei brofiadau a sut yr aeth o nerth i nerth o fewn y cwmni Whitbread a’i gariad at y diwydiant.
Rhoddodd Emily Williams (YDDS), rheolwr AD Clwstwr cynt i Westai Marriott Abertawe a Chaerdydd, drosolwg o’i gyrfa yn y diwydiant gwestai yn amlinellu’r cyfleoedd niferus a gynigiwyd iddi drwy ymuno â chwmni gwestai rhyngwladol. Adroddodd stori a bwysleisiodd posibiliadau cyffrous sydd bellach ar gael ar gyfer teithio a chyfoethogi o fewn y sector gwestai sydd ohono a chanolbwyntiodd ar gyngor i fyfyrwyr sy’n cael eu swydd gyntaf ym maes lletygarwch a datblygu eu hunain fel brand.
Daeth John Howells â’r gynhadledd i ben drwy edrych ymlaen at y 4ydd Cynhadledd Gwestywyr Ifanc a Lletygarwch yn 2022. Ychwanega,
“Rwy’n meddwl mai diben y gynhadledd oedd ysbrydoli pobl ifanc. Mae Lletygarwch yn adfer nawr, ond mae potensial enfawr i bobl ifanc gael gyrfa foddhaus mewn diwydiant anhygoel.
Ychwanegodd Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd,
“Bu’n bleser enfawr cael gwahoddiad i’r Gynhadledd Gwestywyr Ifanc a’i fynychu, fe gymerodd y myfyrwyr a oedd yno ran yn y dydd yn frwd. Mae’r adborth mae’r tîm wedi’i dderbyn wedi bod yn galonogol iawn, fel “mae’n rhaid eich bod yn falch iawn o’r myfyrwyr a wnaeth gyflwyniad, mae hyn wedi rhoi’r cyfle i’n myfyrwyr ddeall sut yrfaoedd y gallent eu cael yn y diwydiant hwn”. Da iawn i bawb a gefnogodd y dydd.”
Wrth i’r digwyddiad hwn brofi ei boblogrwydd unwaith eto yn ardal De Cymru, mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cynadleddau pellach yn nhymor y Gwanwyn yn Llundain, Birmingham a Newcastle.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476